Gwahoddir busnesau a thirfeddianwyr i gymryd rhan mewn cyfle newydd arwyddocaol.
Gan weithio gydag Uchelgais Gogledd Cymru, mae Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam wedi cyhoeddi galwad agored am brosiectau a safleoedd i lywio datblygiad Parth Buddsoddi Gweithgynhyrchu Uwch ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru. Bydd dealltwriaeth o safleoedd addas a phrosiectau buddsoddi yn helpu i nodi cwmpas ac uchelgais yr hyn y gall y Parth Buddsoddi ei gyflawni
Mae’r cyfle i gymryd rhan yn gyfle anhygoel, felly anogir busnesau a thirfeddianwyr i gyflwyno eu syniadau erbyn y dyddiad cau, sef 26 Gorffennaf 2024.
Ym mis Tachwedd 2023, cyhoeddodd Datganiad Hydref Trysorlys EM y cyfle cyffrous hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol Sir y Fflint a Wrecsam i gyd-ddatblygu cynnig i sicrhau pecyn cyllido o hyd at £160 miliwn. Nod y cyllid yw targedu safleoedd a phrosiectau allweddol i wella a thyfu clwstwr gweithgynhyrchu uwch a fydd yn gydnabyddus yn fyd-eang ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru dros y deng mlynedd nesaf.
Fel cam nesaf, gofynnir am gynigion sy'n tynnu sylw at brosiectau arloesol, effaith uchel sy'n gallu trawsnewid yr economi leol yn Sir y Fflint a Wrecsam. Nod yr alwad yw nodi safleoedd allweddol sy'n addas i'w datblygu i gefnogi rhagoriaeth gweithgynhyrchu uwch, i feithrin twf economaidd, creu swyddi, a datblygiad technolegol.
Anogir busnesau a thirfeddianwyr sydd â diddordeb i gwblhau ffurflen sy'n amlinellu sgôp eu cynnig, yr effaith economaidd bosibl, a pharodrwydd y prosiect ar gyfer datblygiad. Mae gan y cynghorau ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sydd:
- Yn cynnig technolegau phrosesau gweithgynhyrchu arloesol.
- Gyda'r potensial i greu swyddi sgiliau uchel.
- Yn cyd-fynd ag egwyddorion cynaliadwyedd a gweithgynhyrchu gwyrdd.
- Yn gallu dangos llwybr clir at weithredu.
Am ragor o wybodaeth neu ymholiadau, gall busnesau gysylltu â chydlynydd y prosiect Iain Taylor Iain@imtconsulting.co.uk
Mae'r fenter yn gyfle sylweddol i fusnesau sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu uwch gyfrannu at, ac elwa o, ddatblygiad hŵb weithgynhyrchu flaenllaw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Drwy gymryd rhan, gall busnesau:
- Cael cyllid sylweddol i gefnogi prosiectau arloesol.
- Bod yn rhan o glwstwr gweithgynhyrchu o bwys byd-eang.
- Meithrin partneriaethau gydag awdurdodau lleol a busnesau eraill.
- Helpu i lunio dyfodol gweithgynhyrchu uwch yn y rhanbarth.
Mae cyhoeddi dynodiad Parth Buddsoddi Gweithgynhyrchu Uwch yn gyfle trawsnewidiol i Sir y Fflint a Wrecsam.
Meddai Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru (Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd):
“Mae potensial y Parth Buddsoddi hwn yn aruthrol. Drwy gydweithio, gallwn greu clwstwr gweithgynhyrchu ffyniannus, cynaliadwy a chystadleuol yn fyd-eang yn Sir y Fflint a Wrecsam. Mae hwn yn gyfle hynod gadarnhaol i’n rhanbarth, ac rwy’n gyffrous am y posibiliadau sydd ganddo.
“Wrth inni symud ymlaen, rwy’n annog holl randdeiliaid i ymgysylltu â’r fenter hon. Rhannwch eich syniadau, amlygwch eich anghenion, a rhowch wybod i ni sut y gallwn gefnogi eich twf. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod Sir y Fflint a Wrecsam yn dod yn feincnod ar gyfer rhagoriaeth gweithgynhyrchu uwch.”
I gael rhagor o fanylion gwyliwch y Drafodaeth Mewnwelediadau Busnes hon a gynhelir gan Carwyn Jones, yn cynnwys Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru (Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd) ac Iain Taylor, Cyfarwyddwr yn IMT Consulting ac Uwch Gydymaith, AMION Consulting: