Gan: Angharad Evans
quotation graphic

Yr unig berson oedd yn meddwl bod angen i mi ddewis rhwng gyrfa lwyddiannus a fy nheulu oedd - fi fy hun. Doedd dim rheswm na allwn i gael y ddau.

quotation graphic

 Darn barn gan Rheolwr Prosiect Graddedig, Angharad Evans

“Ar ôl i mi adael Gogledd Cymru, dydw i byth yn dod yn ôl!”

Dyma oedd fy ‘mantra’ i. Wedi imi adael, byswn i byth yn dod nôl – pam byswn i?

Roedd gen i'r naratif nad oedd gan Ogledd Cymru ddim i'w gynnig. Eto dyma fi, yn ôl adref yng Ngogledd Cymru, ac ni allaf ddychmygu byw na gweithio yn unman arall. Ond beth newidiodd?

 

Teulu neu Gyrfa:

Roeddwn i yn meddwl bod rhaid i mi ddewis rhwng gyrfa llwyddiannus neu fy nheulu. I gael gyrfa lwyddiannus - byddai'n rhaid i mi fyw yn unrhyw le ond yma. Yn ystod fy nhair blynedd yn y brifysgol mewn dinas yng Ngogledd Lloegr, dwy awr a hanner oddi cartref, roedd hon yn ddadl roeddwn i’n ei chael yn rheolaidd.

Y naratif rydyn ni'n ei glywed yn aml yn ystod ein haddysg yw: "anela'n uchel i’r swydd yn y ddinas fawr", nid oedd Gogledd Cymru wedi croesi fy meddwl fel opsiwn ar gyfer y dyfodol. Dim unwaith.

 

Nid oeddwn erioed wedi ystyried symud yn ôl adref yn opsiwn. Yn sicr, meddyliais “ni allwn ddefnyddio fy ngradd yng Ngogledd Cymru”? Ar hap, fe chwiliais am swydd. Wrth i mi sgrolio drwy’r hysbysebion swyddi, sylweddolais nad oedd “breuddwydion mawr” yn gyfyngedig i’r dinasoedd. Gallwn i gael cyfleoedd llawn cystal yng Ngogledd Cymru. Yn lle gweld symud yn ôl adref yn gyfyngol, gallwn weld posibiliadau diddiwedd ar gyfer y dyfodol.

 

Yr unig berson oedd yn meddwl bod angen i mi ddewis rhwng gyrfa lwyddiannus a fy nheulu oedd - fi fy hun. Doedd dim rheswm na allwn i gael y ddau.

 

Gweithio gartref:

Tra bod fy holl ffrindiau yn brysur yn ymgeisio am swyddi graddedig yn y dinasoedd mawr, roeddwn yn barod i symud yn ôl - heb unrhyw gynllun ond angerdd a'r awydd i ddod adref.

Nid oedd gen i syniad ar yr amrywiaeth o waith yng Ngogledd Cymru. Roeddwn mor anghywir i feddwl mai’r unig gyfleoedd fyddai mewn Amaethyddiaeth, Twristiaeth neu Letygarwch. Pam nad oeddwn wedi ymchwilio hyn yn gynt?

Mae economi Gogledd Cymru wedi esblygu ac yn parhau i wneu. Fel Rheolwr Prosiect Graddedig Sgiliau a Chyflogadwyedd gyda’r Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol (BSR), rwy’n ffodus i weld hyn yn uniongyrchol. Wrth i brosiectau Cynllun Twf Gogledd Cymru ddod yn fyw, mae’r BSR yn gweithio i gwmpasu anghenion sgiliau a bylchau’r rhanbarth i sicrhau bod y ddarpariaeth yn addas i ymateb i gyfleoedd sydd ar ddod. Mae'r gwaith hwn yn bwysig i wneud Gogledd Cymru yn lle dymunol i ddysgu a gweithio ynddo.

 

Pam Gogledd Cymru?

Rwy’n annog pawb i ystyried manteision aros neu hyd yn oed ddychwelyd i Ogledd Cymru i fyw a gweithio. Mae Gogledd Cymru yn cynnig y gorau o ddau fyd – gallaf fyw bywyd yn y lle rwy’n teimlo fwyaf cartrefol, tra hefyd yn cael mynediad at y cyfleoedd hyfforddi a gwaith gorau. Gallaf werthfawrogi Gogledd Cymru yn ei gyfanrwydd o'r diwedd.

Os mae eich angerdd yn y maes Ynni Adnewyddadwy, y sector Digidol neu unrhyw ddiwydiant arall, mae gan Ogledd Cymru amrywiaeth o gyfleoedd gwerth uchel cyffrous. Os ydych yn dechrau yn eich gyrfa (Graddedig fel fi) neu'n arweinydd profiadol, mae rhywbeth at ddant pawb. Pwy well i gymryd y cyfleoedd hyn na phobl Gogledd Cymru?

 

"Ond does gen i ddim y sgiliau?" Rwy'n eich clywed yn dweud. Mae gan Ogledd Cymru nifer o gyfleoedd hyfforddi rhagorol i helpu i ddatblygu'r sgiliau hynny, o uwchsgilio, ailhyfforddi neu ddysgu rhywbeth newydd. Mae cefnogaeth ar gael drwy wasanaethau fel Gyfrifon Dysgu Personol i Brentisiaethau Gradd (a phopeth yn y canol!).

 

Rwyf yn bles iawn gyda’r bywyd dwi wedi ei greu, mae’n fywyd yr oedd llawer o bobl yn ceisio amdano yn ystod y pandemig. Mae wedi fy ngwneud yn fwy diolchgar nag y gallaf ei ddisgrifio. Pwy fyddai wedi meddwl y gallai fy agwedd tuag at Ogledd Cymru, tuag at fy nghartref, newid mor syfrdanol?

 

Dwi methu aros i weld beth sydd gan y dyfodol yng Ngogledd Cymru i’w gynnig!

 

~~

Be sy'n eich dal chi nôl rhag dychwelyd i Gymru i newid gyrfa, symud tŷ, neu gychwyn menter newydd? Dyma eich cyfle i gymryd y naid - mae cyfleoedd a chymorth yma! Beth am ddychwelyd i'ch cynefin? #DewchYnÔl