Nid yw pandemig y Coronafeirws wedi atal cynnydd mawr sy'n cael ei wneud ar yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru £8m o gyflwyno band eang gigabit o'r ansawdd uchaf i 350 o safleoedd ar draws Sir Ddinbych, Ynys Môn, Conwy, Gwynedd, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae'r newid o ddarpariaeth copr - fel rhan o'i Raglen Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol (LFFN) – wedi gweld yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn gweithio mewn partneriaeth â'r Bwrdd Uchelgais ers i'r cais cychwynnol am gyllid gael ei wneud yn 2018.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais ac arweinydd cyngor Wrecsam, y bydd y cynllun yn ategu'r rhaglen ddigidol sy'n rhan o Fargen Twf Gogledd Cymru gwerth £1bn.

"Mae'r prosiect hwn yn diogelu cannoedd o safleoedd y sector cyhoeddus yng Ngogledd Cymru yn y dyfodol," meddai'r Cynghorydd Pritchard.

"Bydd ganddynt fynediad at allu a chysylltedd gigabit o'r ansawdd uchaf wrth i'w gofynion gynyddu a thyfu, gyda sefydliadau'n parhau i fabwysiadu technolegau newydd a gwella'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu.

"Gofal sylfaenol yw un o brif feysydd y prosiect, a bydd meddygfeydd ym mhob sir yn y rhanbarth hwn yn elwa o gysylltedd llawer gwell i gefnogi ffyrdd newydd o gyfathrebu â chleifion ac ysbytai."

Ychwanegodd: "Mae'r Coronafeirws wedi cynyddu'n sylweddol yr angen am well cysylltedd digidol rhwng trigolion a gwasanaethau cyhoeddus, a bydd yr LFFN yn rhoi cynghorau a byrddau iechyd mewn sefyllfa gryfach a mwy amlbwrpas i reoli heriau'r dyfodol.

"Ni fu erioed amser gwell i wneud y gwelliannau hyn ac rwyf wrth fy modd gyda'r cynnydd a wnaed hyd yma."

Mae Meddygfa Cadwgan yn Hen Golwyn yn enghraifft o safle sydd wedi elwa o'r LFFN.

Mae'r uwch bartner Dr Dylan Parry wedi gweithio yn y feddygfa ers dros 20 mlynedd ac yn dweud bod y buddsoddiad wedi trawsnewid eu bywydau bob dydd.

"Mae gennym ni 12,000 o gleifion, felly roedd ceisio gweithio'n ddigidol gyda chymaint o waith yn anodd," meddai Dr Parry.

"Roedd gennym broblemau gyda meddalwedd, profiad pori gwael a phroblemau eraill a wastraffodd amser clinigol a gweinyddol, yn ogystal â lleihau cynhyrchiant ac arwain at rwystredigaethau gyda gweithio o bell.

"Yn dilyn gosod band eang cyflymach, gwelsom welliant enfawr - roedd manteision uniongyrchol."

Safleoedd eraill a gafodd effaith gadarnhaol fel rhan o'r broses gyflwyno oedd Swyddfa Ystâd Parc Caia yn Wrecsam, Tîm y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl ym Mharc Castell y Fflint, ac adeilad Muriau yng Nghonwy, cartref Canolfan Groeso a siop anrhegion a thirnod yn Safle Treftadaeth y Byd ers y 1880au.

Dywedodd y Cynghorydd Emma Leighton-Jones, Aelod Cabinet Moderneiddio Conwy: "Rydym wedi ymrwymo i gyfres o raglenni digidol sydd â'r nod o wella gwasanaethau, yn ogystal ag ymestyn atebion cysylltedd cyflym i ardaloedd lle nad yw ar gael ar hyn o bryd.

"Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ac am gefnogaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn y rhaglenni hyn."

Mae LFFN yn fenter flaenllaw gan Lywodraeth y DU i ysgogi gweithredwyr rhwydwaith i ymestyn cyrhaeddiad band eang gigabit galluog ledled y wlad.

Llongyfarchodd y Gweinidog dros Seilwaith Digidol yn yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Matt Warman, yr awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru am gydweithio â phartneriaid i yrru'r cynllun yn ei flaen.

"O Ynys Môn i Wrecsam, mae gweld yr awdurdodau lleol yn cydweithio ar y prosiect hwn yn wych," meddai.

"Bydd hynny yn ei dro yn ysgogi busnesau i fanteisio'n ehangach ac yn gweld y sectorau cyhoeddus a phreifat yn cysylltu mewn ffordd ddiriaethol.

"Mae cynnydd da wedi'i wneud ac mae'n rhoi syniad i ni o sut mae'r dirwedd ddigidol yng Nghymru yn newid, a pha fanteision y gall band eang cyflymach eu cynnig.

"Rydym yn awyddus i fynd ymhellach fyth mewn partneriaeth â Llywodraethau Cymru a'r DU i sicrhau ein bod yn cyflwyno cysylltiadau gigabit ar draws y rhanbarth."

Mae'r gwaith uwchraddio i safleoedd terfynol yn cael ei wneud gan gontract Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) Llywodraeth Cymru gyfan, a ddarperir gan BT. Mae PSBA yn darparu gwasanaethau cysylltedd i bron i 5,000 o safleoedd yn y sector cyhoeddus ledled Cymru.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: "Rwy'n falch o weld y datblygiad hwn yng Ngogledd Cymru a bod y sector cyhoeddus eisoes yn elwa o'r gwelliannau a wnaed.

"Roedd contract PSBA yn cynnig ateb ar unwaith i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru drwy ddarparu rhwydwaith presennol i'r sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru ei ddefnyddio.

"Mae'r seilwaith sy'n cael ei osod yn y prosiect hwn hefyd yn caniatáu i rai cartrefi a busnesau ger adeilad sector cyhoeddus elwa o fand eang ffeibr llawn. Nawr yn fwy nag erioed rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cysylltiad band eang cyflym a dibynadwy ac mae'n dda gweld y gwaith hwn ar y gweill yng Ngogledd Cymru."

Ewch i www.llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth am argaeledd band eang cyflym iawn yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, e-bostiwch info@buegogleddcymru.co.uk neu dilynwch @BUEGogleddCymru (Cymraeg) neu @NorthWalesEAB (Saesneg) ar y cyfryngau cymdeithasol.