Mae'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn gofyn am weithredu brys ar bob lefel: byd-eang i leol.

Ar lefel sir leol, rydym yn creu Cynlluniau Ynni Ardal Leol (LAEPs) a fydd yn cael eu gweithredu ar draws Gogledd Cymru o 2024.

Cymru fydd y wlad gyntaf yn y byd i gael Cynllun Ynni Cenedlaethol yn seiliedig ar 22 o Gynlluniau Gweithredu Lleol ar gyfer Awdurdodau Lleol.

Beth fydd y Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn ei gyflawni?

Ymateb i Sero Net

Nodi'r llwybr mwyaf effeithiol ar gyfer datgarboneiddio defnydd a chynhyrchiant ynni, a fydd yn cyfrannu at y targedau sero-net cenedlaethol.

Denu Buddsoddiad a creu Swyddi

Bydd cyflawni'r cynlluniau yn denu buddsoddiad ac yn cynhyrchu hyfforddiant a chyfleoedd swyddi cynaliadwy.

Llai o Allyriadau Carbon

Lleihau’r defnydd o ynni ac allyriadau carbon o’r amgylchedd adeiledig, trafnidiaeth, diwydiant a masnach.

Beth yw Cynllun Ynni Ardal Leol

Bydd Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn nodi'r ffordd orau o gynhyrchu ynni a gwres carbon isel neu ddi-garbon ar lefel sirol drwy ddefnyddio ystod o dechnolegau sy'n cadw ynni o'r haul, gwynt, llanw, afonydd a hydrogen.

Bydd Cynlluniau Ynni Ardal Leol hefyd yn nodi ffyrdd o leihau neu leihau defnydd ynni ac allyriadau carbon cymaint â phosibl o'r amgylchedd adeiledig, trafnidiaeth, diwydiant a masnach.

Beth mae hyn yn ei olygu i bobl Gogledd Cymru

O 2024 ymlaen, bydd y Cynlluniau Gweithredu Lleol yn cael eu rhoi ar waith drwy brosiectau a fydd yn denu cyllid a buddsoddiad.

Bydd y prosiectau hyn yn cynhyrchu hyfforddiant a miloedd o gyfleoedd swyddi cynaliadwy i bobl ar draws Gogledd Cymru.

Bydd defnyddio ynni glanach hefyd yn arwain at amgylchedd gwell.

Pwy sy'n ymwneud â Chynlluniau Ynni Ardal Leo

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu Uchelgais Gogledd Cymru i:

  • Rheoli contractau Arup, Affallen a’r Ymddiriedolaeth Garbon a fydd yn:
    • Casglu a dadansoddi data
    • Ymgysylltu ag amrywiaeth o sefydliadau sydd â gwybodaeth fanwl a phrofiad o gynhyrchu a dosbarthu ynni
    • Cynhyrchu senarios ynni
    • helpu Awdurdodau Lleol i arwain a chynhyrchu'r cynlluniau
  • Penodi Rheolwr Prosiect Ynni a dau Swyddog Prosiect Ynni i reoli'r contract a hwyluso datblygiad y Cynlluniau Gweithredu Lleol yn y rhanbarth.

Pa siroedd fydd â Chynlluniau Ynni Ardal Leol sut y cânt eu datblygu

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu Uchelgais Gogledd Cymru i ddatblygu Cynlluniau Ynni Ardal Leol ar gyfer Ynys Môn, Gwynedd, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam. Mae LAEP Conwy eisoes yn bodoli ac mae bellach yn y cam cyflawni.

Mae rhagor o wybodaeth am Gynlluniau Ynni Ardal Leol a’u camau datblygu ar gael yma (Saesneg yn unig): Guidance on creating a Local Area Energy Plan - Energy Systems Catapult

Ariennir gan