Angharad gyda'r teulu
Fy enw i yw Angharad, a dwi’n Swyddog Cefnogi Rhaglen ar gyfer Uchelgais Gogledd Cymru ac yn fam i bump o blant anhygoel. Wedi treulio 20 mlynedd yn gweithio fel mam lawn-amser, eleni, fe wnes i ddychwelyd i'r gweithle ac roeddwn i am rannu fy mhrofiad gyda chi. Dyma fy mhrif ganfyddiadau ar ôl dychwelyd i'r gwaith:
1) Mae gennych y sgiliau rydych eu hangen i fod yn llwyddiannus yn barod:
Os ydych chi'n rhiant, mae gennych y sgiliau rydych wedi'u dysgu o fod yn rhedeg cartref prysur a bywyd teuluol yn barod. Bydd hyn yn rhoi'r gwytnwch emosiynol a chorfforol i chi i weithio yn y gweithle yn effeithlon ac yn effeithiol.
Fe wnaeth bod yn fam lawn-amser fy helpu i, i ddatblygu sgiliau fel gwneud sawl peth ar unwaith, cynllunio, trefnu eich hun ac eraill, cefnogi'r sawl sydd o'ch cwmpas, gwrando'n dda, ymestyn eich hun, dysgu pethau newydd, bod yn optimistig, gofyn am help a bod yn falch o'r hyn rydych chi'n ei wneud.
Mae'r rhain yn bethau yr ydych yn eu gwneud yn barod ond mae'r sgiliau rydych wedi'u dysgu drwy fagu teulu mor werthfawr yn y gweithle. Mae ymdopi â nifer o alwadau yn rhywbeth y mae'r rhan fwyaf o rieni yn gyfarwydd ag o, ond mae'r rhain yn hanfodol wrth ymdrin â thasgau yn y gwaith hefyd.
2) Peidiwch â gwrando ar y amheuon amdanoch chi'ch hun:
Mae gan bawb y lleisiau hynny yn eu meddyliau, ond ar ôl bwlch mor hir yn eich gyrfa, mae'n bosib y byddwch yn dechrau eu credu nhw. Dwi yma i ddweud wrthych, peidiwch! Mae amheuaeth yn rhwystr mawr mewn gyrfa, ond yn aml does dim tystiolaeth am yr amheuon yma felly peidiwch â gwrando arnyn nhw. Addasu i ffordd newydd o feddwl, cydbwyso'r galwadau blaenorol oedd gennych gyda'r galwadau newydd o'r swyddfa - mae hyn yn bosib, rydych chi'n arbenigwr mewn blaenoriaethu, cofiwch!
Gall parodrwydd i ddysgu wrth i chi fynd yn eich blaen eich helpu i ddod dros unrhyw deimladau y gallech fod yn eu teimlo nad ydych chi'n ddigon da. Mae gymaint o gefnogaeth ar gael, o gyrsiau, hyfforddiant, cymheiriaid ac, yn fy achos i, tîm cyfeillgar, cefnogol ac amyneddgar.
3) Byddwch yn teimlo eich bod wedi'ch grymuso:
Mae dychwelyd i'r gwaith yn ffordd o ddarganfod pethau amdanoch eich hun. Byddwch yn sylweddoli pethau amdanoch eich hun nad oeddech yn eu gwybod cynt. Byddwch yn adeiladu eich gwytnwch, yn ennill hyder, yn dod o hyd i ffyrdd o gefnogi eraill yn y gwaith ac yn dechrau credu ynoch eich hun eto. Does gennych ddim byd i’w golli a chymaint i'w ennill. Mae ambell i gam gwag yn bwysig, i sicrhau eich bod yn parhau ar flaenau eich traed ac yn gwthio'ch hun i'r cyfeiriad cywir.
Gall newid fod yn rhywbeth ofnus, ond, fel popeth newydd, gall fod yn werth chweil a mor gyffrous.
Mae fy nheulu yn parhau i fod y peth pwysicaf i mi, fydd hynny byth yn newid. Fodd bynnag, mae fy mhlant nawr yn meddwl bod "Mam yn gallu gwneud pethau newydd", sy'n golygu eu bod nhw'n fy ngweld i mewn golau newydd ac mae hynny'n deimlad gwych.
Efallai y byddwch yn darllen hwn ac yn teimlo'r awydd i ddychwelyd i fwrlwm byd gwaith. Fel arall, mae'n bosib bod eich amgylchiadau yn golygu bod yn rhaid i chi ddychwelyd i'r gwaith, oherwydd y costau byw uchel ar hyn o bryd, neu dor-perthynas neu blant yn gadael y nyth. Mae'n bosib y byddwch yn teimlo'n betrus nawr, ond fydd dychwelyd i'r gwaith ddim mor frawychus â hynny.
Rydw i am sicrhau unrhyw ferch sy'n amau ei gallu i ddychwelyd i'r gwaith, y gallwch ei wneud o. Mae gennych yr hyn sydd ei angen yn barod, felly ewch amdani.