Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi cychwyn ar ei ymgyrch codi arian nesaf ar gyfer hosbis plant, Tŷ Gobaith, drwy ymgymryd â her £50 yr elusen. 

Yn ôl ym mis Medi, cyhoeddodd Uchelgais Gogledd Cymru, Tŷ Gobaith, fel ei elusen ddewisol am flwyddyn, gyda staff eisoes wedi cwblhau rhediadau tywyll noddedig, wedi cynnal arwerthiant pobi ac wedi gwneud rhoddion dillad. 

Mae her £50 Tŷ Gobaith yn cynnig yr arian i sefydliadau allu cynhyrchu cymaint yn gyfnewid â phosibl i’r elusen. Mae tîm Uchelgais Gogledd Cymru wedi penderfynu defnyddio’r arian tuag at gynnal noson gwis, lle mae’n anelu at luosi’r rhodd wreiddiol cymaint â phosibl.  

Cynhelir y cwis o 6.30pm-9.30pm ddydd Iau 18 Ebrill yn M-SParc, Gaerwen, Ynys Môn. Mae tocynnau yn £5 (+ ffi archebu) y pen ac yn cynnwys y cwis, adloniant a lluniaeth ysgafn. Mae gwesteion hefyd yn gallu dod â'u lluniaeth eu hunain, gan gynnwys diodydd alcoholig os ydynt yn dymuno. Bydd raffl ar y noson hefyd. 

Gellir prynu tocynnau yn Eventbrite rŵan drwy bit.ly/cwis, neu os na all pobl wneud y noson, ond yr hoffent wneud cyfraniad, mae modd gwneud hynny trwy JustGiving. 

quotation graphic

Dywedodd Daniel Evans, Rheolwr Prosiect Ynni, Uchelgais Gogledd Cymru - sydd hefyd yn arwain yr ymdrechion codi arian:

“Rydym wrth ein bodd gyda her yma yn Uchelgais Gogledd Cymru, felly neidiom ar y cyfle i godi mwy o arian i Tŷ Gobaith. Mae’r noson gwis eisoes yn profi’n boblogaidd, felly byddem yn annog pobl i gael eu tocynnau rŵan gan mai dim ond nifer cyfyngedig sydd gennym. 

“Rydym eisoes wedi cael cymaint o gefnogaeth gyda M-SParc yn rhoi’r lleoliad ar gyfer y cwis, Becws Môn y te, coffi a bisgedi a Lafan yn darparu creision i westeion. Mae ein staff ac eraill yn rhoi gwobrau ar gyfer raffl ac rydym yn gobeithio gallu rhedeg arwerthiant hefyd.” 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Andy Everley, codwr arian Tŷ Gobaith: 

“Rydym yn estyn ein diolch o galon i Uchelgais Gogledd Cymru ar ran yr hosbisau. 

“Mae eu brwdfrydedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol, megis rhediadau tywyll noddedig, gwerthu cacennau, a rhoi 20 bag o ddillad, yn cael ei werthfawrogi’n fawr ac rydym yn edrych ymlaen at fynd draw i’w noson gwis ym mis Ebrill.” 

quotation graphic

Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu gwobrau, neu roi cefnogaeth mewn unrhyw ffordd arall, anfon e-bost at info@uchelgaisgogledd.cymru 

Agorwyd Tŷ Gobaith, hosbis plant, yng Nghonwy yn 2004 – gan ddarparu gwasanaethau hanfodol i deuluoedd ar draws Gogledd Cymru. Hon oedd yr ail hosbis a agorwyd gan Hope House, sydd bellach yn cefnogi 750 o deuluoedd. 

Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn bwriadu cynnal ail gwis yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn nwyrain Gogledd Cymru.