Mae'r cynlluniau ar gyfer Canolfan Arloesi, Busnes a Sgiliau Trawsfynydd yn symud ymlaen, ar ôl i Uchelgais Gogledd Cymru gymeradwyo achos busnes amlinellol y prosiect yn ddiweddar.
Fel rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru, sy'n cael ei gyflawni gan Uchelgais Gogledd Cymru, mae'r cynlluniau'n cynnwys canolfan 3,635m² fel hwb aml-ddefnydd ar gyfer twf busnes a datblygu sgiliau.
Bydd y ganolfan yn darparu gofod swyddfa, labordy, hyfforddiant a chydweithredu i gefnogi ymchwil, datblygu sgiliau, twf busnes, ac arloesedd. Dyma'r cam cyntaf o gynllun ehangach ar gyfer safle Trawsfynydd, sy'n cael ei weld fel lleoliad strategol ym Mharth Menter Eryri.
Bwriad y prosiect, a fyddai'n cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd, yw creu swyddi hirdymor, gwerth uchel sy'n gysylltiedig â chyfleoedd ynni carbon isel yn y meysydd digomisiynu niwclear a thechnolegau newydd. Disgwylir i'r hwb gryfhau'r gweithlu lleol, cefnogi cadwyni cyflenwi rhanbarthol ac annog adfywio economaidd-gymdeithasol ehangach yn ne Gwynedd.
Meddai'r Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
"Bydd y Ganolfan Arloesi, Busnes a Sgiliau newydd yn dod â swyddi a chyfleoedd i bobl sy'n byw ym Meirionnydd, ar draws Gwynedd a Gogledd Cymru. Mae gan ei lleoliad unigryw gysylltiadau agos â gwaith dadgomisiynu cyfredol, cadwyni cyflenwi arbenigol a gweithlu technegol lleol medrus iawn. Rwy'n croesawu'r buddsoddiad hwn, a fydd yn arwain at hyd at £20.5m ychwanegol i economi Gogledd Cymru erbyn 2036.”
Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn sy'n Aelod Arweiniol ar gyfer Rhaglen Ynni Carbon Isel y Cynllun Twf:
“Gall y prosiect hwn wneud cyfraniad gwirioneddol at uchelgeisiau ynni carbon isel Gogledd Cymru. Mae'n adeiladu ar gryfderau unigryw safle Trawsfynydd, yn cysylltu'n uniongyrchol â'r gwaith digomisiynu niwclear presennol ac yn creu gofod lle gall busnesau, ymchwilwyr a darparwyr sgiliau weithio gyda'i gilydd."
Disgwylir i'r gwaith ar Ganolfan Arloesi, Busnes a Sgiliau Trawsfynydd ddechrau ar y safle yn yr hydref 2027.
Mae'r prosiect yn rhan o Raglen Ynni Carbon Isel Cynllun Twf Gogledd Cymru sy'n anelu i ddatgloi'r buddion o ddatblygu'r sector yn y rhanbarth.