Mae denu, datblygu a chadw talent yn dal i fod yn un o'r prif heriau sy'n wynebu busnesau Gogledd Cymru, yn ôl ymchwil diweddar gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (PSR). I ymateb i hyn, mae digwyddiad wedi'i gyhoeddi i ganiatáu i fusnesau, arweinwyr diwydiant a gweithwyr proffesiynol gael cyfle i ddarganfod atebion i oresgyn rhai o'r materion yma.

Yn y digwyddiad, gaiff ei gynnal yn Venue Cymru, Llandudno ar y 26ain o Ebrill, bydd busnesau'n clywed gan arbenigwyr am reoli eu gweithlu, ac yn cael rhannu profiadau a gwersi gwerthfawr ar ddod yn gyflogwr o ddewis.  Prif siaradwr y dydd fydd Craig Weeks, Cyfarwyddwr Gweithredu JCB yn Wrecsam.

Ers i Craig ymuno â'r cwmni, mae JCB wedi tyfu ac erbyn hyn mae gan y busnes dros 22 o ffatrïoedd ledled y byd, mwy na 750 o fasnachwyr a 11,000 o weithwyr.

quotation graphic

Wrth edrych ymlaen at y digwyddiad, dywedodd Craig:

"Rwy'n gwybod mai'r gweithlu yw'r ased mwyaf gwerthfawr sydd gan unrhyw fusnes, ac rwy'n deall pwysigrwydd datblygu tîm effeithiol a'r heriau sy'n dod yn sgil hynny. Dechreuais weithio i JCB 29 mlynedd yn ôl yn y gweithdy – rydw i wedi gweithio fy ffordd i fyny ac wedi dysgu llawer ar hyd y ffordd. Rwy'n edrych ymlaen at  rannu fy stori gyda chydweithwyr o Ogledd Cymru, a gobeithio y gall yr hyn fydd gen i ddweud helpu a hyd yn oed ysbrydoli eraill."

quotation graphic

Yn ogystal â chlywed gan Craig, mae siaradwyr y digwyddiad yn cynnwys Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio o Uchelgais Gogledd Cymru a David Roberts, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Roedd David yn arweinydd Adnoddau Dynol yn flaenorol ac yn gyfrifol am oruchwylio twf sefydliad i 950 o staff ar draws 25 lleoliad. Mae bellach yn rhedeg ‘The Alternative Board’ yng Ngogledd Cymru, ac yn cefnogi arweinwyr busnesau bach a chanolig i gyflawni eu targedau.

quotation graphic

Ychwanegodd David:

"Rwy'n falch iawn bod y PSR yn cynnal y digwyddiad hwn i gyflogwyr. Wedi gweithio ym maes adnoddau dynol, a rŵan yn cefnogi busnesau bach a chanolig mewn swyddogaeth ymgynghorol, mae gen i brofiad o heriau recriwtio a chadw gweithwyr.

"Bydd hwn yn gyfle gwych i fusnesau gyfarfod a dysgu gan ei gilydd.  Ar draws sawl sector, rydyn ni i gyd yn wynebu materion tebyg - bydd digwyddiad fel hwn yn rhoi llwyfan i ni drafod yr atebion ac arferion gorau."

quotation graphic

Bydd trafodaeth banel gyda chynrychiolwyr o'r gymuned fusnes leol a Federation of Small Businesses yn cael ei chynnal, a bydd gweithdai mwy penodol yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr fynd yn ddyfnach i rai o'r prif faterion a chael cyngor arbenigol.

Mae'r digwyddiad, a gynhelir gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, yn agored i fusnesau o bob maint ac o unrhyw ddiwydiant sydd eisiau cymorth gyda recriwtio, cadw a datblygu gweithwyr. Gyda niferoedd yn gyfyngedig, mae’r RSP yn annog busnesau sydd â diddordeb mewn mynychu i archebu eu lle trwy’r ddolen yma.

Bydd cyfle hefyd i rwydweithio yno a bydd arddangosfa ‘cwrdd â’r arbenigwyr’ gyda sefydliadau sy’n cefnogi cyflogwyr gyda heriau eu gweithlu.