Ein ymrwymiad

Mae’r Bwrdd Uchelgais Economaidd yn cydnabod yr argyfyngau hinsawdd ac ecolegol ac yn addo y bydd prosiectau’r Cynllun Twf yn cael eu cyflawni i’r targedau uchelgeisiol a ganlyn.

Ein nôd

Rydym eisiau ysgogi newid economaidd cadarnhaol i Ogledd Cymru ond nid ar draul niweidio ein hamgylchedd. Bydd ein methodoleg yn sicrhau bod ein datblygiadau'n cael eu hadeiladu'n gynaliadwy a'u bod yn barod ar gyfer y dyfodol.

I gyflawni'r uchelgeisiau yma, bydd pob prosiect Cynllun Twf yn anelu

i greu

0

net o allyriadau carbon pan yn weithredol
i yrru

10%

o gynydd yn bioamrywiaeth
i leihau allyriadau carbon

40%

yn ystod y gwaith adeiladu

Pam ein bod yn ymrwymo i'r targedau hyn?

Llai o gostau

Byddwn yn defnyddio deunyddiau sy'n well i'r amgylchedd a byddwn yn ystyried y defnydd a wneir o ynni drwy gydol y gwaith o gynllunio'r prosiectau i gyd. Drwy wneud hyn, byddwn yn gwario llai ar y defnydd o ynni a byddwn yn lleihau'r siawns o wastraffu arian drwy fod angen amnewid adeilad neu offer yn rhy fuan (e.e. i gydymffurfio â rheoliadau).

Cynnydd mewn bioamrywiaeth

Bydd ein prosiectau yn ystyried sut i gynyddu bioamrywiaeth ym mhob cam o'u datblygiad, gan anelu i'w wella o leiaf 10%. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn colli bioamrywiaeth ac y bydd ein prosiectau yn mynd ati'n weithredol i roi sylw i golledion planhigion, pryfetach a bywyd gwyllt yng ngogledd Cymru.

Gwell Ansawdd Aer

Bydd ein prosiectau yn ynni effeithlon, sy'n golygu llygredd llai niweidiol a bod llai o garbon yn cael ei ryddhau.

Mwy o gyfleoedd

Wrth wneud hyn, byddwn yn denu buddsoddiad gwyrdd, yn creu swyddi gwyrdd ac yn darparu mwy o gyfleoedd hyfforddi.

Cydnabyddiaeth

Rydym wedi ennill cydnabyddiaeth fel Astudiaeth Achos Arweinyddiaeth yng nghanllawiau carbon mewn seilwaith cenedlaethol y DU PAS 2080 – canllawiau sydd wedi’u weld yn chwyldroadol gan Fforwm Economaidd y Byd.

Mae’r canllawiau’n darparu safon i sefydliadau reoli carbon mewn adeiladau a seilwaith, lleihau carbon a chost drwy ddylunio, adeiladu a defnyddio deallus.

quotation graphic

Arweiniodd Robyn Lovelock, ein Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf, ddatblygiad y dull gan weithio gydag Arup. Meddai:

“Mae ein hymagwedd yn sicrhau bod allyriadau ac effeithiau bioamrywiaeth pob prosiect yn cael eu hystyried o’r cam cynharaf – pan mai cysyniad yn unig yw prosiectau. Mae hyn yn lleihau costau drwy sgrinio prosiectau posibl nad ydynt yn cefnogi datblygiad cynaliadwy a ffyniant ein rhanbarth yn y dyfodol. Yn yr un modd, mae ein hymagwedd yn sicrhau bod atebion carbon isel, natur-bositif yn cael eu hintegreiddio i ddyluniad y prosiect o’r cam cyntaf, sy’n osgoi ail-ddylunio costus ac ôl-ffitio yn ddiweddarach.”

quotation graphic

Os hoffech weld y methodoleg llawn neu os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch gyda ni adnoddau@uchelgaisgogledd.cymru

Cwestiynau

Newid Hinsawdd: Yn syml, mae hyn yn golygu bod y ddaear yn poethi yn sgil y nwyon y mae bodau dynol yn eu rhyddhau i'r aer. Mae'r planhigion a'r anifeiliaid yr ydym eu hangen i oroesi yn marw oherwydd y newidiadau hyn.

Allyriadau Carbon: Allyriadau Carbon (neu allyriadau CO2) yw'r nwyon sy'n cael eu creu wrth losgi tanwydd ffosil (e.e. mae'r rhain yn cael eu cynhyrchu wrth adeiladu, mewn ffatrïoedd ac wrth yrru ceir).

Bioamrywiaeth: Y nifer a'r mathau o anifeiliaid / planhigion / pryfetach byw, ac ati, mewn ardal, sydd yn hanfodol i ecosystem yr ardal.

Rydym wedi datblygu methodoleg fanwl ar gyfer ein prosiectau, sy'n cynnwys canllaw ar gyfer ystyried allyriadau a bioamrywiaeth ym mhob cam o ddatblygu'r prosiect.

O fewn y canllaw, rhaid i bob prosiect:

  • Ystyried yr ynni y bydd y prosiect ei angen yn ystod y gweithrediadau
  • Addasu'r newidiadau dylunio i leihau'r allyriadau yn ystod y gwaith adeiladu
  • Ystyried y dewis o ddeunyddiau adeiladu a'u heffaith amgylcheddol
  • Asesu cyflwr bioamrywiaeth cyn ac ar ôl y gwaith adeiladu

Mae'r canllaw hwn yn dilyn y camau sydd wedi'u nodi yng Nghanllaw Trysorlys EM ar Ddatblygu Achosion Busnes y Prosiect ac sy'n alinio â chanllawiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ar hyn o bryd, mae'r fethodoleg hon yn hygyrch ar gais: Adnoddau@uchelgiasgogledd.cymru

Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd ac ecolegol ac rydym angen ailystyried sut yr ydym yn adeiladu pethau.

Ar hyn o bryd, mae gormod o allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr yn cael eu creu wrth adeiladu.

Mae'n newid ein hamgylchedd mewn ffyrdd dramatig. Os na fydd sefydliadau yn lleihau'r swm o allyriadau a gynhyrchir, bydd yn golygu cynnydd yn lefelau'r môr a mwy o dywydd eithafol (llifogydd, stormydd a gwres poethach fyth). Bydd hyn hefyd yn effeithio ar ein cyflenwad bwyd a gofal meddygol gan y bydd llai o fioamrywiaeth yn goroesi.

Os na fyddwn yn ymdrin â'r materion hyn, yn gyflym, rydym mewn perygl o weld newidiadau difrifol yn y tywydd a'r tirwedd yng ngogledd Cymru.

Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd ac ecolegol.

Rydym mewn perygl o weld ein bywydau, a bywydau cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu heffeithio yn sylweddol gan ddigwyddiadau tywydd eithafol a heriau diogelwch bwyd. Os allwn ni annog gostyngiadau mewn allyriadau a gwelliannau bioamrywiaeth drwy'r fethodoleg hon, neu fethodoleg debyg, i ddod yn arferiad ar gyfer yr holl brosiectau adeiladu, gallwn gefnogi gogledd Cymru sy'n barod ar gyfer y dyfodol. Rydym am uchafu ffyniant (twf carbon isel) gan leihau'r effaith amgylcheddol niweidiol.