Mae technolegau di-wifr uwch yn trawsnewid sawl diwydiant trwy ddarparu cysylltedd fwy sefydlog, fwy dibynadwy a chyflymach.

Yn y cyd-destun hwn, gallwn helpu busnesau i ddefnyddio'r holl amrediad o dechnoleg di-wifr – fel rhwydweithiau 5G, Rhyngrwyd Pethau (IoT), Wi-Fi a thechnoleg lloeren – i wella cynhyrchiant.

Yn ôl, Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg y DU, mae technoleg di-wifr uwch “yn galluogi i ni drosglwyddo data yn ein heconomi a'n cymdeithasau wrth iddynt ddod yn fwy digidol - gan gysylltu pobl a phethau”. Gall defnyddio systemau di-wifr arwain at ystod o fanteision busnes. O ddefnydd sylfaenol sy'n berthnasol i sefydliadau o bob maint, hyd at integreiddio soffistigedig gyda Deallusrwydd Artiffisial. Mae technolegau datblygol yn parhau i gyflwyno cyfleoedd newydd i arloesi.

Y Cyllid Ar Gael

Mae'r grantiau'n amrywio o £20,000 - £2 filiwn a bydd dyfarniadau yn amodol ar fodloni meini prawf y cynllun. Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu cyllid cyfatebol o o leiaf 50% a dangos enillion ar fuddsoddiad a rhagolygon creu swyddi.  

Ni fydd buddsoddiad yn gyfyngedig i dechnoleg neu ddiwydiant penodol. Bydd y gefnogaeth yn galluogi busnesau o sawl sector i gyflwyno ystod eang o ddatrysiadau.

Dim ond ar gyfer gwariant cyfalaf fel prynu offer a meddalwedd y gellir defnyddio grantiau; yn ogystal â chostau sy'n gysylltiedig â gosod a rheoli prosiect nes bod y dechnoleg ar waith. Ni fydd unrhyw gostau refeniw yn cael eu hariannu, a dylai'r ymgeisydd dalu'r holl gostau gweithredol unwaith y bydd systemau yn fyw.

Beth allwch chi ei ddisgwyl? 

Bydd y cynllun grant yn cael ei strwythuro yn broses dau gam gyda rowndiau ariannu:

  1. Datganiad o Ddiddordeb (DoDd)
  2. Cais Llawn

Agwedd bwysicaf eich Datganiad o Ddiddordeb (DoDd) yw dangos sut bydd eich prosiect yn cwrdd a'r deilliannau uchod, y gwahaniaeth y bydd yn ei wneud i'ch sefydliad, a pha mor barod ydyw i symud ymlaen i'r cam cyflawni.

Customer Journey

Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb (EOI) - Wedi Cau ar Hyn o Bryd

Mae'r ffenestr Datganiadau o Ddiddordeb (EOI) bellach wedi cau. Disgwylir i'r cyfnod ymgeisio nesaf agor ym mis Ionawr 2027.

Cwestiynau Cyffredin

Pwy all wneud cais   Gall busnesau cofrestredig a sefydliadau sy'n gweithredu yng Ngogledd Cymru sy'n barod i ddefnyddio datrysiadau technoleg ddiwifr ar raddfa ganolig i fawr wneud cais drwy gyflwyno DoDd. 

Ni fydd buddsoddiad yn gyfyngedig i dechnoleg na diwydiant penodol. Yn lle hynny, bydd cefnogaeth yn cael ei gynllunio i alluogi ystod eang o gymwysiadau ar draws sawl sector.

  • Mae cyfanswm o £18.8 miliwn o gyllid cyfalaf wedi’i ddyrannu rhwng Mehefin 2026 a Mawrth 2030 fel rhan o Fargen Twf Gogledd Cymru.
  • Gall fyny at 50% o gostau cymwys y prosiect gael eu hariannu drwy’r cynllun (gyda’r costau sy’n weddill yn gofyn am arian cyfatebol).
  • Mae grantiau’n amrywio o £20,000 i £2 filiwn, a bydd dyfarniadau yn ddarostyngedig i fodloni meini prawf y cynllun (manylir arnynt yn Adran 4 y Canllawiau).
  • Gall creu swyddi sy’n gysylltiedig â’r grantiau fod yn swyddi amser llawn cyfwerth (FTE) uniongyrchol neu anuniongyrchol, neu brentisiaethau, ond rhaid iddynt fod wedi’u lleoli yng Ngogledd Cymru. Gweler y Canllaw llawn am fanylion pellach.
  • Creu swyddi (uniongyrchol neu anuniongyrchol) yng Ngogledd Cymru
  • Disgwylir creu oddeutu un swydd FTE ar gyfer pob £90-£120,000 o gyllid grant a ddyfarir.  
  • Rhaid cynnal swyddi uniongyrchol neu anuniongyrchol am o leiaf 3 blynedd ar ôl y dyfarnu. Mae hyn yn cynnwys swyddi amser llawn parhaol neu gyfnod penodol; Bydd rolau rhan-amser yn cael eu cyfrif yn gymesur.
  • Bydd prentisiaethau hefyd yn cael eu hystyried 
  • Cynyddu gwerth ychwanegol gros net (GYC)  
  • Denu buddsoddiad ychwanegol i Ogledd Cymru

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch i lenwi'r ffurflen EOI, mae croeso i chi gysylltu â'r tîm ar digidol@uchelgaisgogledd.cymru   

Cysylltu â ni

Os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â thîm Uchelgais Gogledd Cymru ar: digidol@uchelgaisgogledd.cymru