Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru gyda Callum Murray, Cyfarwyddwr Creadigol Cufflink

 

Cipiodd cwmni o Fôn wobr Gogledd Cymru yn seremoni wobrwyo busnesau newydd Cymru yng Nghaerdydd nos Iau. Derbyniodd y categori, sy’n cael ei noddi gan Uchelgais Gogledd Cymru, y nifer uchaf erioed o geisiadau o bob cwr o’r rhanbarth, gan fusnesau o bob sector - o’r digidol i wasanaeth mwy traddodiadol.

 

Cafodd Cufflink, y cwmni buddugol ei sefydlu nôl yn 2018, mae bellach yn gweithredu o barc gwyddoniaeth M-SParc yn Gaerwen. Nod y cwmni yw helpu pobl i storio ac i rannu data personol neu gorfforaethol yn ddiogel trwy ap sy’n cyfyngu ar ganlyniadau tor diogelwch data.

 

Mae Alwen Williams yn Gyfarwyddwr Portffolio ar noddwr y categori, Uchelgais Gogledd Cymru. Wrth gyflwyno'r wobr, dywedodd: “Hoffwn longyfarch tîm Cufflink ar ennill y wobr hon, a ‘dw i’n gobeithio bydd eu llwyddiant yn ysbrydoli eraill. Mae’r busnes wedi tyfu yn sylweddol yn yr ychydig flynyddoedd mae wedi bod yn gweithredu ac mae’r gwaith maen nhw’n gwneud yn torri tir newydd yn nhermau technoleg ddigidol.

 

“Hoffwn hefyd gydnabod y busnesau eraill oedd ar y rhestr fer. Maen nhw’n sicr yn rhoi gogledd Cymru ar y map yn nhermau arloesedd ac entrepreneuriaeth ac rydyn ni’n falch o gynrychioli rhanbarth sydd â chymaint o dalent. Mae busnesau bach a newydd yn hanfodol ar gyfer llwyddiant yr economi yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, ac mae’r cynllun gwobrau ‘Start-Up Wales’ yn ddathliad arbennig o’r holl fusnesau cafodd eu henwebu.”

 

Dywedodd Callum Murray, Cyfarwyddwr Creadigol Cufflink: "Rydym mor falch ein bod wedi ennill y categori Gogledd Cymru yn y gowbrau yma eleni. O fod wedi ein lleoli yng Ngogledd Cymru, mae'n golygu ein bod yn y sefyllfa orau i ddechrau ein busnes ac i fanteisio ar y dalent ranbarthol orau.


Mae Cufflink yn amddiffyn rhag ymosodiadau seiber-ddiogelwch, gan wneud busnesau'n fwy diogel. Rydym yn edrych ymlaen i barahau gweithio yng Ngogledd Cymru ac rydym yn gyffrous am y dyfodol."

 

Mae’r digwyddiad yn ei gyfanrwydd yn dathlu entrepreneuriaid a busnesau newydd o bob rhan o Gymru, gyda dros 2,500 o geisiadau wedi’u cyflwyno o eleni.

 

Sefydlodd Yr Athro Dylan Jones-Evans OBE y gwobrau yn ôl yn 2016. Dywedodd: “Rydw i’n falch iawn bod Cufflink wedi’u hadnabod gan y beirniaid eleni ac wedi’u gwobrwyo fel busnes newydd Gogledd Cymru 2022. Mae Billie a’i dîm wedi dod yn bell ers iddynt ennill y wobr ‘Start-Up’ seiber yn ôl yn 2020 ac rydw i wrth fy modd eu bod nhw’n parhau i ddatblygu a dangos bod y Gogledd yn ardal wych i ddechrau a thyfu busnes ynddi.”

 

Y tri busnes arall ar y rhestr fel ar gyfer yr un wobr oedd Revive! Auto Innovations; The Old Bakery o Gaergybi; a busnes rhyngrwyd pethau DewinTech.