Yn dilyn cymeradwyaeth o’i achos busnes amlinellol gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, mae Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter (EEOC) Prifysgol Glyndŵr Wrecsam gam yn agosach at sicrhau cyllideb gan Gynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Bydd y prosiect yn cael ei roi ar waith mewn dau o safleoedd y Brifysgol, yn Llanelwy a Phlas Coch yn Wrecsam. Nod y prosiect yw helpu busnesau cynhyrchu yn y rhanbarth i ddatgarboneiddio. Bydd y prosiect yn edrych ar ddefnydd integredig opteg, ffotoneg a chyfansoddion fel deunydd amgen, ysgafnach i’w defnyddio ar draws pob un o feysydd amrywiol cynhyrchiant.

Gyda galw cynyddol ar yr angen i leihau allyriadau carbon a gwastraff yn y diwydiant mae’r prosiect yn cynnig arbedion cost ac effeithlonrwydd i fusnesau, ond mae unrhyw newidiadau technegol fel hyn hefyd yn gallu codi ofn ar rai busnesaf. Mae’r Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter yn gobeithio lleddfu hyn trwy ddarparu cyfleusterau ac ymchwil gan y Brifysgol i weithio gyda busnesau i ganfod atebion.

Bydd busnesau yn gallu defnyddio’r cyfleusterau i greu a phrofi deunyddiau a chyfansoddion mewn amgylchedd pwrpasol. Y gobaith yw y bydd hyn yn arwain at gynnyrch a systemau mwy effeithlon sy’n defnyddio llai o egni, yn lleihau costau ac allyriadau. Bydd y prosiect yn creu cyfleon gwaith lleol a gobeithio yn denu mewnfuddsoddiad i’r rhanbarth.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais ac arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Rydym yn falch o weld y Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter yn cyrraedd y garreg filltir hon. Dyma brosiect cyntaf y rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Uwch i gyrraedd y cam hwn. Does dim amheuaeth y gall y prosiect ysgogi datblygiad cynnyrch drwy ddefnydd technolegau carbon isel, sy’n hanfodol i lwyddiant fusnesau’r rhanbarth yn y dyfodol.”

Mae derbyn cymeradwyaeth i’r cam hwn yn golygu y gall y prosiect symud ymlaen at y cam nesaf, sef dyluniad manwl, sydd gam yn nes at sicrhau £9.85 miliwn o fuddsoddiad y Cynllun Twf. Roedd y cais am gyllid hefyd yn amlinellu sut y byddai’r prosiect yn ysgogi buddsoddiad pellach fel rhan o waith ailddatblygu Campws 2025 ehangach y Brifysgol.

 

Ychwanegodd yr Athro Aulay Mackenzie, Dirprwy Is-ganghellor (Partneriaeth) Prifysgol Glyndŵr Wrecsam:

"Mae gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam yng ngogledd ddwyrain Cymru gysylltiadau cryf â diwydiant yr ardal, a phartneriaethau strategol cryf gyda chyflogwyr. Mae buddsoddiad o Gynllun Twf Gogledd Cymru yn hanfodol i adeiladu'r Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter, elfen allweddol yng ngwaith adnewyddu ac uwchraddio cyfleusterau yn ein safleoedd yn Wrecsam a Llanelwy.

“Gan adeiladu ar yr arbenigedd a chysylltiadau strategol o fewn y Brifysgol, bydd y Ganolfan newydd yn darparu offer blaengar ac yn ein galluogi ni i ehangu ein gallu ymchwil i gefnogi busnesau gweithgynhyrchu lleol o bob math i gwrdd â’r angen amlwg i fod yn fwy effeithlon a lleihau allyriadau carbon.”

 

Y cam nesaf fydd i'r prosiect gyflwyno achos busnes llawn, fydd yn galluogi'r gwaith i ddechrau ar y Ganolfan. Y nod yw dechrau adeiladu tua diwedd 2023, gyda’r dyddiad agor arfaethedig yn 2025.

 

6.	Argraff arlunydd o'r EEOC ar ôl ei chwblhau yw'r ddelwedd a ddefnyddir ar gyfer yr erthygl hon.

Argraff arlunydd o'r EEOC ar ôl ei chwblhau.