Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru - trefnwyr cynhadledd ‘Taclo Heriau Sgiliau a Gweithlu’,  yn falch o gyhoeddi  rhestr o siaradwyr fydd yn rhannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd gyda mynychwyr.

Mae'r digwyddiad, yn Venue Cymru, Llandudno ar Ebrill 26ain, yn addo cyfleoedd gwerthfawr i gyflogwyr Gogledd Cymru i ddysgu a rhwydweithio gyda chyfoedion a bydd amser hefyd i ymgysylltu ag arweinwyr a chlywed y safbwyntiau diweddaraf ar sut i fynd i'r afael â rai o'r heriau allweddol sy'n wynebu busnesau wrth iddynt recriwtio, datblygu a chadw talent.

Dan gadeiryddiaeth cyn-newyddiadurwr y BBC, Bethan Williams Price, mae siaradwyr a phanelwyr ar gyfer y digwyddiad hefyd yn cynnwys:

  • Craig Weeks - Cyfarwyddwr Gweithrediadau, JCB (Prif siaradwr)
  • Alwen Williams - Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru
  • Nia Bennet – Cyfarwyddwr, Effectus HR / Cadeirydd, Urdd Gobaith Cymru
  • Mike Learmond - Uwch Reolwr Datblygu Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach

Mae sesiynau grwp hefyd wedi eu cadarnhau:

  • Datblygu Pobl a Gweithlu: Y Dull Strategol gyda Dafydd Bowen, Menter a Busnes
  • Gen Z a thu hwnt gyda Lesley Richards, Pennaeth CIPD Cymru
  • Cryfhau Ymgysylltu gyda Gweithlu gyda David Roberts, David Roberts - Cadeirydd, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru

 

Mae cofrestru yn rhad ag am ddim ac yn agored i fusnesau a sefydliadau o unrhyw faint mewn unrhyw sector. I sicrhau lle yn y gynhadledd https://tinyurl.com/zjnkbe33.

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gysylltu ag arbenigwyr a chyd-weithwyr proffesiynol. Rhowch y  Ebrill 26ain yn eich dyddiadur ac ymunwch â ni yn Venue Cymru ar gyfer digwyddiad sy'n siwr o ysbrydoli.

I gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru a sut y gallwch chi gymryd rhan yn eu gwaith ewch i www.partneriaethsgiliaugogledd.cymru neu e-bostiwch info@rspnorth.wales.

Ein siaradwyr - mewn trefn siarad