• Gwenllian Mai Brassington, Rheolwr Prosiect Cysylltedd Digidol, ⁠Uchelgais Gogledd Cymru

    Yn y rhan fwyaf o fusnesau, mae rhai prosesau sy'n cymryd mwy o amser, arian neu adnoddau staff nag y dylent. Fel arfer, bydd y bobl sy'n rhedeg y sefydliadau hynny yn gwybod ble mae'r problemau, hyd yn oed pan fo'r dechnoleg a allai fynd i'r afael â'r problemau hynny yn llai amlwg. 

Dyna'r meddwl y tu ôl i Gronfa Grant Technoleg Ddi-wifr Uwch Uchelgais Gogledd Cymru. Nid mater o wella cysylltedd neu annog busnesau i fabwysiadu technoleg yn unig mo hyn. Ond, y bwriad yw helpu sefydliadau i fynd i'r afael ag angen gweithredol clir, gwella cynhyrchiant a buddsoddi mewn systemau a all eu cefnogi dros y tymor hwy. Mae'r Gronfa wedi'i datblygu i gefnogi nodau Uchelgais Gogledd Cymru, sef gwella cysylltedd, hyrwyddo arloesedd, creu swyddi a datblygu cynaliadwy.

Mae cyfanswm o £18.8 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael tan fis Mawrth 2030 drwy Gynllun Twf Gogledd Cymru. Mae'r grantiau'n amrywio o £20,000 i £2 filiwn a gallant dalu hyd at 50% o gostau prosiectau sy'n gymwys, gyda'r ymgeiswyr yn rhoi gweddill yr arian cyfatebol. 

Mae maint y gefnogaeth yn golygu mai hon yw'r gronfa grant fwyaf yn y DU ar gyfer technoleg ddi-wifr uwch ar hyn o bryd. I mi, fodd bynnag, y peth mwyaf cyffrous yw ehangder yr hyn y gallai sefydliadau ledled y Gogledd ei gyflawni gyda’r grant. 

Mae technoleg ddi-wifr uwch yn cwmpasu ystod eang o ddatrysiadau, gan gynnwys rhwydweithiau 5G, Wi-Fi, technoleg loeren a'r Rhyngrwyd Pethau (IoT). O fewn y categorïau eang hynny mae cannoedd o wahanol gynhyrchion a chymwysiadau, o systemau monitro cymharol syml hyd at dechnoleg fwy soffistigedig sy'n gallu cysylltu offer, pobl, data a deallusrwydd artiffisial. 

Dyna pam rydym wedi osgoi cyfyngu'r gronfa i sectorau neu feintiau busnes penodol. Gall busnesau a sefydliadau cofrestredig sy'n gweithredu yng ngogledd Cymru wneud cais, gan gynnwys y rheiny yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, cyn belled â'u bod nhw'n barod i ddefnyddio datrysiad technoleg ddi-wifr ar raddfa ganolig i raddfa fawr. 

Mae gweithgynhyrchu, twristiaeth, trafnidiaeth a logisteg, lletygarwch ac amaethyddiaeth ymhlith y sectorau allweddol lle rydym yn disgwyl gweld ceisiadau cryf – ond nid yw'r gronfa wedi'i chyfyngu i'r meysydd hynny. Mae'r dechnoleg mor amrywiol, mae'n debyg y bydd achos defnydd perthnasol i bron unrhyw sefydliad sydd wedi diffinio'n glir yr her iddyn nhw o ran gweithredu. 

Y lle gorau i ddechrau yw drwy adnabod y broblem fusnes, yn hytrach na gofyn pa dechnoleg i'w phrynu. Efallai y bydd sefydliad eisiau monitro offer yn fwy effeithiol, lleihau amser segur, gwella goruchwyliaeth ar draws safle neu ryddhau staff rhag gwneud gwiriadau ailadroddus â llaw. Unwaith y bydd yr angen wedi'i ddeall, bydd posib archwilio'r dechnoleg gywir o gwmpas hynny. 

Mewn amaethyddiaeth, er enghraifft, gall synwyryddion sydd wedi'u cysylltu trwy dechnoleg signal radio LoRaWAN gefnogi gwaith monitro cyflyrau a helpu i adnabod risgiau cyn iddynt ddatblygu i fod yn broblemau mwy. Gall hynny leihau'r angen am wiriadau aml â llaw a chaniatáu i bobl dreulio mwy o amser ar waith sy'n gofyn am eu barn a'u profiad. 

