Mae nod Gogledd Cymru i arwain ym maes arloesi digidol wedi’i atgyfnerthu'r wythnos hon gyda chymeradwyo achos busnes amlinellol Canolfan Prosesu Signalau Digidol (DSP) Prifysgol Bangor.

 

Mae penderfyniad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (Bwrdd Uchelgais Economaidd) yn dod â phrosiect y DSP gam yn nes at sicrhau buddsoddiad o £3 miliwn drwy Cynllun Twf Gogledd Cymru. Dyma’r prosiect cyntaf o dan Raglen Ddigidol y Cynllun Twf i gyrraedd y garreg filltir hon.

 

Bydd y cynlluniau’n sicrhau bod ymchwilwyr Prifysgol Bangor yn gallu gweithio ochr yn ochr â chwmnïau rhyngwladol proffil uchel yn ogystal â busnesau bach lleol i chwilio am atebion ar gyfer 5G i’r dyfodol. Mae hyn yn golygu arloesi i newid y ffordd y mae busnesau ac unigolion yn gweithredu ac yn defnyddio technoleg - a chreu 40 o swyddi newydd yn uniongyrchol ar hyd y daith.  

 

Y Cynghorydd Mark Pritchard yw Arweinydd Cyngor Wrecsam ac mae'n Aelod Arweiniol ar gyfer Rhaglen Ddigidol y Bwrdd Uchelgais. Dywedodd: “Mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn y Ganolfan DSP wirioneddol yn arloesol a bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r ffordd rydyn ni'n cysylltu â'n gilydd a sut rydyn ni'n defnyddio 5G a thechnoleg i gyfathrebu.

 

“Roedden ni’n falch o gymeradwyo’r achos busnes amlinellol yma ar gyfer y Ganolfan - mae hwn yn brosiect pwysig a bydd o help i sicrhau bod y rhanbarth yn parhau i dyfu ac yn dod yn brif chwaraewr yn y sector digidol.”

Wrth i'r galw am wasanaethau digidol barhau i dyfu, nod ymchwilwyr y Ganolfan yw paratoi systemau cyfredol ar gyfer y dyfodol trwy edrych ar sut mae gwybodaeth yn y byd go iawn yn cael ei phrosesu yn y byd rhithiol. Y Ganolfan ym Mangor yw’r unig safle ymchwil yn y DU sy’n mynd i’r afael â technoleg ar gyfer 5G a thu hwnt. Mae’n gweithio ochr yn ochr â 28 o bartneriaid masnach i gyflawni gwahanol brosiectau Ar hyn o bryd.

 

Ychwanegodd yr Athro Iwan Davies, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: “Mae’r Ganolfan DSP yn enghraifft wych o sut mae Prifysgol Bangor yn gweithio gyda diwydiant a sefydliadau addysg eraill i ddarganfod atebion i broblemau’r byd go iawn drwy waith ymchwil a datblygu sydd o safon byd eang.”
 

Wedi gweithio gydag enwau mawr mewn diwydiant gan gynnwys Ciena, Orange, Fujitsu a BT, mae'r Ganolfan wedi ffeilio wyth patent ac eisoes wedi sicrhau grantiau ymchwil gwerth cyfanswm o £12m. Gyda’i brofiad sylweddol a chyllid pellach drwy Cynllun Twf Gogledd Cymru gall Canolfan DSP ehangu ac ymestyn ei allu ymchwil trwy gaffael offer newydd arloesol.

Mae disgwyl i’r Bwrdd Uchelgais Economaidd ystyried achos busnes llawn y Ganolfan DSP yn Rhagfyr yn 2022.

Diwedd

 

Nodiadau i Olygyddion
 

1. Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn fuddsoddiad o £1 biliwn i economi’r rhanbarth, gyda £240m ohono yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

2. Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yw'r corff sy’n gwneud penderfyniadau ar gyfer y Cynllun Twf ac mae'n bartneriaeth rhwng y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru a sefydliadau addysgol y rhanbarth.

3. Mae'r Ganolfan DSP ym Mhrifysgol Bangor wedi'i sefydlu i drosglwyddo ymchwil a datblygu sy'n cael ei yrru gan y farchnad i gynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd ar gyfer cyfathrebu digidol. Mae eisoes wedi derbyn cyllid gwerth £6 trwy ERDF i adeiladu ar broffil rhyngwladol a llwyddiant Grŵp Cyfathrebu Optegol ac Ymchwil Prifysgol Bangor (OCRG). Mae’r Ganolfan wedi datblygu enw da fel un o brif gyfleusterau DSP yn y DU ac yn fyd-eang. Bydd buddsoddiad y Cynllun Twf yn caniatáu’r Ganolfan i brynu offer profi fydd yn gwella ei allu i weithio gyda diwydiant ar brosiectau ymchwil ac arloesi pwysig. Mae prosesu signalau digidol yn rhan bwysig o'r economi ddigidol - mae'n rhannu gwybodaeth o'r byd go iawn a’i brosesu yn y byd rhithiol ac yn dechnoleg hanfodol ar gyfer diwydiant 4.0 a 5G.

4. Achos Busnes Amlinellol: cymeradwyaeth gychwynnol cyn symud i’r cam nesaf a chychwyn y broses gaffael.

5. Achos Busnes Llawn: y penderfyniad terfynol ar y buddsoddiad unwaith y bydd prosiect wedi cwblhau'r holl weithgaredd chaffael  a cheisiadau caniatâd angenrheidiol.