Wedi ei ysgrifennu gan Outwrite Public Relations

Mae Cynllun Sgiliau newydd sydd yn canolbwyntio ar gydweithredu rhwng darpariaethau addysg a busnesau yn y rhanbarth, wedi ei gefnogi gan gyflogwyr allweddol, cyrff addysg, a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru.

Gyda sgiliau yn uchel ar yr agenda i gyflogwyr, mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (RSP) wedi lansio ei chynllun sgiliau a chyflogaeth ar gyfer y tair blynedd nesaf, i helpu i wneud y mwyaf o gyfleoedd i uwchsgilio yn y rhanbarth.

Mae David Roberts, sy’n cadeirio’r RSP, yn ymfalchïo yn y cynllun ar ‘dacluso’ y dirwedd cyflogaeth a sgiliau gymhleth drwy ddarparu fframwaith i gyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, a chyllidwyr weithio fel grŵp.

Daeth dros 160 o bobl i’w ddigwyddiad lansio yn Venue Cymru, gyda sesiynau panel arbenigol a siaradwyr yn annog deialog agored rhwng sectorau.

Yn ogystal, cymeradwyodd Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething y cynllun yn ystod prif anerchiad o bell.

Dywedodd David, sydd hefyd yn rhedeg cangen Gogledd Cymru o wasanaeth cynghori busnes The Alternative Board: “Roedd rhannu ein gweledigaeth trwy ddigwyddiad cydweithredol wir wedi dod â’r glasbrint yn fyw, ac os yw’r digwyddiad yn arwydd o’r hyn sydd gan y tair blynedd nesaf i’w gynnig - mae llawer i fod yn gyffrous yn ei gylch".

“Gwelsom awydd mawr i hwyluso mwy o brofiad gwaith, uwchsgilio, ac ailhyfforddi, a gobeithiwn y bydd y sgyrsiau ystyrlon hyn yn trawsnewid yn fwy o gyfleoedd ar gyfer ffyniant".

“Roedd yn wych clywed lleisiau cenhedlaeth nesaf y gweithlu yn tynnu sylw at fanteision mwy o gydweithio o’u safbwynt nhw, a greodd rym ysbrydoledig yn yr ystafell.”

Roedd yn wych i drafod y tair agwedd graidd i'r cynllun; galluogi cyflogwyr, cyfathrebu sut y darperir cymorth, a grymuso unigolion. Cynhaliwyd tair sesiwn banel gyda chynrychiolwyr o bob adran yn bresennol.

Ar y panel cloi, bu prentisiaid presennol yn rhannu eu meddyliau ac yn ateb cwestiynau, gan gynnwys Rosie Boddy, sy’n cwblhau prentisiaeth Airbus a chyflwynodd ar y diwrnod hefyd.

Dywedodd Rosie, a symudodd o’i thref enedigol Farnborough yn 17 oed i Ogledd Cymru ar gyfer y brentisiaeth: “Roeddwn i bob amser yn gwybod fy mod i eisiau dilyn gyrfa yn y diwydiant hedfan, felly roeddwn i wrth fy modd i gael y cyfle i ymuno âg Airbus am le ar y cynllun."

“Ers hynny, mae’r prentisiaeth wedi arwain at gyfleoedd di-ri i ddatblygu fy sgiliau, gan gynnwys gallu cymryd rhan yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills y DU, lle enillais fedal aur mewn cynnal a chadw awyrennau."

“Mae mor bwysig i fusnesau weithio’n agos gyda cholegau i helpu i ddangos y cyfleoedd amrywiol sydd ar gael a’u cynrychioli fel dewisiadau gyrfa hyfyw i bobl ifanc.”

Daeth sesiwn banel arall â chynrychiolwyr o ddarpariaeth addysg Prifysgol Bangor, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Coleg Cambria, Coleg Llandrillo Menai, Gyrfa Cymru, a Chyngor Sir y Fflint, i siarad am eu rhaglenni hyfforddi a’u cysylltiadau presennol â diwydiant.

Yn ogystal, daeth panel â ffocws busnes â chyflogwyr allweddol Moneypenny, The VAE, M-Sparc, a Wynne Construction at ei gilydd i drafod arferion gorau wrth ddatblygu sgiliau prentisiaid a gweithwyr i gryfhau ei weithlu.

Bu rheolwr gwerth cymdeithasol Wynne Construction, Alison Hourihane, hefyd yn arwain sgwrs ar y cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau yn y diwydiant adeiladu.

Wrth fyfyrio ar y digwyddiad, dywedodd Alison: “Wrth weithio ym maes adeiladu, rydyn ni’n gadael gwaddol i’r gymuned leol felly mae’n hynod bwysig ein bod ni’n sicrhau hyn o’r cychwyn cyntaf drwy ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant lleol.

“Mae cefnogi pobl leol i adeiladu a manteisio ar addysg yn rhan enfawr o’n gwaith a gobeithiwn yn ystod tair blynedd nesaf y cynllun y bydd mwy o unigolion yn ymwybodol o’r cyfleoedd a’r llwybrau gyrfa sydd ar gael i helpu i feithrin sgiliau yn niwydiannau Gogledd Cymru.”

Mae’r RSP yn un o bedair partneriaeth strategol ledled Cymru ac fe’i sefydlwyd yn 2012 fel rhan o ddull ehangach Llywodraeth Cymru o ddatblygu economaidd rhanbarthol.

Cadeiriodd David Roberts y bartneriaeth yn ystod ei chynllun sgiliau blaenorol ar gyfer 2019-2022, a gyda’r RSP, mae’n gweithio’n agos gydag Uchelgais Gogledd Cymru i nodi blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer buddsoddi mewn sgiliau.

I ddarganfod mwy am Gynllun Sgiliau RSP ar gyfer 2022-25, ewch i www.rspnorth.wales