Gellir cymhwyso'r un egwyddor mewn llefydd eraill. Gall gweithgynhyrchwr ddefnyddio systemau di-wifr i wella gwelededd perfformiad offer. Gall busnes logisteg gryfhau'r ffordd y mae'n tracio gweithrediadau, tra gall busnes lletygarwch neu dwristiaeth ddefnyddio systemau cysylltiedig i reoli cyfleusterau'n fwy effeithlon. Bydd y dechnoleg yn amrywio o'r naill brosiect i'r llall, ond yr un yw'r nod: gwella cynhyrchiant, creu effeithlonrwydd a gwneud gwell defnydd o'r amser a'r adnoddau sydd ar gael. 

Gall y gronfa gefnogi gwariant cyfalaf, gan gynnwys offer, meddalwedd, gwaith gosod, trwyddedau a chostau rheoli prosiect nes fod y dechnoleg yn weithredol. Ni all dalu am wariant refeniw na chost barhaus cynnal system unwaith y bydd yn fyw, felly bydd angen i ymgeiswyr ddangos bod y buddsoddiad yn gynaliadwy y tu hwnt i gyfnod y grant. 

Mae edrych ar y tymor hir yn ganolog i'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni. Rydym eisiau gweld ymgeiswyr yn ystyried yr hyn y gall y dechnoleg ei gwneud yn syth bin, a hefyd sut y gellid ei hymestyn, sut arall y gellid ei defnyddio a sut y gallai eraill sydd yn yr un sector ac o fewn economi ehangach gogledd Cymru elwa o'r hyn sydd wedi'i ddysgu mewn prosiect.

Mae gan y gronfa hefyd nodau economaidd clir ar gyfer y Gogledd. Disgwylir i brosiectau llwyddiannus helpu i greu swyddi, cynyddu gwerth ychwanegol gros a denu buddsoddiad pellach i'r rhanbarth. Fel arweiniad, disgwylir creu un swydd gyfwerth ag amser llawn am bob £90,000 i £120,000 o gyllid grant a ddyfernir. 

Gall y swyddi hynny fod yn rhai uniongyrchol neu anuniongyrchol a gallant gynnwys prentisiaethau, ond rhaid iddynt fod wedi'u lleoli yn y Gogledd. Rhaid cynnal swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol hefyd am o leiaf dair blynedd ar ôl y dyfarniad.

Bydd dau gam i'r ceisiadau, gan ddechrau drwy fynegi diddordeb cyn i brosiectau dethol fynd ymlaen i gais llawn. Lansiwyd y gronfa ar 30 Mehefin ac mae rhai ceisiadau cryf eisoes wedi dod i law, ac mae eraill wrthi'n cael eu datblygu. Mae'r lefel honno o ddiddordeb cynnar yn galonogol oherwydd mae'n dangos bod sefydliadau'n dechrau meddwl o ddifri am sut y gallai technoleg ddi-wifr uwch newid y ffordd maen nhw'n gweithio. 

Nid oes angen i fusnesau fod yn arbenigwyr ar dechnoleg, ond mae angen iddynt fod wedi gwneud y gwaith caib a rhaw. Gall siarad â chyflenwyr, arbenigwyr yn y diwydiant, cyrff masnach a sefydliadau sydd ymhellach ymlaen yn eu taith tuag at droi'n ddigidol helpu i weld beth sy'n ymarferol, beth allai ei gostio a pha mor hir y mae'n debygol o'i gymryd i weithredu.

Er mwyn mynegi diddordeb cryf, bydd angen cael cynllun prosiect clir, esbonio'r broblem sy'n cael sylw a dangos y gall y sefydliad reoli'r gwaith cyflawni, rheoli risg a darparu'r manteision sydd dan sylw. Rhaid hefyd dangos sut y bydd y dechnoleg yn parhau i gael ei defnyddio ar ôl cyfnod y grant a sut y gall y buddsoddiad greu gwerth ehangach. 

Bydd y gronfa ar agor tan fis Mawrth 2030 a bydd amryw o gylchoedd ariannu yn ystod y cyfnod hwnnw. Drwy gyflwyno cais yn gynharach, bydd mwy o amser i brosiectau gael eu datblygu a'u cyflwyno – felly, o safbwynt sefydliadau sydd eisoes yn gwybod ble y gallent wella o ran gweithredu, y cam nesaf fyddai troi'r ddealltwriaeth honno yn gynnig sy'n seiliedig ar waith ymchwil da gydag achos busnes clir y tu ôl iddo.

Bydd y cyfle nesaf i Fynegi Diddordeb ym mis Ionawr 2027.