Hwb Hydrogen Caergybi
Bydd y prosiect hwn yn sefydlu cyfleuster cynhyrchu a dosbarthu hydrogen gwyrdd ym Mharc Cybi, Caergybi sydd o fewn ardal Porthladd Rhydd Ynys Môn, gan gyflenwi cwsmeriaid trafnidiaeth ffyrdd, morwrol a rheilffyrdd ar draws Gogledd Cymru.
Bydd yr hwb yn cynyddu diogelwch ynni hydrogen, gan leihau dibyniaeth ar fewnforion a lleihau allyriadau carbon, yn enwedig yn y sector drafnidiaeth. Bydd y prosiect yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad yr economi hydrogen ranbarthol, gan ysgogi masnacheiddio a mabwysiadu hydrogen fel tanwydd, denu buddsoddiad mewnol a chreu swyddi gwerth uchel hirdymor.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio gyda'r prif noddwr, Menter Môn i ddatblygu'r prosiect hwn.
Prif Noddwr:
Targedau Buddsoddi
£3.8m
Cynllun Twf£5.5m
Sector Cyhoeddus Arall£19.5m
Sector Breifat£28.8m
Cyfanswm BuddsoddiadPrif Aelodau
-
Gerallt Llewelyn Jones Menter Môn
-
Elgan Roberts Rheolwr Rhaglen Ynni Carbon Isel
-
Renia Kotynia Rheolwr Rhaglen Ynni Carbon Isel dros dro