Achosion Busnes

Bydd achosion busnes pob prosiect Cynllun Twf yn cael ei ddatblygu yn unol â:

  • canllaw ‘Gwell Achosion Busnes’ a’r model Pum Achos a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru a Thrysorlys EM;a
  • canllaw Llyfr Gwyrdd (Green Book) Trysorlys EM.

Sicrwydd

Mae achosion busnes ein prosiectau yn destun Adolygiadau Porth annibynnol gan Hwb Sicrwydd Integredig Llywodraeth Cymru, ar bwyntiau penderfynu allweddol, yn unol â Phroses Porth Swyddfa'r Cabinet (Cabinet Office).

Mae'r adolygiadau Porth yn rhoi sicrwydd y gall prosiectau symud ymlaen yn llwyddiannus i'r cam nesaf.

Camau Cyflawni Prosiectau

Cam01.
Pennu cyd-destun y Prosiect:

Cam cynllunio'r cynnig gwariant. Asesu cyd-destun strategol y prosiect a dangos sut mae'n darparu synergedd â phrosiectau eraill yn y portffolio.

Check icon progress icon
Cam02.
Paratoi'r Achos Amlinellol Strategol:

Cam cwmpasu'r prosiect. Cyflwyno’r achos dros newid a nodi'r ffordd orau ymlaen.

Check icon progress icon
Cam03.
Paratoi'r Achos Busnes Amlinellol:

Y cam cynllunio ar gyfer y prosiect. Nodi'r opsiynau sy'n cynnig gwerth am arian, cadarnhau fforddiadwyedd y prosiect a phenderfynu ar y trefniadau ar gyfer cyflawni'r prosiect yn llwyddiannus.

Check icon progress icon
Cam04.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol:

Cyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam caffael y prosiect ddechrau.

Check icon progress icon
Cam05.
Paratoi'r Achos Busnes Llawn:

Cam caffael y prosiect. Cofnodi canfyddiadau'r caffaeliad, nodi'r opsiwn sy'n darparu'r gwerth cyhoeddus gorau a chadarnhau'r trefniadau rheoli ar gyfer cyflwyno, monitro a gwerthuso'r prosiect.

Check icon progress icon
Cam06.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn:

Cyflwyno’r Achos Busnes Llawn i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam gweithredu'r prosiect ddechrau.

Check icon progress icon
Cam07.
Gweithredru a monitro’r Prosiect:

Cam gweithredu'r prosiect. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn fel pwynt cyfeirio at gyflawni'r prosiect a monitro cynnydd.

Check icon progress icon
Cam08.
Gwerthuso'r Prosiect:

Cam gweithredu ar ôl prosiect. Asesu pa mor dda y cyflawnwyd y prosiect a'r gwersi a ddysgwyd. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn i bennu i ba raddau y cafodd y buddion disgwyliedig eu cyflawni a'u gwireddu.

Check icon progress icon

Am fwy wybodaeth