Prosiect:

Anturiaethau Cyfrifol

Trosolwg:

Bydd y prosiect hwn yn hyrwyddo Gogledd Cymru fel cyrchfan twristiaeth gynaliadwy flaenllaw. Nod y prosiect yw denu ymwelwyr ychwanegol mewn ffordd sy'n amgylcheddol gynaliadwy ac yn ystyriol i gymunedau lleol trwy wneud y mwyaf o'r buddion cymdeithasol, economaidd a diwylliannol i'r rhanbarth. Mae hwn yn brosiect aml-elfen sy'n ffurfio rhan o becyn cynaliadwy ac eco-dwristiaeth i ddatblygu car cebl cynaliadwy newydd, fforiwr llechi a rhwydwaith eFws.

Bydd y prosiect yn blaenoriaethu cynaliadwyedd amgylcheddol gyda strategaeth datgarboneiddio sy'n ceisio darparu dewis arall gwyrdd i gludo cwsmeriaid o amgylch ei safleoedd a Gogledd Cymru. Bydd yr iaith, diwylliant a threftadaeth Gymraeg yn cael ei gwella drwy gynnig cipolwg ar dreftadaeth ddiwylliannol ar hyd llwybr yr eFws a darparu cyd-destun hanesyddol ar dirwedd llechi Gogledd Cymru.

Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio gyda'r prif noddwr, Zip World Ltd i ddatblygu'r prosiect hwn.

Prif Noddwr:

ZipWorld

Amcanion

GVA Ychwanegol

Cynhyrchu hyd at £20 miliwn o GVA ychwanegol net

Creu Swyddi

Creu hyd at 175 o swyddi newydd i'r rhanbarth

Targedau Buddsoddi

£6.2m

Cynllun Twf

£0m

Sector Cyhoeddus Arall

£6.2m

Sector Breifat

£12.4m

Cyfanswm Buddsoddiad

Pa gam mae'r prosiect wedi cyrraedd?

Cam01.
Pennu cyd-destun y Prosiect:

Cam cynllunio'r cynnig gwariant. Asesu cyd-destun strategol y prosiect a dangos sut mae'n darparu synergedd â phrosiectau eraill yn y portffolio.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam02.
Paratoi'r Achos Amlinellol Strategol:

Cam cwmpasu'r prosiect. Cyflwyno’r achos dros newid a nodi'r ffordd orau ymlaen.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam03.
Paratoi'r Achos Busnes Amlinellol:

Y cam cynllunio ar gyfer y prosiect. Nodi'r opsiynau sy'n cynnig gwerth am arian, cadarnhau fforddiadwyedd y prosiect a phenderfynu ar y trefniadau ar gyfer cyflawni'r prosiect yn llwyddiannus.

Check icon progress icon Ar y Gweill
Cam04.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol:

Cyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam caffael y prosiect ddechrau.

Check icon progress icon
Cam05.
Paratoi'r Achos Busnes Llawn:

Cam caffael y prosiect. Cofnodi canfyddiadau'r caffaeliad, nodi'r opsiwn sy'n darparu'r gwerth cyhoeddus gorau a chadarnhau'r trefniadau rheoli ar gyfer cyflwyno, monitro a gwerthuso'r prosiect.

Check icon progress icon
Cam06.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn:

Cyflwyno’r Achos Busnes Llawn i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam gweithredu'r prosiect ddechrau.

Check icon progress icon
Cam07.
Gweithredru a monitro’r Prosiect:

Cam gweithredu'r prosiect. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn fel pwynt cyfeirio at gyflawni'r prosiect a monitro cynnydd.

Check icon progress icon
Cam08.
Gwerthuso'r Prosiect:

Cam gweithredu ar ôl prosiect. Asesu pa mor dda y cyflawnwyd y prosiect a'r gwersi a ddysgwyd. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn i bennu i ba raddau y cafodd y buddion disgwyliedig eu cyflawni a'u gwireddu.

Check icon progress icon

Prif Aelodau