Am yr ail waith mewn cymaint o fisoedd fe ymwelodd Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, David T C Davies â phrosiectau’r Cynllun Twf yng ngogledd Cymru.

 

Yn awyddus i ddysgu mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y rhanbarth i ailadeiladu economi gryfach a fwy cynaliadwy, ymwelodd â Chanolfan Prosesu Signalau Digidol (DSP), Prifysgol Bangor; y Ganolfan Peirianneg Menter ac Opteg mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Glyndwr; a safle datblygu cyn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych.

 

Wrth siarad am ei ymweliad dywedodd Mr Davies: “Rwy’n hynod o falch o gael y cyfle i weld y gwaith sy’n digwydd yng ngogledd Cymru i ail adeiladu economi gryfach wedi cyfnod mor heriol. Mae ystod y prosiectau yn dangos cynifer o gyfleodd sydd yma, gyda phwyslais go iawn ar y meysydd twf gan gynnwys sectorau holl bwysig -  carbon isel a digidol.

“Ar ôl ymweld ddiwedd Mai, roeddwn i eisiau dod yn ôl i ddysgu mwy am gynlluniau’r Cynllun Twf ac i gwrdd â’r rheiny sy’n gyfrifol am yrru’r gwaith pwysig yma yn ei flaen.”

 

Cafodd y Gweinidog ei groesawu gan Fwrdd Uchelgais Economi Gogledd Cymru, sy’n arwain ar y gwaith o sicrhau’r budd i’r rhanbarth o fuddsoddiad y Cynllun Twf.

 

Roedd y tri cynllun a oedd yn rhan o ymweliad y Gweinidog yn rhan o fuddsoddiad gwerth £1.1 miliwn yng ngogledd Cymru, gyda chefnogaeth o £240 miliwn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

 

Mae un o’r prosiectau hynny, y Ganolfan DSP ym Mangor yn edrych ar ffyrdd o drosglwyddo canfyddiadau gwaith ymchwil a datblygu i mewn i wasanaethau a chynnyrch newydd ar gyfer maes cyfathrebu digidol. Mae’r Ganolfan sy’n cael ei chydnabod fel un o gyfleusterau mwyaf blaengar y byd o ran prosesu signalau digidol, eisoes yn rhoi gogledd Cymru ar y map diolch i’r gwaith arloesol sy’n digwydd yno.

 

Mark Pritchard yw Is-gadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Wrth groesawu David Davies, dywedodd: “Roeddem wrth ein bodd bod Mr Davies eisiau dychwelyd i’r rhanbarth i ddysgu mwy am ein gwaith, mor fuan ar ôl ei ymweliad cyntaf. Mae'n gyfle gwych i ddangos mwy o'r prosiectau a fydd yn helpu i greu economi gynaliadwy yma ar gyfer Gogledd Cymru.”

 

-------

Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn fuddsoddiad o £ 1.1 biliwn yn y rhanbarth, gyda £240 miliwn yn cael ei ariannu gan Lywodraethau Cymru a'r DU. Daw'r gweddill y buddsoddiad o’r sector cyhoeddus, y sector breifat a ffynonellau eraill. Mae’r Cynllun Twf yn cael ei gweithredu gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.