Am y Cynllun Twf

Mae'r Cynllun Twf yn gytundeb a fydd yn cynhyrchu cyfanswm buddsoddiad o dros £1 biliwn ar gyfer Gogledd Cymru. Wedi'i lofnodi ym mis Rhagfyr 2020, mae'r cytundeb yn sicrhau cyllid o £120 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £120 miliwn gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi ym mhortffolio prosiect y Cynllun Twf. Derbynnir cyllid y Llywodraeth dros y 10-15 mlynedd nesaf wrth i Achos Busnes Llawn y brosiectau gael cymeradwyaeth.  Bydd y sector cyhoeddus a preifat yn cyd-weithio i ddenu'r buddsoddiad ychwanegol a fydd yn gyfanswm o £1 biliwn.

Y SOC yw'r cam cyntaf yn natblygiad yr achos busnes ar gyfer prosiect. Mae'n nodi'r achos dros newid ac yn ystyried yr opsiynau sydd ar gael.

Datblygir achosion busnes yn unol â chanllawiau Llyfr Gwyrdd Trysorlys EM.

Yr OBC yw'r achos busnes canolradd. Mae'n nodi'r opsiwn sy'n cynnig y gwerth cyhoeddus gorau, yn cadarnhau bod y prosiect yn fforddiadwy ac yn rhoi'r trefniadau ar waith ar gyfer cyflawni'r prosiect yn llwyddiannus.

Datblygir achosion busnes yn unol â chanllawiau Llyfr Gwyrdd Trysorlys EM.

Yr FBC yw'r achos busnes gorffenedig. Mae'n nodi'r cynnig gorau yn dilyn caffael, yn cadarnhau fforddiadwyedd y prosiect a'r trefniadau rheoli manwl ar gyfer cyflwyno, monitro a gwerthuso'r prosiect.

Datblygir achosion busnes yn unol â chanllawiau Llyfr Gwyrdd Trysorlys EM.

Bydd y prosiectau Cynllun Twf yn dechrau cael eu cyflawni ar ôl cymeradwyo eu Achos Busnes Llawn.

Dangosir cam cyfredol pob prosiect Cynllun Twf ar dudalennau'r prosiect.

GVA yw gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir gan ddiwydiant, sector, gwneuthurwr, ardal neu ranbarth mewn economi. Mae'n cyfanswm gwerth yr allbwn a gynhyrchir, heb gynnwys y costau cyfryngol a aeth i'w cynhyrchu.