Mae sector bwyd amaeth gogledd Cymru wedi derbyn hwb sylweddol gyda chymeradwyo achos busnes amlinellol Hwb Economi Wledig newydd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (Bwrdd Uchelgais).

Bydd cynlluniau Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer Coleg Glynllifon ger Caernarfon yn darparu unedau cynhyrchu bwyd i gefnogi busnesau newydd rhanbarthol yn ogystal â  busnesau sydd am ehangu. Y nod yw sicrhau bod yr economi wledig ehangach yn elwa trwy gael mynediad i'r Ganolfan Wybodaeth, yn ogystal ag arbenigedd rheoleiddio, cefnogaeth busnes ac arloesi, a chyfleoedd i rwydweithio.

Yn un o dri phrosiect sydd wedi’u cynnwys yn rhaglen Bwyd Amaeth a Thwristiaeth Cynllun Twf Gogledd Cymru, bwriad yr Hwb fydd helpu cynhyrchwyr bwyd i ddod yn fwy cadarn trwy arloesi ac arallgyfeirio. Gall y cynllun dderbyn buddsoddiad o £10 miliwn trwy'r Cynllun Twf, cyfran sylweddol o gyfanswm y prosiect, sef £13 miliwn.

Ar ôl sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer y cam cyntaf hwn, bydd Grŵp Llandrillo Menai yn datblygu achos busnes llawn am arian i ddechrau datblygu’r Hwb yn 2022.

Dywedodd Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Conwy ac aelod arweiniol Rhaglen Bwyd Amaeth a Thwristiaeth y Bwrdd Uchelgais:

“Mae hyn yn newyddion gwych i’r sector a’r economi wledig ar draws gogledd Cymru. Dyma'r prosiect cyntaf o’n rhaglen Bwyd Amaeth a Thwristiaeth i gyrraedd y cam hwn, gan nodi carreg filltir bwysig arall ar gyfer y Cynllun Twf.

Bydd yr Hwb yn hyrwyddo swyddi a chynhyrchiant mewn sector sy’n allweddol i’r rhanbarth. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut bydd y fenter yn creu cyfleoedd newydd yn ogystal ag annog arloesedd ymhlith ein cynhyrchwyr bwyd.”

Mae disgwyl i Hwb Economi Wledig Glynllifon greu 96 o swyddi llawn amser mewn busnesau bwyd lleol gydag effaith economaidd uniongyrchol o £45miliwn dros y 15 mlynedd nesaf.

Ychwanegodd Paul Bevan, Uwch Gyfarwyddwr - Datblygiadau Masnachol, Grŵp Llandrillo Menai:

“Mae gan Goleg Glynllifon hanes hir o ddarparu rhagoriaeth a chyfrannu at yr economi wledig yng ngogledd Cymru. Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni’n datblygu'r Hwb Economi Wledig newydd fydd yn atgyfnerthu ein henw da am hyrwyddo a chefnogi cyflogaeth a hyfforddiant yn y sector hwn.

Fel y mwyafrif o ddiwydiannau, mae’r economi wledig ar drobwynt.  Rhaid i ni addasu a chofleidio newidiadau’r dyfodol, mae hyn yn cynnwys cryfhau a hyrwyddo cadwyni cyflenwi lleol i ddarparu mwy o gyfleoedd i ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd y rhanbarth.

Bydd darparu mynediad i’r unedau cynhyrchu a phrosesu bwyd a chymorth technegol arbenigol yn creu amgylchiadau delfrydol i fusnesau sefydlu eu hunain a thyfu, gan roi’r ardal ar y map ym maes arloesi bwyd a diod.”

Yn amodol ar sicrhau cyllid a chaniatâd angenrheidiol, mae disgwyl i’r  gwaith o adeiladu'r Hwb Economi Wledig ddechrau ar y safle ddiwedd 2022, gyda'r nod o agor yn 2024.

Mae disgwyl i’r Bwrdd Uchelgais ystyried achos busnes llawn y prosiect hwyr yn 2022.