Heddiw, fe gyhoeddodd Uchelgais Gogledd Cymru fethodoleg newydd, er mwyn cyflawni eu targedau newid hinsawdd a bioamrywiaeth uchelgeisiol.   

Bydd prosiectau Cynllun Twf Gogledd Cymru yn ceisio mynd i'r afael â'r targedau canlynol:  

  • i weithredu yn net zero, 

  • cynyddu bioamrywiaeth o leiaf 10%  

  • lleihau allyriadau carbon a achosir gan adeiladu o leiaf 40% 

 

Bydd y fethodoleg, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â chwmni gwasanaeth proffesiynol Arup, yn helpu prosiectau Cynllun Twf i gyflawni'r targedau hyn, gan sicrhau bod allyriadau carbon ac ystyriaethau bioamrywiaeth yn rhan annatod o bob cam o ddatblygu prosiectau. Bydd hyn yn creu manteision pwysig i'r rhanbarth, fel cyfleoedd swyddi a hyfforddiant, arloesodd, a buddsoddiad mewn datrysiadau carbon isel.  

 

Un o'r ffynonellau mwyaf o allyriadau carbon yw adeiladu, gyda'r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol (IEA) yn canfod bod y diwydiant yn cyfrannu tua 40% o gyfanswm allyriadau byd-eang yn gyson. Gan fod prosiectau Cynllun Twf yn cynnwys y gwaith adeiladu, bydd angen i'r prosiectau weithio gyda'r diwydiant i ddod o hyd i atebion amgylcheddol newydd ac arloesol. Bydd hyn yn lleihau effeithiau negyddol yn ystod eu datblygiad ac yn sicrhau eu bod yn addas ar gyfer dyfodol carbon isel pan fyddant yn weithredol. Yn ogystal, bydd hefyd yn arbed costau drwy ddefnyddio deunyddiau sy'n llai niweidiol i'r amgylchedd ac yn llai tebygol o fod angen eu disodli yn y dyfodol.  

 

Mae'r fethodoleg ar gael i sefydliadau a busnesau eraill eu defnyddio wrth iddyn nhw hefyd baratoi ar gyfer dyfodol sydd wedi'i effeithio gan yr hinsawdd.  Dywedodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru: 

 

 "Rydym eisiau arwain wrth ddatblygu ein heconomi mewn ffordd gyfrifol a chynaliadwy. Dydy gwneud pethau fel rydyn’ ni wedi gwneud o’r blaen, bellach ddim yn foddhaol. Rydyn ni'n byw mewn argyfwng hinsawdd, mae angen i ni weithredu nawr i arafu'r effaith ar ein planed er mwyn cenedlaethau'r dyfodol”. 

"Rydym yn benderfynol o fod yn uchelgeisiol wrth i ni symud tuag at ddatblygu cynaliadwy ym mhob prosiect y Cynllun Twf. Rydyn ni'n gwahodd sefydliadau eraill i ddefnyddio'r fethodoleg fel y gallwn wneud i ni symud gyda'n gilydd hyd yn oed fwy beiddgar i leihau allyriadau a gweld gwelliannau i fioamrywiaeth."  

 

Meddai Ann Cousins, Cyfarwyddwr Prosiect Arup:   

 

"Rydym wedi gweithio'n agos gydag Uchelgais Gogledd Cymru ac ymgysylltu'n eang â noddwyr Cynllun Twf Gogledd Cymru ac asiantaethau'r llywodraeth i sicrhau bod y fethodoleg yn effeithiol wrth sbarduno gweithredoedd hinsawdd a bioamrywiaeth ac mae'n syml i'w ddefnyddio. Mae'r fethodoleg hon yn ffitio i'r prosesau presennol ar gyfer datblygu prosiectau seilwaith ac yn cynnig dull gweithredu i awdurdodau lleol a'r llywodraeth a fydd yn gwella effeithlonrwydd a hirhoedledd eu buddsoddiadau."