Am y tro cyntaf, bydd 'Real Estate Investment and Infrastructure Forum (REiiF)' y DU eleni yn cynnwys Pafiliwn Cymru gyfan.

Yn y lleoliad, bydd Uchelgais Gogledd Cymru, ynghyd â chymheiriaid o Ranbarth Prifddinas Caerdydd, Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, Tyfu Canolbarth Cymru, ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn arddangos yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.

Drwy drafodaethau panel craff a gwybodus, bydd tîm Cymru gyfan yn dangos cymwysterau’r genedl fel lleoliad deniadol ar gyfer buddsoddi – gan ddarparu cyfleoedd i fusnesau ddatblygu a thyfu ar draws ystod eang o sectorau allweddol. 

Bydd sesiynau ar gyfer cynadleddwyr ym Mhafiliwn Cymru yn canolbwyntio ar feysydd fel Parthau Buddsoddi a Phorthladdoedd Rhydd, Twf Gwyrdd, datblygu sy’n seiliedig ar effaith lleoliad, a llawer mwy.

  • Bydd Uchelgais Gogledd Cymru hefyd yn cynnal sesiwn frecwast ar Gysylltedd Digidol, wedi’i noddi gan Ontix.*

    Bydd trafodaeth banel ‘Cynllunio ar gyfer cysylltedd digidol ar y safle’ yn archwilio pwysigrwydd cysylltedd digidol mewn amrywiaeth o amgylcheddau, gyda phwyslais penodol ar gysylltedd cellog dan do ac yn yr awyr agored. Bydd ffactorau allweddol a heriau yn cael eu hystyried, ynghyd ag atebion seilwaith ymarferol.

    Cadeirydd:
    Nick Bennett, Cyfarwyddwr, Planning Economics, Savills ac Ymgynghorydd Anweithredol, Uchelgais Gogledd Cymru


    Aelodau’r panel:

    • Stuart Whitfield, Rheolwr Rhaglen Cysylltedd Digidol, Uchelgais Gogledd Cymru
    • Chris Newall, Prif Weithredwr, Ontix
    • Cymdeithas Ymgynghoriaeth a Pheirianneg (ACE)

    📅 8:30yb–10:00yb, Dydd Mercher 20 Mai
    📍Cymru Wales – Pafiliwn 2, Parth Porffor, UK REiiF 
    *Mae angen tocyn UK REiiF