Yn y blog yma i Uchelgais Gogledd Cymru, mae Dr Edward Thomas Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Economeg ym Mhrifysgol Bangor ac aelod o Fwrdd Ymgynghorol Rhanddeiliaid Banc Busnes Prydeinig Cymru, yn nodi'r cefndir a'r cyd-destun i Gronfa newydd Buddsoddi i Gymru - a sut y gall busnes fanteisio a'r digwyddiad yn Llandudno.    

quotation graphic

Mae'r ffilm gomedi 'Groundhog Day' o 1993, gyda Bill Murrary, yn dweud hanes dyn sydd wedi ei gaethiwo mewn dolen amser.  Mae'n rhaid iddo ail-adrodd yr un diwrnod drosodd a throsodd yn Punxsutawney (Pensylfania, UDA) mae yno ar ymweliad i adrodd ar ddathliadau Diwrnod Groundhog.  Mae pob diwrnod yn amrywio ychydig, a dim ond ar ddiwedd y ffilm y mae'r prif gymeriad yn torri'r ddolen pan fo'n syrthio mewn cariad â'i gynhyrchydd newydd, Rita Hanson. Mae digwyddiadau economaidd diweddar yn gwneud i ninnau deimlo ein bod mewn rhyw ddolen amser gyfriniol, yn mynd o un argyfwng i'r llall. 

Yn dilyn y refferendwm yn 2016, daeth Brexit ag ansicrwydd i'r economi wrth i'r trafodaethau rhwng y DU a'i phartner masnachu mwyaf barhau tan 2019.  Erbyn Dydd Gŵyl Dewi 2020, roedd achosion o Covid-19 wedi ymddangos yng Nghymru, a daeth y feirws â'r byd i stop, gan roi bywydau, cymdeithasau ac economïau dan glo. Ar ddiwedd 2020, roedd chwyddiant yn is na 1% ond cododd hyn i dros 11% mewn llai na dwy flynedd, gan achosi argyfwng yng nghostau busnes. Mae'n ddiogel dweud bod y 7 mlynedd diwethaf wedi bod yn gyfnod unigryw sydd wedi dod â llawer o heriau i'r economi a busnesau. ⁠  ⁠ 

Mae'r economi wedi perfformio'n well na'r disgwyl yn 2023, ond dim ond twf cymedrol a ddisgwylir yn 2024 a 2025. Yn eu Rhagolwg Economaidd i'r DU, nododd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (NIESR) y bydd chwyddiant yn parhau i gwympo, bydd Banc Lloegr yn dechrau torri cyfraddau llog tuag at ganol y flwyddyn fydd yn peri gwell safonau byw, ac amgylchedd busnes gwell.  ⁠ ⁠ 

Er mwyn cefnogi'r adferiad economaidd hwn, mae Banc Busnes Prydain wedi lansio Cronfa Buddsoddi i Gymru, fydd yn rhoi ymrwymiad o £130 miliwn o gyllid newydd i'r wlad. Nod y gronfa yw ysgogi twf economaidd cynaliadwy trwy gefnogi arloesedd a chreu cyfle lleol i fusnesau newydd a busnesau sy'n tyfu ledled Cymru.    ⁠Lansiwyd y Gronfa Fuddsoddi newydd gwerth £130 miliwn i Gymru ar 23 Tachwedd 2023 ac mae'n cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol gyda benthyciadau llai o £25,000 i £100,000, cyllid dyled o £100,000 i £2filiwn a buddsoddiad ecwiti hyd at £5miliwn. 

Ar 20 Chwefror 2024 (rhwng 9:30am a 12pm), bydd Banc Busnes Prydain yn cynnal digwyddiad yn Venue Cymru, Llandudno, i ddathlu lansiad y gronfa newydd hon. Mae'r digwyddiad hwn wedi'i anelu at fusnesau llai, ymgynghorwyr busnes, cyfrifwyr, bancwyr, cyfreithwyr, yr ecosystem cymorth busnesau bach ehangach a chynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus sydd â diddordeb mewn hyrwyddo economi Gogledd Cymru. Bydd y digwyddiad hwn yn esbonio'r gwahanol opsiynau ariannu sydd ar gael drwy'r gronfa a bydd yn gyfle i gwrdd â rheolwyr cronfeydd a benodwyd gan Fanc Busnes Prydain.  ⁠  ⁠ 

Gall y rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â'r dathlu a deall mwy am Gronfa Buddsoddi i Gymru gofrestru yma

quotation graphic
quotation graphic

Alwen Williams, Cyfarwyddwr, Uchelgais Gogledd Cymru:

"Yn gyntaf hoffwn ddiolch i Dr Edward Jones am gynrychioli Uchelgais Gogledd Cymru ar Fwrdd Cynghori Rhanddeiliaid Banc Busnes Prydain Cymru. O ystyried ei arbenigedd mewn economeg, a’i gefndir penodol mewn economeg ariannol, ef yw’r eiriolwr cyflawn ar gyfer Cronfa Buddsoddi i Gymru ac mae yn y sefyllfa orau i sicrhau bod busnesau, a sefydliadau cysylltiedig, ein rhanbarth yn gallu elwa ar ei lu o fanteision. Byddwn yn annog pobl i gofrestru ar gyfer digwyddiad Llandudno a fydd, rwy’n siŵr, yn llwyfan gwych ar gyfer cefnogi twf economaidd Gogledd Cymru yn y dyfodol.” 

quotation graphic
quotation graphic

Ychwanegodd Bethan Bannister, Uwch Reolwr, Cronfeydd Buddsoddi’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau:

“Bydd y ffynhonnell newydd hon o gyllid yn helpu i alluogi busnesau llai o bob rhan o Gymru i ehangu, creu swyddi newydd a harneisio cyfleoedd busnes. Byddwn yn annog unrhyw gyfryngwyr neu fusnesau yn yr ardal sydd am gymryd y cam nesaf ar eu taith dwf i gysylltu â’n Rheolwyr Cronfeydd yn y digwyddiad sydd i ddod i weld sut y gallai Cronfa Fuddsoddi Cymru fod o fudd iddynt.” 

quotation graphic