Mae Uchelgais Gogledd Cymru ac Arup wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Cydweithredu yng Ngwobrau Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Thrafnidiaeth (CIHT) Cymru 2026 am eu gwaith ar Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru 2025–2030.
Mae’r cynllun yn nodi gweledigaeth a fframwaith ar y cyd ar gyfer buddsoddi mewn trafnidiaeth ledled y rhanbarth, a hwn yw’r cynllun trafnidiaeth statudol cyntaf ar gyfer Gogledd Cymru.
Wrth ddatblygu’r cynllun, daeth chwe awdurdod lleol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru ynghyd i gytuno ar ddull gweithredu ar y cyd ar gyfer trafnidiaeth, gan gydbwyso gwahanol safbwyntiau, anghenion lleol a’r heriau sy’n wynebu’r ardal.
Bu Arup yn gweithio ochr yn ochr â’r tîm rhanbarthol, gan helpu partneriaid i gytuno ar flaenoriaethau a defnyddio tystiolaeth i lywio’r cynllun. Yn dilyn ymgysylltu â’r cyhoedd, cafodd y cynllun gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Cadeirydd Is-bwyllgor Trafnidiaeth Uchelgais Gogledd Cymru:
“Rwy’n arbennig o falch o’r ffordd y cydweithiodd partneriaid ledled Gogledd Cymru ar y cynllun hwn. Chwaraeodd Arup ran allweddol wrth ddod â sefydliadau ynghyd a’n helpu i gytuno ar weledigaeth ar y cyd ar gyfer trafnidiaeth yn y rhanbarth.
“Bellach mae gennym Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol cymeradwy, gyda blaenoriaethau’r flwyddyn gyntaf yn cael eu rhoi ar waith, ond mae’r broses hefyd wedi cryfhau’r berthynas rhwng partneriaid ac wedi rhoi fframwaith hirdymor inni ar gyfer cydweithio a gwneud penderfyniadau.”
Dywedodd Allan Pitt, Cyfarwyddwr Cyswllt, Arup:
“Roedd datblygu cynllun o’r maint hwn yn golygu cydbwyso gwahanol flaenoriaethau, anghenion trafnidiaeth a safbwyntiau o bob rhan o Ogledd Cymru. Ein rôl ni oedd helpu i wneud synnwyr o’r gwahanol safbwyntiau hynny, dod â’r dystiolaeth ynghyd a chefnogi’r gwaith o droi uchelgais ar y cyd yn gynllun ymarferol ar gyfer y dyfodol.”
Mae Gwobrau CIHT Cymru yn cydnabod cyflawniadau ar draws y sector priffyrdd a thrafnidiaeth yng Nghymru. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y cinio gwobrau blynyddol yn The Kinmel, Abergele, ar 27 Tachwedd 2026.