Mae gwaith bellach ar y gweill i uwchraddio Porthladd Mostyn yn sylweddol, gyda chefnogaeth buddsoddiad drwy Gynllun Twf Gogledd Cymru. Bydd y gwelliannau yn cryfhau gallu’r porthladd i gefnogi prosiectau mwy o faint, gan gynnwys prosiectau ynni gwynt ar y môr a datblygiadau ynni eraill ym Môr Celtaidd.
Yn flaenorol, cymeradwyodd Uchelgais Gogledd Cymru ddyraniad o £4 miliwn o'i Gynllun Twf Gogledd Cymru fel rhan o becyn buddsoddi gwerth £14.7 miliwn, gyda’r cyfalaf sy’n weddill yn cael ei ddarparu gan y porthladd. Mae’r gwelliannau wedi’u cynllunio i sicrhau bod y porthladd yn gallu ymdrin â’r genhedlaeth nesaf o gydrannau mwy o faint ar gyfer ynni gwynt ar y môr, yn ogystal â darparu lle ar gyfer busnesau sy’n gweithredu ar draws y gadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru:
"Mae'r penderfyniad hwn yn gam cadarnhaol i economi'r rhanbarth. Bydd cryfhau gallu Porthladd Mostyn yn helpu i greu cyfleoedd cyflogaeth o safon, cefnogi twf y sector ynni glân a sicrhau bod y Gogledd yn parhau i chwarae rhan ganolog yn y gwaith o drawsnewid Cymru i ddyfodol carbon isel."
Disgwylir i'r prosiect gefnogi cyfanswm o 300 o swyddi ychwanegol net cyfwerth â llawn amser, 213 yn uniongyrchol ac 87 yn anuniongyrchol. Bydd y prosiect yn adnewyddu 172,000 troedfedd sgwâr o adeiladau diwydiannol erbyn 2030 a dod â 45 acer o dir cyflogaeth yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol erbyn 2032.
Ychwanegodd Jim O'Toole, Rheolwr Gyfarwyddwr, Porthladd Mostyn:
"Mae'r buddsoddiad hwn yn cefnogi ein strategaeth i ddiogelu'r porthladd ar gyfer y dyfodol ac ehangu ein rôl yn y sector ynni adnewyddadwy. Bydd gwella'r cyfleusterau yn cynyddu ein gallu i ateb anghenion cynyddol y diwydiannau carbon isel, tra'n cryfhau ein cyfraniad i economi'r Gogledd trwy swyddi a chyfleoedd newydd ar draws y gadwyn gyflenwi ranbarthol."
Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:
"Bydd y buddsoddiad hwn ym Mhorthladd Mostyn yn helpu i gryfhau safle gogledd Cymru yn y sector ynni adnewyddadwy, gan greu cyfleoedd gwerthfawr i fusnesau a chyflogaeth.
"Drwy ein cefnogaeth i Gynllun Twf Gogledd Cymru, rydym yn buddsoddi yn y seilwaith sy'n angenrheidiol i ddenu buddsoddiad pellach a darparu twf hirdymor a chynaliadwy i'r rhanbarth."
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Anna McMorrin:
"Mae hwn yn gam pwysig yn uchelgais Llywodraeth y DU i sicrhau bod gogledd Cymru ar flaen y gad yn chwyldro ynni glân y DU, gan dyfu'r economi, creu swyddi newydd a helpu i ostwng biliau ynni cartrefi.
"Mae Porthladd Mostyn yn ddolen hanfodol yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer safleoedd newydd gwynt ar y môr fel Awel y Môr, a enillodd gontract Llywodraeth y DU yn ddiweddar a bydd hyd at 50 o dyrbinau yn cael eu hadeiladu tua 10km oddi ar arfordir gogledd Cymru."
Gyda chymeradwyaeth Achos Busnes Amlinellol wedi'i sicrhau, gall y prosiect symud i'r cam nesaf i sicrhau cytundebau masnachol a dechrau datblygu'r Achos Busnes Llawn i'w ystyried yn ddiweddarach yn y flwyddyn.