Mae Lucy Rimmer wedi cael ei phenodi yn Is-gadeirydd Grŵp Clwstwr Sgiliau Digidol Gogledd Cymru. Yn Rheolwr Dysgu a Datblygu gyda Qioptiq Ltd, bydd Lucy yn gyfrifol am oruchwylio a rhoi ar waith cynllun newydd a lansiwyd yn ddiweddar, sef Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru.

Fel Is-gadeirydd, mae Lucy yn edrych ymlaen at ymgysylltu gyda phartneriaid i ddatblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol ac i weithio gyda busnesau lleol a darparwyr addysg i annog newid cadarnhaol.

Gan edrych ymlaen at ddechrau yn ei rôl newydd, dywedodd Lucy: “Mae gan y Grŵp Clwstwr Sgiliau Digidol blatfform i bontio bylchau sgiliau ac amlygu’r cyfleodd newydd ac amrywiol sydd yna yma yng Ngogledd Cymru. ‘Dw i’n awyddus i weithio gyda chyflogwyr i annog mwy o bobl i’r sector ac i gefnogi gweithgareddau ble gallwn ddylanwadau ar ddewisiadau gyrfa  pobl, fel Gyrfa Cymru sy'n gweithio gyda phobl ifanc ar eu dewisiadau nhw i’r dyfodol.

“Dw i’n gobeithio y gallwn annog mwy i fynychu’r grŵp ac i ymgysylltu gyda ni a chymryd rhan mewn cynlluniau sy’n bodoli’n barod, ac yn y pendraw yn elwa o ganlyniadau go iawn. Drwy ddod â chyflogwyr at ei gilydd gallwn ddechrau hyrwyddo a dathlu’r ystod eang o gyfleoedd datblygu gyrfaoedd a sgiliau sydd ar gael yng Ngogledd Cymru.”

Wrth i Lucy ddechrau yn ei rôl newydd, mae adroddiad diweddar gan Bartneriaeth Sgiliau Gogledd Cymru yn amlygu’r prinder sgiliau digidol y rhanbarth. O'r rhai sydd mewn cyflogaeth yng Ngogledd Cymru dim ond 1.5% sydd mewn rôl a ystyrir yn draddodiadol yn rolau digidol. Gyda chynnydd yn y galw am sgiliau digidol, ac effeithiau’r pandemig, mae 70% o gyflogwyr lleol yn dweud eu bod yn wynebu heriau sgiliau a 48% yn dweud eu bod yn cael trafferth recriwtio’r sgiliau cywir.

Mae Lucy yn ymwybodol iawn o’r dasg sydd o’i blaen. Ychwanegodd: “Mae amrywiaeth yn ffocws allweddol i mi ac i’r Grŵp Clwstwr Sgiliau Digidol. Mae angen i ni ddeall y rhwystrau diwylliannol a hygyrchedd y mae pobl yn eu hwyneb wrth geisio ennill sgiliau digidol a sut gall gyflogwyr helpu. Rwy’m sicr fod darparu mwy o addysg ar yr hyn yw sgiliau digidol a chreu opsiynau gyrfa yn rhan bwysig o’r hyn sydd ei angen. Mae uwchsgilio’r gweithlu cyfredol yn bwysig hefyd ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr y grŵp i sicrhau fod hyn yn digwydd.”

Croesawodd Pryderi Ap Rhisiart Cadeirydd y Grŵp Clwstwr Sgiliau Digidol Lucy i’r grŵp: “Daw Lucy â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad uniongyrchol o’r sector digidol i’r bwrdd, yn ogystal â gwir ddealltwriaeth o’r heriau. Mae’r cyfleoedd o fewn y sector yng Ngogledd Cymru yn eang ac yn amrywiol – gyda’r Is-gadeirydd newydd yn rhan o’r tîm, rydym yn edrych ymlaen at wneud y mwyaf o’r cyfleoedd hyn heddiw, ac yn y dyfodol.”

Mae’r Grŵp Clwstwr Sgiliau Digidol yn is-grŵp Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru. Drwy ddod a chyflogwyr, darparwyr sgiliau a rhanddeiliaid lleol ynghyd i adnabod yr angen sgiliau cyfredol ac yn y dyfodol, a datblygu dulliau ar y cyd o sicrhau bod y sgiliau hynny’n cael eu datblygu er budd y rhanbarth.

O fis Ebrill 2023 ymlaen, mae'r grŵp wedi esblygu'n ddwy ran; y ‘Dwsin Digidol’, grŵp o 12 o gyflogwyr a fydd yn llywio’r gwaith o gyflawni cynllun gweithredu’r grŵp, a’r ‘Rhwydwaith Sgiliau Digidol’, grŵp ehangach o gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant rhanbarthol a fydd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r camau gweithredu.

  • Lucy Rimmer

    Is-Gadeirydd newydd y Grŵp Clwstwr Sgiliau Digidol