⭐Rydym yn falch iawn o fod yn mynychu Eisteddfod yr Urdd⭐

 💚❤️🤍💛 🎪 Dydd Llun-dydd Mercher byddwn wedi ein lleoli yn ardal Cyngor Sir Ynys Môn

💚❤️🤍💛 🎪Dydd Iau-dydd Gwener o fewn ardal Menter Môn

🗺️Rydym yn gobeithio rhannu newyddion am ein gwaith a gallu tynnu sylw at ein cydweithio drwy “helfa sticeri” i blant, ynghyd â llawer o weithgareddau eraill🧩

👋Dewch draw i’n gweld ni os ydych yn ymweld â’r Eisteddfod.👋

👩‍🔬Rydym hefyd yn falch o fod wedi ariannu’r defnydd o hydrogen fel ffynhonnell tanwydd ar gyfer yr Eisteddfod eleni. Gallwch ddarganfod mwy, a chael taith dywys o’r Unedau Pŵer Hydrogen ar y safle drwy ymweld â Morlais yn y GwyddonLe. 

🍀Pob lwc i bawb sy'n cystadlu🎭🤩