Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi croesawu amserlen reilffyrdd newydd Trafnidiaeth Cymru, gan ei disgrifio fel cam mawr ymlaen i gysylltedd ac yn hwb i economi’r rhanbarth.
Gan ddod i rym ar ddydd Sul 17 Mai 2026, bydd y diweddariad yn dod â newidiadau sylweddol i amserlenni Gogledd Cymru. Bydd y newid yn gweld cynnydd o tua 50% yn nifer y gwasanaethau rheilffordd ar hyd arfordir Gogledd Cymru, ac yn cyflwyno ailgynllunio ehangach o wasanaethau ar lwybrau i’r gogledd a’r gorllewin o Amwythig a Crewe.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru – sef Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd – yn disgwyl i’r cynnydd yn amlder trenau, yn enwedig ar rannau prysuraf rwydwaith Cymru a’r Gororau, wneud y rheilffordd yn opsiwn mwy ymarferol ar gyfer cymudo, teithio busnes ac addysg, tra hefyd yn cefnogi’r economi ymwelwyr a lleihau dibyniaeth ar y car.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Cadeirydd Is-bwyllgor Trafnidiaeth y Cyd-bwyllgor Corfforedig:
“Mae gwasanaethau rheilffordd amlach a mwy dibynadwy sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o Rwydwaith Gogledd Cymru yn hanfodol i ryddhau twf ar draws Gogledd Cymru. Mae’r amserlen hon yn gam i’r cyfeiriad cywir. Bydd yn ei gwneud hi’n haws i bobl gyrraedd y gwaith, ochr yn ochr â chryfhau’r cysylltiadau rhwng ein cymunedau, safleoedd cyflogaeth allweddol a chyrchfannau ymwelwyr. Byddwn yn parhau i weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru a phartneriaid i sicrhau bod y gwelliannau’n cael eu darparu mewn ffordd sy’n diwallu anghenion lleol ac yn cefnogi buddsoddiad hirdymor yn y rhanbarth.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Glyn Banks, Is-gadeirydd y Pwyllgor:
“Mae’r gwelliannau i’r gwasanaethau rheilffyrdd yn newyddion cadarnhaol i’r rhanbarth. Mae’r newidiadau’n sylfeini pwysig ar gyfer twf economaidd hirdymor, a byddant yn helpu busnesau i recriwtio a masnachu ar draws ardal ehangach, gan gryfhau apêl Gogledd Cymru fel lle i fuddsoddi, gweithio ac ymweld.”
Ymhlith y prif newidiadau mae trenau o Faes Awyr Manceinion a arferai redeg i Landudno yn cael eu hailgyfeirio i wasanaethu Caergybi, cryfhau cysylltiadau â Gogledd-orllewin Lloegr a gwelliannau i gysylltiadau ar gyfer teithwyr sy’n teithio i ac o Iwerddon. Mae newidiadau eraill yn cynnwys ymestyn gwasanaeth Lerpwl i Gaer ymlaen i Landudno, gan greu cysylltiadau uniongyrchol newydd rhwng Gogledd Cymru a Rhanbarth Dinas Lerpwl. Disgwylir i’r cysylltiad newydd wella mynediad at swyddi a gwasanaethau ar draws y ffin, tra’n helpu mwy o ymwelwyr i gyrraedd trefi ac atyniadau Gogledd Cymru ar y trên.
Bydd gwasanaethau lleol ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd hefyd yn cael eu hail-lunio, gyda phatrwm newydd wedi’i fwriadu i wella opsiynau cymudo i Gaergybi a Bangor, gyda gorsaf Y Fali yn dod yn arhosfan orfodol ar wasanaethau perthnasol.