Yr wythnos hon, mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi cymeradwyo'r achos busnes llawn ar gyfer Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter Prifysgol Wrecsam (EEOC). Bydd y Cynllun Twf yn ariannu £11.55m o’r prosiect.

Yn garreg filltir arwyddocaol, bydd y prosiect yn datblygu canolfan arbenigol ar gyfer ymchwil, cydweithredu busnes a datblygu sgiliau mewn opteg, ffotoneg a chyfansoddion ar gyfer y sector gweithgynhyrchu. Bydd hefyd yn integreiddio hydrogen fel ffynhonnell danwydd amgen gan gyfrannu at arferion cynaliadwy mewn diwydiant.

Rhan allweddol o'r prosiect yw denu buddsoddiad i Ogledd Cymru a chreu cyflogaeth leol, gyda rhwng 70 a 90 o swyddi newydd yn cael eu rhagweld o ganlyniad i'r prosiect, a mwy na 1,000 o bobl wedi'u hyfforddi i gwrdd ag anghenion y dyfodol. Bydd y prosiect yn cael ei ddarparu ar draws dau o safleoedd y brifysgol - y Ganolfan Dechnoleg OpTIC yn Llanelwy a champws Plas Coch yn Wrecsam.

 

  • Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter

    Argraff arlunydd o'r campws, wedi'i leoli ym Mhrifysgol Wrecsam

quotation graphic

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Gwynedd: ''Rydym yn falch bod y Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter wedi cyrraedd cam mor bwysig. Dyma'r prosiect cyntaf yn y rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel i gyrraedd y pwynt hwn.

"Does dim amheuaeth y gall y ganolfan, drwy'r arbenigedd sydd eisoes yn bodoli ym Mhrifysgol Wrecsam, yrru datblygiad cynnyrch mewn technolegau carbon isel. A hyn ar adeg sydd mor bwysig i ddatgarboneiddio a llwyddiant busnesau rhanbarthol yn y dyfodol."

 

quotation graphic

Mae cymeradwyaeth yn golygu y gall y prosiect symud ymlaen i ddechrau ar y safle yn gynnar yn 2024, gyda chwmni o’r Gogledd, Wynne Construction, eisoes wedi'i benodi'n brif gontractwr ar gyfer y gwaith adeiladu ym Mhlas Coch. Bydd ymgysylltu ar draws y rhanbarth yn parhau trwy gydol 2024, a disgwylir i'r cyfleusterau agor erbyn hydref 2025.

Mae'r prosiect yn rhan o strategaeth Campws 2025 gwerth £80m y Brifysgol, sydd am wella campysau prifysgolion, i sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad at y cyfleusterau a'r amgylchedd dysgu gorau.

quotation graphic

Ychwanegodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam: "Mae buddsoddiad gan Gynllun Twf Gogledd Cymru ar gyfer datblygu'r Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter yn gam allweddol i wella ein cysylltiadau â diwydiant a chyflogwyr allweddol ar draws y rhanbarth.

"Rydym yn ymwybodol o’r angen brys i leihau allyriadau carbon a gwastraff o weithgynhyrchu, fel y manteision cost ac effeithlonrwydd posibl. Fodd bynnag, gan fod technoleg sy'n newid yn gyson yn gallu bod yn ddryslyd i lawer, nod y Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter yw darparu'r cyfleusterau a’r ymchwilwyr o'r Brifysgol a fydd yn helpu ac yn cefnogi busnesau i ddatblygu a gweithredu'r atebion gorau."

quotation graphic
quotation graphic

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Mae'n wych gweld y prosiect arloesol hwn yn symud ymlaen fel rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru.  Bydd yn ased gwerthfawr ar gyfer gweithgynhyrchu yn y rhanbarth, a bydd hefyd yn cyfrannu tuag at ein hagenda datgarboneiddio.  Mae gan y Cynllun Twf y potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i economi Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth £120m gan Lywodraeth Cymru.  Mae'n dda gweld cwmni lleol, Wynne Construction, fel y prif gontractwr sy'n hwb pellach i'r rhanbarth.  Rwy'n edrych ymlaen at weld y prosiect hwn yn datblygu ac yn gwneud gwahaniaeth."

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies: "Mae'n wych gweld cynnydd gyda Chynllun Twf Gogledd Cymru yn cymeradwyo'r prosiect pwysig hwn. Mae Prifysgol Wrecsam eisoes yn gwneud gwaith ymchwil a datblygu anhygoel yn y maes hwn, ac rwy'n falch iawn ei bod hi wedi bod yn bosib defnyddio cyllid gan Lywodraeth y DU a'n partneriaid i greu cyfleusterau newydd ac adeiladu ar eu harbenigedd."

quotation graphic
EEOC