Datblygwyr bioblastigau carbon isel yw enillydd categori Gogledd Cymru yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru eleni.
Nod y cwmni llwyddiannus, Plantsea Ltd yw disodli plastig o betrolewm sy'n niweidiol i'r amgylchedd gyda dewisiadau amgen sy’n defnyddio adnoddau naturiol sydd yw cael ar lan y môr. Mae’r busnes wedi ei leoli yn M-SParc, parc gwyddoniaeth ar Ynys Môn.
Wedi’i noddi gan Uchelgais Gogledd Cymru, daeth nifer uchel iawn o geisiadau i law ar gyfer y categori, a hynny o bob rhan o’r rhanbarth, yn cynrychioli llawer o sectorau, o arloesi digidol i ddiwydiannau mwy traddodiadol.
Hedd Vaughan-Evans yw Pennaeth Gweithrediadau Uchelgais Gogledd Cymru. Meddai: "Llongyfarchiadau enfawr i dîm Plantsea ar ennill y wobr hon; rwy'n gobeithio y bydd eu llwyddiant yn ysbrydoli eraill. Mae'r busnes eisoes yn torri tir newydd, ac mae ganddynt gynlluniau trawiadol i ehangu a sefydlu cyfleuster eu hunain i dyfu deunyddiau crai yn gynaliadwy. Rwy’n siŵr y byddwn yn clywed llawer mwy amdanynt yn y dyfodol wrth iddynt ddatblygu ffyrdd newydd o greu deunyddiau cynaliadwy.
"Rwyf hefyd eisiau talu teyrnged i'r holl gwmnïau ar y rhestr fer. Maen nhw'n sicr ynrhoi Gogledd Cymru ar y map o ran arloesi ac entrepreneuriaeth, ac mae'n ein gwneud ni'n falch o gynrychioli rhanbarth sydd â gymaint o dalent. Mae busnesau newydd a bach yn hanfodol i lwyddiant ein economi yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, ac mae Gwobrau Busnes Newydd Cymru yn ddathliad gwych o bob un o’r busnesau hynny."
Meddai’r Athro Dylan Jones-Evans, sylfaenydd y Gwobrau Busnes Newydd: “Mae Plantsea yn enillydd teilwng yng nghategori Gogledd Cymru yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru eleni, gyda’r potensial i fod yn fusnes arwyddocaol i’r economi leol ac o ran cael effaith ehangach. Roedd y beirniaid yn teimlo bod hwn yn fusnes cryf sy’n ymateb i’r her fyd-eang o geisio lleihau llygredd plastig. Mae’n cynnig ateb sy'n helpu i fynd i'r afael â’r broblem mewn ffordd sy’n gynaliadwy. Yn sicr dyma fusnes i'w ddilyn yn y blynyddoedd nesaf.
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ar yr 22ain o Fehefin