Gan: Graham Williams

Darn barn gan Graham Williams, Rheolwr Prosiect Datgarboneiddio Trafnidiaeth 

 

“Does neb yn gwerthu cerbydau hydrogen yn y Deyrnas Unedig a hyd yn oed os y byddent, does neb yn gwerthu hydrogen!” rwy’n clywed chi’n dweud.

I raddau, rydych yn gywir. Nid oes unrhyw lorïau hydrogen ar y farchnad agored ar hyn o bryd, ac mae gennym lai o orsafoedd llenwi hydrogen yn y rhanbarth nag sydd gennym gamelod yn y Sŵ Fynydd Gymreig Bae Colwyn. Fodd bynnag, mae pethau'n newid yn gyflym.

Ond yn gyntaf, gadewch i mi egluro pam y bydd hydrogen yn allweddol i ddatblygu Gogledd Cymru gynaliadwy.

 

Y Pam:

Tydi darganfod ateb i ddatblygu trafnidiaeth sero net erioed wedi bod mor bwysig, yn enwedig ar gyfer cerbydau trwm fel lorïau. Mae technoleg yn datblygu'n gyflym, ac mae angen gweithredu ar unwaith i ddatgarboneiddio trafnidiaeth er mwyn sicrhau dyfodol gwyrdd. Rydym angen dod o hyd i ateb ymarferol sy'n galluogi symudiad parhaus o nwyddau a phobl, tra’n sicrhau ein bod yn ymateb i newid yn yr hinsawdd.

 

Nid disel a batris ydi’r ateb:

Mae'r ddadl am ddisel neu fatris bellach yn hynafol.  Mae'n debygol byddai’r lori ddisel rydych yn prynu heddiw yn un o’r rhai olaf. Pam? Yn ystod ei oes, bydd cynhyrchu tryciau disel newydd yn dod i ben.

Beth am fatris? Wel, gadewch i ni egluro sut mae cerbydau batris yn gweithio. Y trymaf yw’r cerbyd, y mwyaf o egni fydd ei angen. Y mwyaf o egni sydd ei angen, y trymach fydd y batris. Fel mae'r batris yn mynd yn drymach, mae llai o bwysau ar gael ar gyfer y llwyth. Mae llwythi llai yn golygu bod angen mwy o deithiau, sy'n arwain at fwy o draffig.  Mae’r datblygiadau batris diweddar yn gwneud cynnydd i mewn i gerbydau dosbarthu rhanbarthol a lleol, ond nid yw unrhyw gwneuthurwyr yn cynnig batris fel ateb ar gyfer y tryciau trwm pellter hir.

Dychmygwch faint o amser gall gymryd i ailwefru batris loriau maint mawr ac yr effaith y byddai hynny'n ei gael ar amserlen dosbarthu. Gall yr amser sydd wedi'i neilltuo ar gyfer ailwefru effeithio ar derfynau cyfreithiol oriau gyrwyr, oedi yn y gadwyn gyflenwi ac aneffeithlonrwydd.

Allwch chi ddychmygu’r gwasanaethau brys yn methu symud oherwydd eu bod yn aros i ailwefru? Neu'r loriau graeanu ffyrdd yn oedi oherwydd ei fod wedi bwrw eira yn hirach na'r disgwyl?

 

I mewn ddaw hydrogen:

Mae hydrogen yn cael ei hybu ar agenda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae cytundeb cadarn ei fod yn gyfle sylweddol i ddatgarboneiddio sectorau cyfan o’n heconomi, yn enwedig diwydiannau tymheredd uchel a thrwm. Mae Strategaeth Hydrogen y DU yn arwydd o ddechreuad buddsoddiad sylweddol i gynhyrchu hydrogen ar gyfer datgarboneiddio.

Mae'r defnydd o hydrogen gwyrdd ar gyfer trafnidiaeth yn y bôn yn beth o harddwch. Rydych yn cymryd egni o'r tywydd i bweru peiriant (electrolyser), yn ychwanegu rhywfaint o ddŵr - ac mae hydrogen yn dod allan.  Cipio’r hydrogen, ei gywasgu, a'i roi mewn tanc tanwydd ydy’r oll sydd ei angen.

 

Beth yr ydym yn ei wneud:

Mae gennym ni ddigonedd o ynni adnewyddadwy a fydd yn cael effaith sylweddol ar gyfraniad ein rhanbarth tuag at sero net. Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi clustnodi £11.4 miliwn tuag at ddatgarboneiddio rhwydweithiau trafnidiaeth rhanbarthol, gyda chanolfan arddangos hydrogen yng Nglannau Dyfrdwy yn ei gyfnod cysyniad.  Bydd hyn yn golygu cerbydau hydrogen ar ein strydoedd ymhell cyn bod angen i chi newid y lori disel newydd a brynwyd heddiw. Nid ni yw’r unig rai sy’n gwneud gwahaniaeth, mae menter gymdeithasol Menter Môn yn dilyn uchelgais hwb hydrogen ‘gwyrdd’ yng Nghaergybi.

Mae’r dyfodol yn dod yma i Ogledd Cymru yn gynt nag oedd y rhan fwyaf yn ei feddwl flwyddyn yn ôl, ac mae trawiad cyntaf o’r llun hydrogen yn cael eu weithredu’n awr.

Fodd bynnag, nid yw mor hawdd â hynny eto, fel y crybwyllwyd yn gynharach, nid oes unrhyw lorïau hydrogen ar gael i'w prynu. Er hynny, rydym yn gweithio gyda’r llywodraethau ac yn cymryd camau i ddadrewi’r sefyllfa drwy ystyried ymyriadau ar alw a chyflenwad.

Mae Llywodraeth y DU yn cynnig cefnogi cynhyrchu hydrogen drwy grantiau cyfalaf ac yna cefnogi'r pris manwerthu fel bod hydrogen yn dod yn gystadleuol gyda disel. Maen fwriad ganddynt cael hyn yn ei le yn 2023. Bydd rhaid aros am fanylion terfynol, ond byddai hyn yn cynorthwyo'r ochr gyflenwi.

O ran ochr y galw, gall sawl ymyrraeth gymell cynhyrchwyr i addasu cerbydau hydrogen y farchnad dramor ar gyfer defnydd yn y DU, cefnogi gweithredwyr cerbydau yn y cyfnod pontio, ac hyfforddi pobl i gynnal y dechnoleg newydd – sef economi hydrogen gwyrdd newydd.

 

Sut mae'n effeithio arnoch chi:

Mae'r cyfle yn glir. Bydd hydrogen yn dod â swyddi newydd, sy'n talu'n dda mewn diwydiant sy'n llawn twf rhanbarthol, yn ogystal â'r potensial i fod yn rhyngwladol.

Mae trafnidiaeth allyriadau sero yn dod yn anghenraid, ond nid yn unig fyddwn yn cydymffurfio â newidiadau deddfwriaethol - byddwn yn ymateb i'r her - ac yn ffynnu'r broses.

~

Os ydych yn weithredwr cerbydau trwm neu eisiau archwilio cyfleoedd masnachol a allai ddod ar gael, yna plîs cysylltwch â grahamwilliams@uchelgaisgogledd.cymru.