Ein ymrwymiad
Mae’r Bwrdd Uchelgais Economaidd yn cydnabod yr argyfyngau hinsawdd ac ecolegol ac yn addo y bydd prosiectau’r Cynllun Twf yn cael eu cyflawni i’r targedau uchelgeisiol a ganlyn.
Ein nôd
Rydym eisiau ysgogi newid economaidd cadarnhaol i Ogledd Cymru ond nid ar draul niweidio ein hamgylchedd. Bydd ein methodoleg yn sicrhau bod ein datblygiadau'n cael eu hadeiladu'n gynaliadwy a'u bod yn barod ar gyfer y dyfodol.
I gyflawni'r uchelgeisiau yma, bydd pob prosiect Cynllun Twf yn anelu
0
net o allyriadau carbon pan yn weithredol10%
o gynydd yn bioamrywiaeth40%
yn ystod y gwaith adeiladuOs hoffech weld y methodoleg llawn neu os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch gyda ni adnoddau@uchelgaisgogledd.cymru
Crynodeb o'r fethodoleg
Cwestiynau
Newid Hinsawdd: Yn syml, mae hyn yn golygu bod y ddaear yn poethi yn sgil y nwyon y mae bodau dynol yn eu rhyddhau i'r aer. Mae'r planhigion a'r anifeiliaid yr ydym eu hangen i oroesi yn marw oherwydd y newidiadau hyn.
Allyriadau Carbon: Allyriadau Carbon (neu allyriadau CO2) yw'r nwyon sy'n cael eu creu wrth losgi tanwydd ffosil (e.e. mae'r rhain yn cael eu cynhyrchu wrth adeiladu, mewn ffatrïoedd ac wrth yrru ceir).
Bioamrywiaeth: Y nifer a'r mathau o anifeiliaid / planhigion / pryfetach byw, ac ati, mewn ardal, sydd yn hanfodol i ecosystem yr ardal.
Rydym wedi datblygu methodoleg fanwl ar gyfer ein prosiectau, sy'n cynnwys canllaw ar gyfer ystyried allyriadau a bioamrywiaeth ym mhob cam o ddatblygu'r prosiect.
O fewn y canllaw, rhaid i bob prosiect:
- Ystyried yr ynni y bydd y prosiect ei angen yn ystod y gweithrediadau
- Addasu'r newidiadau dylunio i leihau'r allyriadau yn ystod y gwaith adeiladu
- Ystyried y dewis o ddeunyddiau adeiladu a'u heffaith amgylcheddol
- Asesu cyflwr bioamrywiaeth cyn ac ar ôl y gwaith adeiladu
Mae'r canllaw hwn yn dilyn y camau sydd wedi'u nodi yng Nghanllaw Trysorlys EM ar Ddatblygu Achosion Busnes y Prosiect ac sy'n alinio â chanllawiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Ar hyn o bryd, mae'r fethodoleg hon yn hygyrch ar gais: Adnoddau@uchelgiasgogledd.cymru
Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd ac ecolegol ac rydym angen ailystyried sut yr ydym yn adeiladu pethau.
Ar hyn o bryd, mae gormod o allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr yn cael eu creu wrth adeiladu.
Mae'n newid ein hamgylchedd mewn ffyrdd dramatig. Os na fydd sefydliadau yn lleihau'r swm o allyriadau a gynhyrchir, bydd yn golygu cynnydd yn lefelau'r môr a mwy o dywydd eithafol (llifogydd, stormydd a gwres poethach fyth). Bydd hyn hefyd yn effeithio ar ein cyflenwad bwyd a gofal meddygol gan y bydd llai o fioamrywiaeth yn goroesi.
Os na fyddwn yn ymdrin â'r materion hyn, yn gyflym, rydym mewn perygl o weld newidiadau difrifol yn y tywydd a'r tirwedd yng ngogledd Cymru.
Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd ac ecolegol.
Rydym mewn perygl o weld ein bywydau, a bywydau cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu heffeithio yn sylweddol gan ddigwyddiadau tywydd eithafol a heriau diogelwch bwyd. Os allwn ni annog gostyngiadau mewn allyriadau a gwelliannau bioamrywiaeth drwy'r fethodoleg hon, neu fethodoleg debyg, i ddod yn arferiad ar gyfer yr holl brosiectau adeiladu, gallwn gefnogi gogledd Cymru sy'n barod ar gyfer y dyfodol. Rydym am uchafu ffyniant (twf carbon isel) gan leihau'r effaith amgylcheddol niweidiol.