Alison Hourihane, Rheolwr Gwerth Cymdeithasol Wynne Construction, yw Cadeirydd cyntaf y grŵp Clwstwr Cyflogwyr Adeiladu newydd. Bydd y grŵp newydd, sydd yn rhan o strwythur ‘Y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru’, yn nodi bylchau sgiliau yn y sector ac yn dod o hyd i ffyrdd o ddatrys y bylchau sgiliau hyn er mwyn datblygu dyfodol y diwydiant. 

 

Llongyfarchiadau ar eich rôl fel Cadeirydd cyntaf y Grŵp Clwstwr Cyflogwyr Adeiladu. Ydych chi'n gyffrous i ddechrau a beth ydych chi'n gobeithio ei gyflawni? 

Diolch! Rwy'n edrych ymlaen at ddechrau arni ac rwy'n falch iawn o fod y Cadeirydd cyntaf i’r grŵp yma. Mae hwn yn gyfle gwych i gyflogwyr yng Ngogledd Cymru, sy'n gweithio yn y diwydiant, drafod heriau gyda bylchau sgiliau a chydweithio i ddatrys y materion hyn a mynd i'r afael â nhw ar gyfer y dyfodol.

Fel diwydiant, mae rhaid i ni hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan herio a newid stereoteipiau’r maes.

 

Mae heddiw yn Ddiwrnod Rhyngwladol Merched- pa gyngor sydd gennych i ferched ymuno â'r diwydiant? 

Mae cymaint o gyfleoedd yn y maes adeiladu, i ddechrau eich gyrfa neu ymuno o ddiwydiant arall (fel y gwnes i). Os oes gennych ddiddordeb yn y diwydiant, yn enwedig ar yr ochr gynaliadwyedd, byddwn yn eich annog i wneud eich ymchwil, gwybod mwy am ddatblygiadau a thueddiadau newydd yn y diwydiant, a darganfod sut y gallwch gymryd rhan. 

Byddwch wrth eich bodd yn gweithio yn y maes adeiladu – mae'n gyffrous, yn esblygu ac mae pob diwrnod yn wahanol!

 

Sut wnaethoch chi ddechrau eich gyrfa ym maes adeiladu?

Dechreuais fy ngyrfa yn y sector gweithgynhyrchu ar ôl cwblhau gradd mewn Busnes. Fy swydd weithgynhyrchu gyntaf oedd gweithio i Pilkington Glass, ac yna fe symudais i'r sector TGCh, lle cwblheais ddiploma graddedig CIM ac ymuno â'r Sefydliad Marchnata Siartredig.

Dros y pymtheg mlynedd diwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio ym maes adeiladu, sydd wedi dysgu gymaint i mi am y diwydiant o edrych ar fentrau gwella prosiectau megis manteision cymunedol a hyfforddiant. Mae hyn wedi sicrhau bod pob prosiect yn gadael etifeddiaeth i'r gymuned leol. 

 

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am weithio yn y Diwydiant Adeiladu?

Rwy'n mwynhau datblygu prosiectau newydd, o'r cysyniadau dylunio, cynllunio gweithgareddau gwerth cymdeithasol ac adrodd ar lwyddiannau wrth i bob prosiect fynd yn ei flaen. Mae’n wych gweld y canlyniad, yn enwedig pan fyddwn yn adeiladu ysgolion newydd.  

Rwyf hefyd yn mwynhau bod gan y diwydiant gymaint o gyfleoedd gwaith a hyfforddiant i ddechrau gyrfa. Mae ysbrydoli cenhedlaeth y dyfodol i ymuno â'r gwaith adeiladu mor bwysig i economi ffynnu.

 

Am fwy am Y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, dilynwch y linc isod