Blwyddyn wedi llofnodi Cynllun Twf Gogledd Cymru mae’r prosiect cyntaf wedi ei gymeradwyo gan Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru.

Mae’r Cynllun Twf yn fuddsoddiad o £1 biliwn yn economi’r rhanbarth dros y 15 mlynedd nesaf, gyda £ 240m yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Canolfan Prosesu Signalau Digidol (DSP) Prifysgol Bangor yw’r cynllun cyntaf i dderbyn arian, gan sicrhau £3miliwn i fuddsoddi mewn offer arloesol fydd yn caniatáu i’r ganolfan ddatblygu a chreu 40 o swyddi. Mae’r prosiect yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru a’r DU fel un arwyddocaol yn natblygiad a dyfodol economi Gogledd Cymru a thu hwnt.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS:

"Rwy’n falch iawn bod achos busnes llawn prosiect cyntaf Cynllun Twf Gogledd Cymru wedi derbyn sêl bendith. Mae canolfan DSP ym Mangor eisoes wedi cyflawni gwaith pwysig a gwerthfawr, a bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn galluogi iddo ddatlbygu ymhellach. Mae’n wych gweld y cam yma ar ben-blwydd llofnodi’r fargen sydd â photensial i drawsnewid economi Gogledd Cymru.”

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU, David TC Davies:

“Rwy’n falch iawn o weld y prosiect cyntaf Cynllun Twf Gogledd Cymru yn derbyn y cyllid. Dyma ddechrau ar gynllun trawsnewidiol i Ogledd Cymru, gan ddod â swyddi a buddsoddiad i’n cymunedau, ac rwy’n falch bod Llywodraeth y DU yn helpu i ariannu’r Cynllun hon.

“O weithio law yn llaw â’n partneriaid a chyfrannu at ffrwd ariannu gwerth miliynau o bunnoedd, byddwn yn sicrhau bod y Cynllun Twf yn datblygu holl botensial Gogledd Cymru.”

Ychwanegodd y Cyng. Dyfrig Siencyn, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen rwan at weld y Ganolfan DSP yn rhoi Gogledd Cymru ar y map o ran ei waith arloesol yn y sector. Mae hefyd yn bwysig bod ein partneriaid, busnesau a’r cyhoedd ar draws y rhanbarth yn dechrau gweld y gwir gyfleoedd a’r buddion ddaw o gyllid y Cynllun Twf.”

Wrth i'r galw am wasanaethau digidol barhau i dyfu, nod ymchwilwyr ym Mangor yw paratoi  systemau cyfredol ar gyfer y dyfodol trwy edrych ar sut mae gwybodaeth yn y byd go iawn yn cael ei brosesu yn y byd rhithiol.

Y Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam yw Aelod Arweiniol Rhaglen Ddigidol y Bwrdd Uchelgais Economaidd. Dywedodd:

“Rwy’n falch iawn bod y Ganolfan DSP wedi cyrraedd y garreg filltir arwyddocaol yma. Y Ganolfan ym Mangor yw’r unig safle ymchwil yn y DU sy’n mynd i’r afael â DSP ar gyfer 5G - ac mae eisoes yn gweithio ochr yn ochr â 28 o bartneriaid masnach i gyflawni gwahanol brosiectau.”

Ychwanegodd yr Athro Iwan Davies, Is-ganghellor Prifysgol Bangor:

“Mae’r Ganolfan DSP yn enghraifft wych o sut mae Prifysgol Bangor yn gweithio gyda diwydiant a sefydliadau academaidd eraill i ddarganfod atebion i broblemau’r byd go iawn drwy waith ymchwil a datblygu sydd o safon byd eang.”

Wedi gweithio gydag enwau mawr mewn diwydiant gan gynnwys Ciena, Orange, Fujitsu a BT, mae'r Ganolfan wedi ffeilio wyth patent ac eisoes wedi sicrhau grantiau ymchwil gwerth cyfanswm o £12m. Gyda’i brofiad sylweddol a chyllid pellach drwy Cynllun Twf Gogledd Cymru, gall Canolfan DSP ehangu ac ymestyn ei allu ymchwil trwy gaffael offer newydd arloesol.