Ddeuddeg mis ar ôl llofnodi Cynllun Twf Gogledd Cymru, mae'r prosiect cyntaf wedi'i gymeradwyo gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn fuddsoddiad o £ 1biliwn i economi’r rhanbarth, mae £240m ohono’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Y Ganolfan Prosesu Arwyddion Digidol (DSP) yw'r prosiect Cynllun Twf cyntaf i dderbyn cyllid, gan sicrhau £3 miliwn i fuddsoddi mewn offer blaengar, a fydd yn datblygu'r cyfleuster yn ogystal â chreu hyd at 40 o swyddi newydd. Mae'r Llywodraeth Cymru a'r DU yn cydnabod bod y prosiect yn hanfodol i ddatblygiad a dyfodol Gogledd Cymru a'r economi ehangach.
Yn y drafodaeth hon mae Business News Wales yn siarad â'r Athro Paul Spencer, Deon Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg, Prifysgol Bangor a Stuart Whitfield, Rheolwr Rhaglen Ddigidol yn Ambition North Wales am y Ganolfan Prosesu Digidol a'r effaith porential y bydd y ganolfan yn ei chael ar ddatblygiad digidol.
Other news
-
26MaiGrŵp Clwstwr Sgiliau Digidol Gogledd Cymru yn penodi Is-gadeirydd newydd
-
31MawSwyddogion newydd i roi hwb i'r sector ynni adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru
Croesawu dau aelod newydd o staff i ymuno â’r Tîm Ynni Carbon Isel , gyda'r obaith bydd y ddwy rôl yn rhoi hwb i’r sector yng Ngogledd Cymru. Symudodd Danial Ellis Evans a Rhianne Massin i’r ardal o Gaerdydd yn ddiweddar, gan ddechrau ar eu swyddi fel Swyddogion Prosiect Ynni.