Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi cymeradwyo achos busnes amlinellol am  gyllid Cynllun Twf gwerth £5 miliwn ar gyfer prosiect trawsnewid Dyfodol Venue Cymru yn Llandudno.

Mae’r penderfyniad yn garreg filltir bwysig wrth sicrhau dyfodol un o ganolfan celfyddydol mwyaf Cymru, gan greu canolfan gelfyddydol fydd yn annog cydweithio rhwng busnesau, unigolion a sefydliadau ar draws y rhanbarth. 

Yn sgil derbyn cymeradwyaeth gall y cynllun bellach symud i’r cam nesaf yn y broses o sicrhau arian drwy Raglen Amaeth-bwyd a Thwristiaeth Cynllun Twf Gogledd Cymru. Mae angen cyfanswm o £19.7 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer y prosiect, gan gynnwys £14.7m o gyllid cyfatebol gan Lywodraeth y DU, Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru. 

Bydd y datblygiad newydd yn diogelu dyfodol Venue Cymru yn y tymor hir, yn moderneiddio’r cyfleusterau, ac yn creu canolfan gelfyddydol newydd sy’n cefnogi swyddi, datblygu sgiliau ac  arloesi yn y sector greadigol. 

Nod y prosiect yw creu 59 o swyddi newydd erbyn 2036 a darparu cyfleoedd hyfforddi a chyfranogi i tua 350 o bobl. Bydd hefyd yn darparu 900m² o ofod hyblyg newydd, gan gynnwys lobi newydd i’r ardal docio llwyfan, a gwaith adnewyddu i gyfleusterau’r awditoriwm, ardaloedd y bar a’r bwyty. 

Bydd y datblygiad newydd yn gwella adnoddau’r safle sydd bellach yn 31 oed, gyda chyngherddau a sioeau amlwg yn denu cynulleidfa newydd o bell ac agos. 

quotation graphic

Dywedodd Y Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd, Uchelgais Gogledd Cymru: 

“Mae Venue Cymru yn chwarae rôl hollbwysig ym mywyd diwylliannol ac economaidd Gogledd Cymru. 

“Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau dyfodol y ganolfan gelfyddydol, yn creu swyddi newydd, yn gyrru arloesedd yn y diwydiannau creadigol ac yn diogelu gwasanaethau hanfodol i breswylwyr ac ymwelwyr. Rydym yn falch o gefnogi prosiect sy’n cyfateb yn union gyda blaenoriaethau ein Cynllun Twf.” 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Y Cynghorydd Julie Fallon, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac Aelod Arweiniol Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth, Uchelgais Gogledd Cymru: 

“Mae hwn yn gyfle unigryw i sicrhau dyfodol Venue Cymru fel lleoliad o safon byd-eang a chonglfaen i’n heconomi ymwelwyr. Bydd yr ailddatblygu nid yn unig yn gwella’r adeilad ond yn ei wneud yn ofod i bawb – gan gefnogi busnesau lleol, creu cyfleoedd newydd i bobl ifanc. 

“Bydd y prosiect hwn yn sicrhau bod Venue Cymru yn parhau’n gystadleuol, yn wydn yn ariannol ac yn addas ar gyfer y dyfodol.” 

quotation graphic

Yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol, bydd gwaith adeiladu’n dechrau yn 2026, gan gwblhau fesul cam o 2027 a’r ganolfan gelfyddydol yn agor yn llawn ym mis Ionawr 2028.