Wythnos diwethaf, fe wnaeth Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru groesawu Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, y Gweinidog David T C Davies AS â'r Gogledd, sef ei ymweliad Gweinidogol cyntaf ers i'r cyfyngiadau Covid lacio.

 

Yn ystod ei ymweliad, cafodd y Gweinidog gyfle i ymweld â phrosiectau yn cynnwys Canolbwynt Economi Gwledig Glynllifon, Ynni Morol Morlais a'r Rhwydwaith Talent Twristiaeth. Dywedodd y Gweinidog:

“Mae’r prosiectau a welais yn dangos ymhellach yr ymrwymiad sydd gan Lywodraeth y DU i ddod â mwy o fuddsoddiad a chyfleoedd i gymunedau ledled Gogledd Cymru. Mae 2021 yn mynd i fod yn flwyddyn arwyddocaol i Gymru wrth i ni geisio adeiladu’n ôl yn well ac yn gryfach o bandemig Covid-19. 

Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i adeiladu ein momentwm ar draws y Rhaglen Bargen Dinas a Thwf gyfan, gan greu a chynnal swyddi newydd ac adfywio economïau lleol.”

Mae pob un o'r tri phrosiect yr ymwelodd Mr Davies â nhw yn rhan o fuddsoddiad gwerth £1.1biliwn i'r Gogledd, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a fydd yn adeiladu economi cynaliadwy a gwydn ar gyfer y rhanbarth.

 

Un o'r rheini oedd prosiect Morlais, buddsoddiad o £34miliwn ger Ynys Gybi, Môn. Mae Morlais yn un o brosiectau mwyaf datblygedig y Cynllun Twf, a'i nod yw creu un o'r safleoedd ynni llif lanw mwyaf yn y byd. Bydd yn datblygu hyd at 35km2 o wely'r môr, yn creu cannoedd o swyddi newydd ac yn cynhyrchu hyd at 240MW o drydan - gyda digon o ynni i bweru 180,000 o gartrefi. 

 

Roedd Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, yn falch o groesawu'r Gweinidog i'r Gogledd ac i drafod y cynnydd sydd wedi'i wneud:

'Mae croesawu'r Gweinidog i ddod i weld rhai o'n prosiectau cyffrous ni yma yn y Gogledd, drosto ei hun, wedi bod yn fraint ar ôl cyfnod mor hir o gyfyngiadau yn sgil Covid.

Mae'r ymweliad hwn wedi bod yn gyfle i'w ddiweddaru ar yr holl waith caled sydd wedi parhau yn ystod y pandemig, ac arddangos rhai o'r prosiectau a fydd yn elwa o fuddsoddiad y Cynllun Twf.

Edrychwn ymlaen at ei groesawu'n ôl eto yn y dyfodol."

Yn dilyn ei daith o amgylch Prosiectau’r Cynllun Twf, manteisiodd y Gweinidog Davies ar y cyfle i ymweld ag ‘Adventure Parc Snowdonia’, datblygiad a chefnogwyd gan £7m gan Lywodraeth Cymru, i nodi ailagor ôl-bandemig yr atyniad.

 

Yn ganolbwynt o weithgareddau dan do ac awyr agored, mae ‘Adventure Parc Snowdonia’ yn gartref i forlyn syrffio, atyniad a brofodd y Gweinidog ar ôl derbyn taith o amgylch y cyfleusterau ehangach gan dîm gweithredol y Parc. Dywedodd David TC Davies, Gweinidog Cymru:

“Mae'n galonogol gweld y sector twristiaeth trawiadol yn ailagor gydag atyniadau o'r radd flaenaf fel ‘Surf Snowdonia’, rhan o ‘Adventure Parc Snowdonia’, ar gael ledled Cymru ac ar gael unwaith eto i'r cyhoedd.”

 Mae diwydiant twristiaeth bywiog a chryf yn hanfodol i Gymru wrth i ni wella ar ôl pandemig Covid-19, ac er bod llawer i'w wneud eto rydym ar y llwybr cywir.”

Am ragor o wybodaeth am Gynllun Twf Gogledd Cymru, ewch i www.northwaleseab.co.uk/cy neu dilynwch @buegogleddcymru neu @northwaleseab ar Twitter.  

 

________________

 

Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn gytundeb o £1.1 biliwn wedi'i ariannu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru dan arweiniad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

Y Gweinidog ar ei ymweliad