Ysgrifennwyd gan Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Cafodd unigolion a chwmniau sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru eu hamlygu gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf, Sophie Howe, heddiw, wrth iddi ddod i ddiwedd ei thymor saith mlynedd.

Roedd rhestr 100 Ysgogwyr Newid gan Genedlaethau’r Dyfodol, yn cynnwys beirdd, gweithwyr o’r sector cyhoeddus, gweithredwyr, dylanwadwyr, busnesau, ysgolion a gwirfoddolwyr sydd wedi helpu i wreiddio’r nodau llesiant ledled Cymru.

 

Dywedodd Sophie Howe: “Mae deddfwriaeth llesiant Cymru’n rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i weithredu y tu allan i’r status quo, ond mae yna filoedd o bobl sy’n gwneud newidiadau cadarnhaol bob dydd.  

 “Mae’r digwyddiad hwn yn ymwneud â chydnabod rhai o’r bobl sy’n dangos beth sy’n digwydd pan fyddwn yn rhoi blaenoriaeth i lesiant, i weithio gyda’n gilydd ac ystyried goblygiadau hirdymor ein gweithrediadau, ac mae’n amlygu’r angen i gynorthwyo ysgogwyr newid fel y gallant wella cymdeithas i bawb.  

“Dim ond ciplun o’r ysgogwyr newid gwych yng Nghymru yw Ysgogwyr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol 100, ac rydym am i eraill rannu’r bobl sy’n eu hysbrydoli, a chynnal y momentwm yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.” 

 

Mae’n gadarnhaol i weld gymaint o unigolion a busnesau o Ogledd Cymru yn cael eu cydnabod fel ysgogwyr, yn cynnwys Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru, Alwen Williams, sydd yn cael ei chydnabod am ei chyfraniad i ddyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ystod ei chyfnod pan basiwyd y ddeddf, ond yn ogystal yn ei rôl bresennol yn arwain Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Mae Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru, Alwen Williams, hefyd yn cael ei chydnabod ar y rhestr am ei chyfraniad i ddyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ystod ei chyfnod pan basiwyd y ddeddf, ond yn ogystal yn ei rôl bresennol yn arwain Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

 "Mae'n anrhydedd cael fy nghynnwys ar restr Ysgogwyr Newid Cenedlaethau'r Dyfodol; mae'n fraint fawr cael fy nghydnabod ochr yn ochr â'r holl bobl ysbrydoledig hyn. Rydym i gyd yn rhan o rwydwaith llawer ehangach o bobl sy'n credu'n gryf mewn gweithio'n wahanol wrth i ni lunio'r dyfodol".

“Mae’r rhestr yn cysylltu pobl o’r un anian ac yn galluogi mwy o sgyrsiau a phosibiliadau newydd o sut rydym yn mynd i’r afael â heriau mwyaf cymhleth y byd ac yn ymateb iddynt, er mwyn creu dyfodol y gallwn fod yn falch ohono ar gyfer y cenedlaethau o’n blaen”.

“Hoffwn ddiolch i Sophie am ei harweinyddiaeth a’i hangerdd heintus dros y saith mlynedd diwethaf a chroesawu Derek Walker fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol newydd.”

 

Am y rhestr lawn: https://www.futuregenerations.wales/wp-content/uploads/2023/01/Ysgogwyr-Newid-100.pdf

 

 

~

Ysgogwyr Newid Gogledd Cymru:

  • Sian Brierley Cydlynydd Gweithgareddau, Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n helpu cleientiaid i wneud newidiadau i'w ffordd o fyw er mwyn gwella eu lles.

 

  • Mae Cyngor Tref Cricieth yn gyfrifol am lawer o weithgareddau i wella'r ardal a nifer yr ymwelwyr, gan gynnwys cynnal digwyddiadau cymunedol a phaneli dehongli treftadaeth.

 

  • Mae tîm Cwmni Bro Ffestiniog yn hwyluso cydweithrediad rhwng busnesau cymunedol a mentrau sy'n cyflogi tua 150 o bobl yn lleol, gan gynnig cyfleoedd gyrfa i bobl sydd am aros yn eu cymuned.

