Prosiect:

Ynni Lleol Blaengar

Trosolwg:

Nod y prosiect hwn yw cefnogi'r cynlluniau ynni ledled Gogledd Cymru sy'n cyfrannu tuag at gyflawni targedau ynni adnewyddadwy, datgarboneiddio sydd ag elfen o berchnogaeth leol. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau buddsoddiad preifat a chymunedol mewn prosiectau ynni newydd.

Byddem yn cynnig lansio cronfa i gyflawni'r prosiect yma yn gynnar yn 2024. Caiff rhagor o fanylion eu cadarnhau yn y misoedd nesaf.

Mae Perchnogaeth leol yn golygu asedau sy'n eiddo i randdeiliaid yn gweithredu ac wedi eu lleoli yng Ngogledd Cymru, gall rhain fod yn unigolion, cymunedau, busnesau neu sefydliadau eraill.

Prif Noddwr:

 

Amcanion

GVA Ychwanegol

Cynhyrchu hyd at £130 miliwn o GVA ychwanegol net

Creu Swyddi

Creu hyd at 230 o swyddi newydd i'r rhanbarth

Perchnogaeth Leol

Cynyddu perchnogaeth leol a chapasiti mewn prosiectau ynni carbon isel

Targedau Buddsoddi

£25m

Cynllun Twf

£2m

Sector Cyhoeddus Arall

£75m

Sector Breifat

£102m

Cyfanswm Buddsoddiad

Pa gam mae'r prosiect wedi cyrraedd?

Cam01.
Pennu cyd-destun y Prosiect:

Cam cynllunio'r cynnig gwariant. Asesu cyd-destun strategol y prosiect a dangos sut mae'n darparu synergedd â phrosiectau eraill yn y portffolio.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam02.
Paratoi'r Achos Amlinellol Strategol:

Cam cwmpasu'r prosiect. Cyflwyno’r achos dros newid a nodi'r ffordd orau ymlaen.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam03.
Paratoi'r Achos Busnes Amlinellol:

Y cam cynllunio ar gyfer y prosiect. Nodi'r opsiynau sy'n cynnig gwerth am arian, cadarnhau fforddiadwyedd y prosiect a phenderfynu ar y trefniadau ar gyfer cyflawni'r prosiect yn llwyddiannus.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam04.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol:

Cyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam caffael y prosiect ddechrau.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam05.
Paratoi'r Achos Busnes Llawn:

Cam caffael y prosiect. Cofnodi canfyddiadau'r caffaeliad, nodi'r opsiwn sy'n darparu'r gwerth cyhoeddus gorau a chadarnhau'r trefniadau rheoli ar gyfer cyflwyno, monitro a gwerthuso'r prosiect.

Check icon progress icon Ar y Gweill
Cam06.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn:

Cyflwyno’r Achos Busnes Llawn i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam gweithredu'r prosiect ddechrau.

Check icon progress icon
Cam07.
Gweithredru a monitro’r Prosiect:

Cam gweithredu'r prosiect. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn fel pwynt cyfeirio at gyflawni'r prosiect a monitro cynnydd.

Check icon progress icon
Cam08.
Gwerthuso'r Prosiect:

Cam gweithredu ar ôl prosiect. Asesu pa mor dda y cyflawnwyd y prosiect a'r gwersi a ddysgwyd. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn i bennu i ba raddau y cafodd y buddion disgwyliedig eu cyflawni a'u gwireddu.

Check icon progress icon

Prif Aelodau

  • Geraint Edwards Pennaeth Gwasanaeth (Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau), Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Elgan Roberts Rheolwr Rhaglen Ynni Carbon Isel
  • Sandra Sharp Rheolwr Prosiect Ynni a Sero Net