Mae llai na tair wythnos yn weddill i brosiectau wneud cais am £30 miliwn o gyllid cyfalaf gan Uchelgais Gogledd Cymru.

Mae ceisiadau ar gyfer prosiectau sydd â’r potensial i ysgogi twf economaidd, creu swyddi a denu buddsoddiad yn cael eu hannog i wneud cais am y cyllid. Bydd yr arian yn cael ei ddyrannu i brosiectau sy’n cyd-fynd â rhaglenni’r Cynllun Twf, yn benodol Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth, Tir ac Eiddo ac Ynni Carbon Isel.

Mae Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau Uchelgais Gogledd Cymru yn egluro: “Mae’r dyddiad cau ar gyfer y cyfle hwn yn gyflym agosáu. Rydym eisiau clywed gan fusnesau a sefydliadau sy’n cwrdd â’n criteria a gweithio gyda ni i sicrhau budd i’r rhanbarth o ganlyniad i’r Cynllun Twf.”

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw’r 27ain o Fawrth 2023. Mae rhagor o wybodaeth am y cyllid a recordiad o weminar diweddar ar gael ar https://uchelgaisgogledd.cymru/