Disgwylir i brosiect newydd uchelgeisiol i ddatblygu ynni llanwol yng Ngogledd Cymru fwrw ymlaen yn dilyn llofnodi cytundeb cyllido newydd rhwng partneriaid.

Mae Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru, a arweinir gan Uchelgais Gogledd Cymru ac sydd wedi’i dylunio i gefnogi prosiectau ynni gwyrdd ar draws y rhanbarth, wedi cytuno ar fuddsoddiad o £2 filiwn i’r datblygwr ynni llanwol HydroWing Ltd. Bydd y buddsoddiad yn cefnogi adeiladu a gosod tyrbin llanwol ym Menter Môn Morlais, y cynllun ynni llif llanw mwyaf yn Ewrop sydd wedi derbyn caniatâd, oddi ar arfordir Ynys Môn. 

Gyda disgwyl i’r dyfeisiau cyntaf gael eu rhoi ar waith yn 2027, mae’r cyllid yn dod â Morlais gam yn nes at gynhyrchu trydan glân, gan nodi cam sylweddol ymlaen i’r cynllun. Prosiect HydroWing fydd prosiect ynni llif llanw cyntaf Cymru sydd wedi derbyn caniatâd, a’r mwyaf o’i fath, a disgwylir iddo greu swyddi lleol gwerth uchel.

quotation graphic

Dywedodd Richard Parkinson, Prif Swyddog Gweithredol HydroWing, adran ynni llanwol Grŵp Ynni Morol Inyanga:

“Mae sicrhau’r cyllid hwn gan Uchelgais Gogledd Cymru yn garreg filltir bwysig, sy’n ein galluogi i roi ein dyfais ynni llanwol HydroWing gyntaf ar waith ym Morlais yn 2027. Mae’r buddsoddiad hwn yn gosod y sylfaen ar gyfer ein datblygiad masnachol 30MW arfaethedig a’n huchelgais i sefydlu Cymru fel canolfan fyd-eang ar gyfer technoleg a gweithgynhyrchu ynni llanwol, gan greu swyddi sgiliau uchel, cryfhau cadwyn gyflenwi Cymru ac agor cyfleoedd allforio rhyngwladol sylweddol.” 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Arweiniol Uchelgais Gogledd Cymru dros Ynni Carbon Isel ac Arweinydd Cyngor Ynys Môn:

“Mae ein Cronfa Ynni Glân yn mynd o nerth i nerth ac rwy’n falch iawn ei bod wedi bod yn bosibl cefnogi HydroWing i ddatblygu Morlais ymhellach, gan nodi carreg filltir bwysig arall i economi carbon isel Gogledd Cymru. Mae Uchelgais Gogledd Cymru eisoes wedi cefnogi Morlais drwy brosiect Cydnerth Cynllun Twf Gogledd Cymru i gryfhau’r seilwaith grid lleol. Felly, mae’n wych gallu adeiladu ar hynny.” 

quotation graphic
quotation graphic

Ychwanegodd John Idris Jones, Cadeirydd Menter Môn Morlais Cyf:

“Mae’r buddsoddiad hwn yn gyfraniad pwysig at ddod â thechnoleg HydroWing yn weithredol ym Morlais ac mae’n dangos gwerth partneriaeth wrth ddatblygu’r sector ynni llanwol. Mae gan Morlais eisoes y seilwaith yn ei le i gefnogi dyfeisiau ynni llanwol, a bydd prosiectau fel hyn yn helpu i droi’r potensial hwnnw’n drydan glân, swyddi medrus a chyfleoedd i gymunedau a busnesau ledled Gogledd Cymru.” 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price: 

“Os ydym o ddifrif ynglŷn â chodi cynhyrchiant a thyfu economi Cymru, mae angen i ni gefnogi sectorau lle gall Cymru arwain yn wirioneddol. Gyda rhai o’r adnoddau ynni llanw gorau yn y byd, mae Cymru mewn sefyllfa dda i chwarae rhan flaenllaw yn y diwydiant hwn sy’n tyfu, a bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i wneud yr uchelgais hwnnw’n fwy o realiti. Gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU drwy Gynllun Twf Gogledd Cymru, rydym yn buddsoddi mewn prosiectau sy’n creu cyfleoedd newydd ac yn cefnogi twf economaidd hirdymor ledled Gogledd Cymru.”  

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Gweinidog yn Swyddfa Cymru Anna McMorrin:

“Mae’r buddsoddiad hwn o £2 filiwn yn dod ag ynni llanw glân oddi ar arfordir Ynys Môn gam yn nes at wireddu.   
 
"Mae Llywodraeth y DU yn cefnogi sector ynni glân Gogledd Cymru drwy’r Cynllun Twf, gan greu swyddi sgiliau uchel sy’n talu’n dda a thyfu’r economi leol." 

quotation graphic

Mae Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru yn rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru, sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a’i gyflawni gan Uchelgais Gogledd Cymru.

  • Partneriaid y prosiect

    Bevan Wray, Rheolwr Prosiect, HydroWing; Meghan Davies, Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net, Uchelgais Gogledd Cymru; Andy Billcliff, Prif Weithredwr Menter Môn Morlais Ltd; Chris Williams, Rheolwr Masnachol, HydroWing.