Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn falch iawn o noddi gwobr newydd yng Ngwobrau Twristiaeth ‘Go North Wales’ eleni, sy'n dathlu'r sgiliau ac arloesedd busnes o fewn y sector.  

 

Bydd y wobr newydd gyffrous o'r enw'r 'Go Skills Award', yn darparu cydnabyddiaeth angenrheidiol i unigolion gweithgar yn sector twristiaeth y rhanbarth. Gall busnesau neu unigolion gyflwyno enwebiadau ar gyfer y wobr hon neu sawl categori arall cyn i'r cyflwyniadau gau ar y 10fed o Hydref.

 

Dywedodd Sian Lloyd Roberts, y Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol: "Rydym yn falch iawn o noddi'r Wobr hon yng Ngwobrau Twristiaeth Go North Wales 2022."

 

"Mae'r sector twristiaeth yn cyfrannu £0.7m (GVA) i economi Gogledd Cymru ac mae'n yrfa i bron i 35,000 o bobl yn y rhanbarth. Mae'r sector wedi cael sawl blwyddyn heriol, ac mae angen canolbwyntio ar hybu twristiaeth gynaliadwy yn ein rhanbarth."

 

"Rydym am newid y naratif bod y sector twristiaeth ar gyfer swyddi tymhorol yn unig a sicrhau bod pobl a busnesau yn ystyried y cyfleoedd gyrfa tymor hir o fewn y sector. Mae amrywiaeth o opsiynau diddorol a gwerth chweil o ran gyrfa yn y sector twristiaeth, sy'n cynnig hyblygrwydd yn ogystal â datblygu gyrfa. Rydym yn edrych ymlaen i’r gwobrau ac i gwrdd â'r enwebai llwyddiannus."

 

Mae trefnwyr y gwobrau,Twristiaeth Gogledd Cymru, yn edrych ymlaen i’r gwobrau hefyd. Dyma fydd y chweched flwyddyn yn olynol caiff y gwobrau eu cynnal.  Dywedodd Jim Jones, Prif Weithredwr Twristiaeth Gogledd Cymru sydd hefyd yn gynrychiolydd ar fwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol: “Mae’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn sefydliad addas iawn i noddi'r categori yma.”

 

“Mae prinder sgiliau enfawr yn y sector twristiaeth a lletygarwch ac rwyf wedi gweld fy hun, y gwaith mae'r Bartneriaeth yn ei wneud i helpu ein diwydiant. Dyma gyfle gwych i gydnabod a dathlu cyfraniad eithriadol person neu fusnes i ochr sgiliau twristiaeth a lletygarwch. "

 

Bydd y seremoni'n cael ei chynnal yn Venue Cymru yn Llandudno, ar 24ain o Dachwedd ac yn cael ei chynnal gan y ddarlledwraig Sian Lloyd. I gyflwyno eich enwebiad neu am fwy o wybodaeth: www.gonorthwalestourismawards.website