Mae prosiect cyntaf Cynllun Twf Gogledd Cymru wedi cymryd cam sylweddol ymlaen gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cymeradwyo cynllun busnes amlinellol.

Mae’r penderfyniad yn golygu bod Morlais, sef cynllun ynni llanw sy’n cael ei arwain gan Menter Môn, bellach yn gallu symud i’r cam nesaf,  yr olaf cyn gall adeiladu gychwyn. Os bydd y cynllun busnes llawn yn cael ei dderbyn yna bydd y Bwrdd yn buddsoddi hyd at £9 miliwn o arian Cynllun Twf yn yr isadeiledd fydd yn cysylltu Morlais â’r rhwydwaith trydan.

Wedi ei gwblhau, bydd cynllun Morlais  yn caniatáu i ddatblygwr gynhyrchu trydan gan ddefnyddio adnoddau llanw sydd gyda’r gorau yn Ewrop.

Mae Morlais yn un o bum prosiect o fewn Rhaglen Ynni Carbon Isel y Cynllun Twf, sydd wedi eu dewis er mwyn rhyddhau budd economaidd y sector hwn i’r rhanbarth. Nod y rhaglen yw sicrhau bod gogledd Cymru yn flaenllaw yn y sector ynni carbon isel ac hefyd o ganlyniad y nod o gyrraedd targedau sero-net carbon erbyn 2050.

 

Dywedodd y Cyng. Dyfrig Siencyn, Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais:

“Mae hwn yn garreg filltir bwysig i’r Cynllun Twf. Dyma’r cynllun cyntaf i ni gymeradwyo ar gyfer y cam nesaf ers i ni arwyddo’r cytundeb gyda Llywodraeth fis Rhagfyr 2020.

Mae gwaith gwych yn mynd ymlaen yn y rhanbarth i hyrwyddo adferiad ac i wneud yn fawr o gyfleodd trwy’r Cynllun Twf. Mae’n gadarnhaol gweld cynnydd wrth i ni geisio cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer twf economaidd yr ardal.

“Mae’n holl bwysig i ni fod pob prosiect yn dod â budd a gwerth am arian i’n cymunedau, yn ogystal â chyfrannu at dargedau lleihau carbon. Rwy’n edrych ymlaen at weld Morlais yn symud yn ei flaen a’r effaith bositif all arian y Cynllun Twf gael ar y cynllun hwn.”

 

Ychwanegodd y Cyng. Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn:

“ Mae Morlais yn gynllun pwysig iawn i ni yma ym Môn ac i ranbarth gogledd Cymru yn ehangach. Nid yn unig o ran y gallu i sicrhau swyddi hir dymor safon uchel, a datblygu’r gadwyn gyflenwi  ond gall hefyd greu cyfleodd hyfforddiant pwysig ar gyfer ein pobl ifanc yma yn eu cymunedau eu hunain. Mae cael cyrraedd y pwynt yma yn y broses yn hwb go iawn a bydd yn mynd yn bell i sicrhau bod Morlais yn cael ei wireddu.”

 

Mae Gerallt Llewelyn Jones yn gyfarwyddwr gyda Morlais. Wrth groesawu’r cyhoeddiad dywedodd:

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Bwrdd Uchelgais am eu cefnogaeth ac yn falch iawn o gyrraedd y garreg filltir yma tuag at sicrhau arian y Cynllun Twf. Fel cwmni lleol mae creu budd lleol wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud ac yn holl bwysig i brosiect Morlais. Mae gweledigaeth y prosiect wastad wedi rhoi pwyslais ar sicrhau bod potensial ynni morol o ran swyddi, hyfforddiant, buddsoddiad  a’r gadwyn gyflenwi yn cael eu gwireddu yma ar yr ynys ac ar draws y rhanbarth.”

Os bydd achos busnes llawn y prosiect yn cael ei gymeradwyo a chaniatâd datblygu yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru mae disgwyl i’r gwaith adeiladu gychwyn ar y tir ddiwedd 2021.

---------

Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn fuddsoddiad o £ 1.1 biliwn yn y rhanbarth, gyda £ 240 miliwn yn cael ei ariannu gan Lywodraethau Cymru a'r DU. Daw'r gweddill y buddsoddiad o’r sector cyhoeddus, y sector breifat a ffynonellau eraill. Mae’r Cynllun Twf yn cael ei gweithredu gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.