 

  • Mae Meleri Davies a Phartneriaeth Ogwen, sydd wedi'u lleoli yng Ngwynedd, yn datblygu prosiectau adfywio cymunedol, economaidd ac amgylcheddol, gan gynnwys y cynllun hydro cymunedol a Dyffryn Gwyrdd.

 

  • Mae Dr Tom Downs, Dr Stacey Harris a Dr Yasmina Hamdaoui yn Ystybty Gwynedd yn herio'r system gofal iechyd i leihau allyriadau gwastraff ac maent wedi dechrau rhwydwaith o grwpiau gofal iechyd gwyrdd sy'n deall yr hinsawdd ledled Cymru.

 

  • Cyd-sefydlodd Samantha Egelstaff, Grŵp Gweithredu Llifogydd Llanrwst, y grŵp yn dilyn digwyddiad llifogydd mawr Storm Ciara 2020, trwy gydlynu aelodau’r gymuned yn dimau, gan gynnwys wardeniaid llifogydd gwirfoddol, darpariaeth bagiau tywod, glanhau cymunedol, dosbarthu rhoddion, gofod cynnes a darpariaeth bwyd poeth a chyngor ar lety dros dro a thrwsio.

 

  • Mae Helen Goddard, Pennaeth Diwylliant, Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Cyngor Bwrdeistref Conwy, yn sicrhau bod lles yn cael ei adlewyrchu yn null a phenderfyniadau'r Cyngor, gan bwysleisio pwysigrwydd lleihau anghydraddoldebau rhanbarthol a dathlu treftadaeth a diwylliant.

 

  • Mae Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, wedi llywio prosiectau sy’n canolbwyntio ar ddiwylliant ac iaith, ffermio, cefnogi’r bregus a datblygiad mwy diweddar cynllun llanw Morlais.

 

  • Mae Bill Hunt, Is-Gadeirydd Bwrdd Cartrefi Conwy a Chadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Tenantiaid, Cartrefi Conwy, wedi bod yn llais tenantiaid ar nifer o brosiectau adfywio’r Gymdeithas, sy’n ymgorffori’r nodau llesiant.

 

  • Mae Dr Salamatu Jidda-Fada, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Cymdeithas Gogledd Cymru Affrica, yn cefnogi Affricanwyr sy'n byw yng Ngogledd Cymru i gael mynediad at wasanaethau tai, trafnidiaeth, gofal iechyd ac addysg ar gyfer lleiafrifoedd ethnig.

 

  • Mae Chris Roberts, Cyd-sylfaenydd Pêl-droed Cymunedol Dreigiau Gogledd Cymru, yn ymgysylltu ag ystod amrywiol o bobl ac yn cael ei fframio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a nodau cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

 

  • Mae Nina Ruddle, Pennaeth Ymrwymiad Polisi ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam a Phartneriaeth Mewnwelediad ac Ymchwil Gogledd Cymru, yn arwain y Genhadaeth Ddinesig ar gyfer y Brifysgol ac mae wedi bod yn ganolog i ddatblygu partneriaethau a chydweithio traws-sector er mwyn sicrhau newid cymdeithasol.

 

  • Wil Stewart, Warden Cyngor Sir Ynys Môn, yn arwain teithiau cerdded a ragnodir gan y gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru, gan ddarparu therapi naturiol ac anelu at roi manteision emosiynol, meddyliol a chorfforol i bobl o ganlyniad i gysylltu â natur ac wrth gwrs, i wella eu hiechyd.

 

  • Mae Trefnu Cymunedol Cymru, yn gynghrair o sefydliadau ffydd, grwpiau cymunedol ac ysgolion o ogledd-orllewin Cymru. Maent yn mynd i'r afael â materion cymdeithasol trwy gefnogi cymunedau amrywiol i ennill y pŵer sydd ei angen arnynt i weithredu newid
  • Hwb Lles Wrecsam, sef cydweithrediad rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Wrecsam. Mae’n cynnig iechyd a gofal cymdeithasol i’r gymuned leol mewn un lle – gan ddod â gwasanaethau cymunedol a statudol ynghyd i ddiwallu anghenion pobl leol.