Mae heddiw yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched!

Y thema yw #RhwygorRhagfarn (Break the Bias) sef canolbwyntio ar hyrwyddo'r anghydraddoldebau y mae menywod yn dal i'w hwynebu ym mywyd a gwaith.

Rhai o'r diwydiannau sydd â'r anghydraddoldeb mwyaf yw'r rhai o fewn STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg). Yng Nghymru, dim ond 25% o rolau TGCh y mae menywod yn eu gwneud, a dim ond 10% o Brentisiaid Adeiladu, Peirianneg a Gweithgynhyrchu sy'n fenywod.

Er y gallai'r ffigurau hyn ymddangos yn ddigalon, mae pethau'n newid. I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod buom yn siarad â thair merch sy’n gweithio mewn diwydiannau STEM ar draws Gogledd Cymru ac yn cydnabod eu llwyddiannau gyrfa gwych. Mae'r merched hyn yn paratoi'r ffordd ar gyfer y dyfodol ac yn torri'r rhagfarn sy'n dal i fodoli heddiw.

Cwrdd â menywod mewn STEM yn y Gogledd: Rhiannon Morgan, Pensaer, Gwenno Pritchard Evans, Peiriannydd a Robyn Lovelock, Rheolwr Rhaglen.

 

1)Beth yw eich rôl?
Rhiannon: "Rwy'n bensaer sy'n gweithio i gwmni yn Ynys Môn".

Gwenno: "Rwy'n Gydlynydd Prosiect ar gyfer tîm Cyflawni Peirianneg Diogelwch, rwyf wedi cymhwyso fel Peiriannydd Sifil Siartredig yn ddiweddar".

Robyn: "Rwy'n Rheolwr Rhaglen ar gyfer dwy Raglen y Cynllun Twf, ac un ohonynt yw Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel".

 

2) Beth oedd eich rheswm dros fod eisiau mynd i mewn i'ch rôl bresennol?
Rhiannon: "Dwi wastad wedi bod eisiau gweithio mewn dylunio mewn rhyw ffordd a dwi wrth fy modd gyda'r amrywiaeth o fewn fy swydd - dydi o byth yn ddiflas. Mae'r cwmni'n ffodus i weithio gyda llawer o sectorau o ofal cymdeithasol i dai preifat".

 

Gwenno: "Roeddwn i eisiau gweithio yn y sector hwn gan fy mod i'n caru mathemateg yn yr ysgol ac roeddwn wrth fy modd yn bod y tu allan. Mae pob diwrnod yn wahanol, mae cymaint o gyfleoedd i mi".

Robyn: "Dwi bob amser wedi bod â diddordeb mewn dod o hyd i atebion arloesol i heriau, un o fy amcanion allweddol ar gyfer y rhaglen hon yw gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu technolegau i leihau effaith newid yn yr hinsawdd - mae bod yn y diwydiant hwn yn teimlo fel fy mod yn gwneud gwahaniaeth".

3) Sut beth ydi bod yn fenyw yn eich gwaith?
Rhiannon: "Ar y cyfan, mae wedi bod yn gadarnhaol. Mae rhai adegau wedi bod lle mae rhai sylwadau wedi'u gwneud ond mae'r byd wedi newid llawer ers i mi ddechrau gweithio naw mlynedd yn ôl. Dwi'n credu bod pobl yn gyffredinol yn meddwl yn fwy 'cyfartal' heddiw".

 

Gwenno: "Dwi wedi ei chael hi'n bositif. Dwi wedi cael cefnogaeth drwy gydol fy ngyrfa, sydd wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau a'm gwybodaeth wrth ddod yn Beiriannydd Siartredig.

Robyn: "Yn gyffredinol wych, ac mae pethau'n gwella wrth i ymwybyddiaeth o amrywiaeth a chynhwysiant ddod yn fwy cyffredin. Dwi'n ffodus o fod yn gweithio mewn tîm a chyda phartneriaid sy'n cefnogi menywod mewn rolau arwain ond dwi'n meddwl bod timau a phaneli cynadledda gwrywaidd yn dangos bod gwaith i'w wneud i sicrhau bod hyn yn wir ar draws y sector yn y Gogledd a thu hwnt.".


4) Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fenyw ifanc sydd am fynd i mewn i faes STEM?
Rhiannon: "I ddod o hyd i gyfle cyn gynted ag y gallwch - i weld a yw'r diwydiant hwn ar eich cyfer chi! Mae profiad yr un mor werthfawr â dysgu yn y coleg, felly mae cael y ddau yn rhoi mantais sylweddol i chi".
 

Gwenno: "Ewch amdani! Nid oes unrhyw gywilydd mewn rhoi cynnig ar gyfleoedd newydd a chanfod beth sy'n gweithio i chi. Byddwch yn uchelgeisiol yn eich nodau a chydnabod nad oes terfyn ar yr hyn y gallwch ei gyflawni".

Robyn: "Credwch ynoch chi'ch hun, peidiwch â bod ofn lleisio'ch barn, a bod â hyder yn eich arbenigedd. Dim ond os yw pawb yn cydnabod pwysigrwydd cydraddoldeb mewn gwaith a bywyd y gallwn #RhwygorRhagfarn".

I gael rhagor o wybodaeth am bynciau STEM a sut y gallwch ddechrau gyrfa mewn STEM, ewch i Hwb STEM Gogledd