Prosiect:

Cyn Ysbyty Gogledd Cymru, Sir Ddinbych

Trosolwg:

Mae'r hen ysbyty mewn cyflwr gwael yn dilyn ymosodiadau llosgi bwriadol a fandaliaeth ddifrifol. Bydd y prosiect yn dymchwel, dad heintio a glanhau'r safle i fod yn addas ar gyfer adeiladau preswyl a chyflogaeth. Wrth wneud hyn, y nod yw yn denu buddsoddiad sector preifat a chreu cyfleoedd i fusnesau adleoli, ehangu a sicrhau swyddi newydd.

Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio gyda'r prif noddwr, Jones Bros Civil Engineering UK i ddatblygu'r prosiect hwn.

Prif Noddwr:

Amcanion

Creu Swyddi

Hyd at 74 o swyddi newydd yn y rhanbarth

Datblygiadau Preswyl

Datblygu tir ar gyfer 300 o gartrefi

Safleoedd Busnes

Datblygu 1,100m2 o dir a fydd yn addas i fusnesau 

Targedau Buddsoddi

£7m

Cynllun Twf

£0m

Sector Cyhoeddus Arall

£70m

Sector Breifat

£74m

Cyfanswm Buddosddiad

Pa gam mae'r prosiect wedi cyrraedd?

Cam01.
Pennu cyd-destun y Prosiect:

Cam cynllunio'r cynnig gwariant. Asesu cyd-destun strategol y prosiect a dangos sut mae'n darparu synergedd â phrosiectau eraill yn y portffolio.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam02.
Paratoi'r Achos Amlinellol Strategol:

Cam cwmpasu'r prosiect. Cyflwyno’r achos dros newid a nodi'r ffordd orau ymlaen.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam03.
Paratoi'r Achos Busnes Amlinellol:

Y cam cynllunio ar gyfer y prosiect. Nodi'r opsiynau sy'n cynnig gwerth am arian, cadarnhau fforddiadwyedd y prosiect a phenderfynu ar y trefniadau ar gyfer cyflawni'r prosiect yn llwyddiannus.

Check icon progress icon Ar y Gweill
Cam04.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol:

Cyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam caffael y prosiect ddechrau.

Check icon progress icon
Cam05.
Paratoi'r Achos Busnes Llawn:

Cam caffael y prosiect. Cofnodi canfyddiadau'r caffaeliad, nodi'r opsiwn sy'n darparu'r gwerth cyhoeddus gorau a chadarnhau'r trefniadau rheoli ar gyfer cyflwyno, monitro a gwerthuso'r prosiect.

Check icon progress icon
Cam06.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn:

Cyflwyno’r Achos Busnes Llawn i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam gweithredu'r prosiect ddechrau.

Check icon progress icon
Cam07.
Gweithredru a monitro’r Prosiect:

Cam gweithredu'r prosiect. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn fel pwynt cyfeirio at gyflawni'r prosiect a monitro cynnydd.

Check icon progress icon
Cam08.
Gwerthuso'r Prosiect:

Cam gweithredu ar ôl prosiect. Asesu pa mor dda y cyflawnwyd y prosiect a'r gwersi a ddysgwyd. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn i bennu i ba raddau y cafodd y buddion disgwyliedig eu cyflawni a'u gwireddu.

Check icon progress icon

Prif Aelodau

  • Huw Jones Cadeirydd, Jones Bros. Civil Engineering UK
  • David Mathews Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo