Darn barn gan Robyn Lovelock
Mae newyddion calonogol yn dod o COP27 sef bod Uchelgais Gogledd Cymru mewn lle da i gyflawni ar y camau gweithredu sydd wedi’u hargymell ar gyfer cyrff rhanbarthol. Er mwyn cyflawni twf cynhwysol, cynaliadwy ar gyfer ein rhanbarth, mae’n rhaid i ni nawr weithredu ar ein hymrwymiadau uchelgeisiol mewn ffordd gynhwysol, gan gynyddu’r sylw ar fioamrywiaeth ac addasiad.
“The world is on the highway to climate hell” dyna oedd asesiad Antonio Guterres yn COP27 yn yr wythnos ddiwethaf. Rai blynyddoedd yn ôl, roeddwn i’n byw yn Uganda, lle mae trigolion wedi bod yn wynebu realiti newid hinsawdd ers sawl degawd: gwelai â’m llygaid fy hun bobl yn cael eu gyrru o’u ffermydd gan ddigwyddiadau tywydd eithriadol, aml.
Gyda dros 3,000 yn ormod o farwolaethau o’r tywydd poeth iawn yr haf hwn a’r llifogydd rheolaidd sy’n chwalu cymunedau yng Nghymru, rydym yn dechrau deall sut mae digwyddiadau tywydd eithriadol yn debygol o effeithio ar fywyd yng Nghymru: bydd y digwyddiadau hyn yn gynyddol tanseilio ein cadwyni cyflenwi bwyd a gweithgynhyrchu, yn difrodi isadeiledd allweddol, yn amharu ar wasanaethau ac yn peryglu bywydau yn amlach.
A’r hyn rydyn ni’n ei brofi yw dim ond 1 radd o gynhesu. Mae ‘climate hell’ yn unrhyw beth y tu hwnt i 1.5 gradd.
Ond eto, mae allyriadau yn parhau i gynyddu, yn debygol o fod wedi cyrraedd y pwynt uchaf erioed yn 2021. Mae popeth yr ydym yn ei brynu yn cyfrannu at fwy o allyriadau. Mae’r siart isod yn dangos ein taflwybr cyfredol (y llinell las sy’n codi), y llwybrau os caiff holl ymrwymiadau’r llywodraeth (NDCs) eu cyflawni, a’r uchelgais bellach sydd ei hangen er mwyn cael lle diogel i ddynoliaeth – 1.5 gradd a mwy.
Allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang o dan wahanol senarios a’r bwlch allyriadau yn 2030
Ffynhonnell: UN Environment Programme Global Emissions report 2022
Fel corff rhanbarthol sy'n cyflawni prosiectau isadeiledd mawr, mae gan y trafodaethau yn COP27 oblygiadau uniongyrchol o ran penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ar lefel ranbarthol gan Uchelgais Gogledd Cymru, a’i bartneriaid awdurdodau lleol ac academaidd. Mae'r diagram isod yn crynhoi camau i’w hosgoi a’u hyrwyddo. Fel y dengys y llwybrau uchod, bydd angen ymdrech bwrpasol ar bob lefel - cenedlaethol, rhanbarthol a lleol er mwyn gweld newid. Mae'n golygu bod angen craffu ar bob un penderfyniad sy'n gysylltiedig ag ynni, diwydiant, trafnidiaeth ac adeiladu - a dod o hyd i ffordd garbon is ymlaen.
Yn galonogol, mae Cynllun Twf Gogledd Cymru eisoes wedi gwneud ymrwymiadau yn unol â'r argymhellion hyn. Mae ei brosiectau'n cael eu datblygu i gyflawni yn erbyn y targedau a ganlyn:
- gweithredu ar sero net
- cynyddu bioamrywiaeth o o leiaf 10%
- lleihau allyriadau carbon a achosir gan adeiladu o leiaf 40%
Gwnaed yr ymrwymiadau hyn i gydnabod bod adeiladau ac adeiladu yn cyfrannu'n gyson tua 40% o gyfanswm yr allyriadau byd-eang, yn ôl yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol. Yn bwysig iawn, mae'r tîm wedi datblygu methodoleg newydd addawol a lansiwyd yn y cyfnod cyn COP27 a fydd yn helpu prosiectau'r Cynllun Twf i gyflawni'r targedau hyn.
Mae argymhellion yn Adroddiad Allyriadau 2022 yn mynd ymhellach ac yn benodol yn nodi beth y gall llywodraethau is-genedlaethol (cyrff rhanbarthol, awdurdodau lleol) a busnesau ei wneud i helpu i leihau allyriadau ar draws ynni, diwydiant, trafnidiaeth, adeiladau a mwy.
Unwaith eto, mae'n galonogol bod Uchelgais Gogledd Cymru eisoes yn cyflawni llawer o'r camau a argymhellir ar gyfer cyrff rhanbarthol, ac mae mewn sefyllfa dda ar gyfer gweithredu pellach. Crynhoir y canllawiau llawn ar waelod y blog / erthygl hon, ond mae rhai uchafbwyntiau'n cynnwys:
- Ynni: Cynllun i atal defnydd o danwydd ffosil – mae’r Cynllun Twf yn cefnogi cyflwyno prosiect Ynni Lleol Blaengar ar draws y rhanbarth, gan gefnogi ynni ym mherchnogaeth cymunedau; bydd y prosiect Hwb Hydrogen yn helpu i ddatgarboneiddio amaeth a throsglwyddo’r diwydiant i hydrogen gwyrdd.
- Prosesau diwydiannol di-garbon - mae'r Cynllun Twf yn cefnogi arloesedd, ymchwil a datblygu mewn biotechnoleg amgylcheddol (gan ddisodli prosesau diwydiannol cemegol a ffosil llym gydag ensymau sy'n deillio'n fiolegol) a deunyddiau cyfansawdd ysgafnach, mwy effeithlon. Nod canolfannau ymchwil yw gweithredu ar sero-net a lleihau allyriadau carbon ymgorfforedig, tra hefyd yn gwella bioamrywiaeth.
- Adeiladau: gweithredu adeiladau dim allyriadau: bydd yr holl brosiectau a gyflawnir gan y Cynllun Twf yn anelu at allyriadau net sero a 40% o ostyngiad mewn carbon ymgorfforedig.
Ond nid yw targedau'n ddigon: mae angen i ni eu cyflawni er mwyn i'r rhanbarth elwa o'r sgiliau a'r hwb i swyddi o newid rhagweithiol i economi carbon isel. Ac mae'r gwobrau yn rhai sylweddol os wnawn ni hynny, gydag amcangyfrifon o Hwb Refeniw gwerth £11bn i Economi Cymru pe tasen ni’n cyrraedd Targedau Sero Net.
Er bod yn rhaid i ni fwynhau'r cynnydd rydyn ni'n ei wneud – mae'n rhaid i ni gydnabod bod mwy o waith i ddod i gyflawni'r llesiant ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol a gydnabyddir yn ein Deddf Llywodraeth sy'n torri tir newydd ac nid dibynnu ar ein plant i glirio llanast a wnawn nawr:
- Gogledd Cymru Gwydn: Rhaid i ni gynyddu camau gweithredu sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng ecolegol sydd mewn perygl o danseilio ein heconomi a diogelwch bwyd yn y rhanbarth.
- Gogledd Cymru Ffyniannus: Rhaid i ni sicrhau bod yr holl isadeiledd a gomisiynir yn addas ar gyfer y dyfodol – ac nid yn adeiladu mewn ardaloedd a fydd yn gorlifo o foroedd cynyddol neu afonydd sy’n gorlifo, ac y gall wrthsefyll mwy o eithafion o wres ac oerfel. Tua 1023, methodd y Brenin Canute â throi'r llanw cynyddol yn ôl; rydyn ni'n mewn perygl o ailadrodd yr un wers 1,000 o flynyddoedd yn ddiweddarach.
- Gogledd Cymru mwy cyfartal: Wrth wneud yr uchod i gyd, rhaid i ni sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar drawsnewid cyfiawn ar gyfer y cymunedau hynny sydd fwyaf agored i niwed yn ein rhanbarth, yn ddaearyddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd.
Mae'r rhain yn heriau sylweddol, yn erbyn sefyllfa economaidd heriol, sy’n atgyfnerthu ymhellach y neges fod yn rhaid i bob penderfyniad gyfrif ar draws yr holl flaenoriaethau hyn. Rwy'n gobeithio y bydd cydweithwyr Uchelgais Gogledd Cymru, yr awdurdodau lleol ac arweinwyr busnes yn teimlo eu bod wedi cael eu hannog gan ein hymdrechion i arwain camau yn y maes hollbwysig hwn, a'u bod yn edrych nawr ar ffyrdd o atgyfnerthu ein cyflawniadau a symud ymlaen yn hyderus tuag at ddyfodol cynaliadwy a gwydn i'n rhanbarth.
Am yr awdur: Mae Robyn Lovelock yn rheolwr rhaglen ar gyfer Uchelgais Gogledd Cymru, gan arwain ar wireddu manteision o fuddsoddiad y Cynllun Twf gwerth dros £1 biliwn i Ogledd Cymru. Wedi graddio mewn Daearyddiaeth a Gwleidyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth a gyda MBA (rhagoriaeth) o Ysgol Busnes Prifysgol Warwick, mae wedi treulio dros 20 mlynedd yn cyflwyno prosiectau datblygu cynaliadwy ledled y byd ac yng Nghymru. Mae hi'n byw yn Llangollen gyda'i gŵr a'i dau o blant ifanc.
~
Llun gan NOAA