Mae Bwrdd Busnes Ymgynghorol newydd sy'n dwyn ynghyd arweinwyr dylanwadol y sector preifat wedi'i sefydlu gan Uchelgais Gogledd Cymru.
Bydd y Bwrdd yn darparu cyngor annibynnol, mewnwelediad a her, gan sicrhau bod llais busnesau yn ganolog i wneud penderfyniadau rhanbarthol. Mae hyn wrth i Uchelgais Gogledd Cymru barhau i gyflawni rhaglen sylweddol o waith sy'n canolbwyntio ar wella lles economaidd, yn ogystal â thrafnidiaeth ranbarthol a chynllunio defnydd tir.
Penodwyd cynrychiolwyr ar y Bwrdd yn dilyn proses recriwtio agored ac maent yn cynrychioli ystod eang o sectorau, arbenigedd a rhwydweithiau o bob rhan o Ogledd Cymru.
Yn gynharach eleni, penodwyd yr arweinwyr busnes profiadol Dave Penrith a Nick Bennett yn Ymgynghorwyr Anweithredol i Uchelgais Gogledd Cymru, gan ymgymryd â rolau Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Busnes Ymgynghorol newydd.
Daw sefydlu'r Bwrdd ar adeg arwyddocaol i'r rhanbarth. Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn bwrw ymlaen i gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru a Pharth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam, sy'n cynrychioli tua £400 miliwn o fuddsoddiad gan y llywodraeth ac uchelgeisiau i drosoli hyd at £2 biliwn o fuddsoddiad a chreu mwy na 10,000 o swyddi dros y degawd nesaf.
Mae'r Bwrdd Busnes Ymgynghorol hefyd yn bwriadu ymgysylltu â'r Panel Cynghori Arbenigol a sefydlwyd i gefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu asiantaeth ddatblygu genedlaethol newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru:
"Mae creu ein Bwrdd Busnes Ymgynghorol yn gam pwysig i gryfhau'r berthynas rhwng Uchelgais Gogledd Cymru a chymuned fusnes y rhanbarth ymhellach.
"Bydd arbenigedd a dealltwriaeth y Bwrdd yn helpu i sicrhau bod ein gwaith yn adlewyrchu'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu busnesau ledled ein rhanbarth."
Dywedodd Alwen Williams, Prif Weithredwr, Uchelgais Gogledd Cymru:
"Mae Gogledd Cymru ar drothwy cyfnod cyffrous o gyfle a thwf. Wrth i ni gyflawni rhaglenni mawr fel Cynllun Twf Gogledd Cymru a'r Parth Buddsoddi, mae'n hanfodol bod lleisiau busnes yn helpu i lunio ein blaenoriaethau."
Dywedodd Dave Penrith, Cadeirydd y Bwrdd Busnes Ymgynghorol:
"Mi fyddwn i'n hoffi llongyfarch y rhai a benodwyd. Mae gan Ogledd Cymru botensial enfawr, ac rwy'n falch iawn o weithio ochr yn ochr â chynrychiolwyr newydd y Bwrdd a fydd, heb amheuaeth, yn cefnogi llwyddiant economaidd y rhanbarth yn y dyfodol drwy ddod â'u safbwyntiau gwerthfawr i'r bwrdd.
“Gyda'n gilydd rydym ni hefyd yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'r Panel Cynghori Arbenigol wrth iddo weithio i ffurfio asiantaeth ddatblygu genedlaethol sy'n canolbwyntio ar dwf economaidd a gwella cynhyrchiant."
Dywedodd Nick Bennett, Is-gadeirydd y Bwrdd Busnes Ymgynghorol:
"Mae gan fusnesau rôl sylfaenol i'w chwarae wrth lunio rhagolygon y rhanbarth. Mae'r Bwrdd hwn yn creu llwyfan cryf i'r sector preifat rannu gwybodaeth a phrofiad go iawn - gan helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau strategol fydd yn darparu economi wydn a thwf cynaliadwy.”
Aelodau'r Bwrdd Busnes Ymgynghorol:
-
Dave Penrith, Cadeirydd
-
Nick Bennett, Is-gadeirydd
-
Ian Gornall, Cyfarwyddwr Prosiect, Knauf Insulation
-
Claire Hinchcliffe, Arweinydd Datblygiad, Forza Developments
-
Edward Hunt, Uwch Bartner Cleientiaid, Cymru. BT Business
-
Dr Edward Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Economeg, Prifysgol Bangor
-
Jackie Pearson, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol, Shotton Mill Limited
-
Yr Athro John Reynolds, Rheolwr Gyfarwyddwr, Reynolds Geo-Solutions
-
Sasha Wynn Davies, Cyfarwyddwr, Sasha Wynn Cyf
Am fwy o fanylion, ewch i Uchelgais Gogledd Cymru | Bwrdd Busnes Ymgynghorol
-
Rhai aelodau o'r Bwrdd Busnes Ymgynghorol newydd
Sasha Wynn Davies, Ian Gornall, Yr Athro John Reynolds, Nick Bennett, Dave Penrith, Jackie Pearson