Mae Uchelgais Gogledd Cymru a Choleg Cambria wedi penderfynu ar y cyd na fydd prosiect Fferm Sero Net Llysfasi bellach yn cael ei ariannu gan Gynllun Twf Gogledd Cymru. Yn lle hynny, caiff prosiect Fferm Sero Net Llysfasi ei ariannu drwy ffynonellau eraill y tu allan i'r Cynllun Twf, megis cronfa Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sy'n cyd-fynd yn agos â nodau addysgol y Coleg. Bydd y prosiect yn galluogi i'r diwydiant amaeth elwa o ofod dysgu ac addysgu cyfoes newydd yn Llysfasi, a fydd yn eu cefnogi wrth iddynt ehangu arferion ffermio carbon isel o fewn eu busnesau ac ar draws y sector ffermio. Bydd mynediad i gyllid presennol a newydd gan Lywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi'r trawsnewidiad hanfodol hwn i sero net.   

 

Mae hyn yn newyddion cadarnhaol. Mae'n golygu y bydd prosiect Fferm Sero Net Llysfasi yn bwrw ymlaen, gan hefyd alluogi i'r £9.85 miliwn a glustnodwyd yn flaenorol o'r Cynllun Twf gael ei ail-gyfeirio tuag at gyflawni buddion i ogledd Cymru. Bydd Uchelgais Gogledd Cymru nawr yn dechrau proses o ystyried opsiynau ar gyfer sut gellir ail-glustnodi ein cyllid cyfalaf er mwyn cyflawni orau yn erbyn ein targedau rhanbarthol i greu swyddi, gwella cynhyrchedd a sicrhau buddsoddiad. 
 


Mae Coleg Cambria ac Uchelgais Gogledd Cymru yn parhau i fod yn bartneriaid a byddant yn parhau i weithio i ddatblygu economi Gogledd Cymru.